Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sêr Wimbledon

Pwy yw gwir sêr Pencampwriaethau Wimbledon?

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Nodi a dathlu'r bobl sy'n gweithio'n galed i lwyfannu digwyddiadau arbennig fel Pencampwriaethau Wimbledon.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r Gwasanaeth hwn (Wimbledon Stars) a’r modd o’u dangos yn ystod y Gwasanaeth.

  • Dewisol: Paratowch i ddarllen, neu trefnwch fod un o’r myfyrwyr yn darllen y rhan o’r Beibl, 1 Corinthiaid 12.14-22.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r myfyrwyr ac yn aros am eu hymateb.

    - Faint ohonoch chi sy’n mwynhau dilyn cystadlaethau tenis Wimbledon?
    - Pwy ydych chi’n meddwl fydd yn ennill yn Wimbledon eleni?
    - Pwy yw eich hoff seren ym myd tennis?

    Dangoswch Sleid 2 – y ddelwedd o Andy Murray.

  2. Mae'r chwaraewyr tennis sydd yn cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Wimbledon wedi treulio blynyddoedd lawer yn hyfforddi. Maen nhw wedi treulio miloedd o oriau, mewn pob math o dywydd, yn ymarfer eu sgiliau, gan anelu at ddod yn chwaraewyr gorau y gallan nhw fod. Mae'r ymroddiad sy’n cael ei ddangos gan bob un o'r chwaraewyr yn anhygoel, ond yn anffodus, dim ond un sy’n gallu bod yn enillydd bob blwyddyn. Bydd pob cystadleuydd arall yn cael ei siomi i ryw raddau. Ond yn bendant, mae pob un o'r chwaraewyr sy'n cymryd rhan yn sêr. Maen nhw’n cael eu gweld ar y teledu, ac yn cael eu henwi yn y papurau newydd, ac maen nhw’n cael eu hannog a’u calonogi gan filoedd o gefnogwyr!

  3. Ond, mae rhagor o sêr ym Mhencampwriaethau Wimbledon ar wahân i’r rhai sy’n cystadlu. Dyma i chi enghreifftiau o rai o’r bobl sy’n ymwneud â’r gemau tennis.

    Dangoswch Sleid 3.

    Y llynedd, mynychodd bron i 485,000 o bobl y Pencampwriaethau yn Wimbledon, gyda thua 39,000 o wylwyr ar y safle ar yr un adeg.

    Dangoswch Sleid 4.

    Caiff tua 250 o fechgyn a merched (ball boys a ball girls) eu llogi ar gyfer Wimbledon. Maen nhw’n cael eu dewis o blith tua 750 o geisiadau. I ddod yn fachgen pêl neu’n ferch pêl, mae'n rhaid i chi ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd trwyadl sy'n cynnwys sbrintio, dal peli, rholio peli a hyd yn oed sefyll yn berffaith lonydd am awr mewn tymheredd uchel. Fodd bynnag, ni all unrhyw hyfforddiant eich paratoi ar gyfer cael eich taro gan bêl sydd wedi cael ei tharo’n galed ac sy’n teithio ar gyflymder o 120 milltir yr awr!

    Dangoswch Sleid 5.

    Mewn gwirionedd mae llawer o bobl yn ymwneud â’r achlysur neu’n cymryd rhan yn y gemau tennis.

    Dangoswch Sleid 6.

    Mae saith o ddosbarthwyr peli, 151 cynorthwywyr cyrtiau, 20 aelod o staff yn gofalu am dir y cyrtiau a 350 o ddyfarnwyr.

    Er nad yw'r staff sy’n gofalu am dir y cyrtiau yn cael eu hystyried yn sêr yn gyffredinol, ni fyddai modd cynnal Pencampwriaethau Wimbledon hebddyn nhw. Dychmygwch sut siâp fyddai ar y gemau sy'n cael eu chwarae os na fyddai unrhyw linellau gwyn ar y cyrtiau!

    Mae 14 o ffisiotherapyddion sy'n gweithio gyda'r chwaraewyr. Efallai nad ydyn nhw’n cael eu gweld yn aml iawn, ond maen nhw bob amser wrth law rhag ofn y bydd chwaraewr angen sylw ar y cwrt.

  4. Mae'r ffigurau rydyn i wedi cyfeirio atyn nhw yma’n ymwneud â'r bobl sy'n cymryd rhan yn y gemau tennis gwirioneddol. Fodd bynnag, mae llawer mwy o bobl sy'n brysur yn gwneud yn siwr bod tua hanner miliwn o wylwyr yn cael gofal da, ac yn cadw’n ddiogel. Mae'r gwylwyr yn dymuno eistedd mewn stadia glân, rhaid i fwyd fod ar gael iddyn nhw ei fwyta, ac maen nhw’n disgwyl y bydd gofal da ar eu cyfer yn gyffredinol tra byddan nhw’n gwylio’r gemau.

    Dangoswch Sleid 7.

    Mae llawer o bobl yn gofalu am y gwylwyr.

    Dangoswch Sleid 8.

    Mae yno:
    - 191 o bobl sy’n glanhau, ac sy’n gwneud hynny ar ôl i bawb fynd adref ar ôl cyffro’r diwrnod.
    - 114 o bobl sy’n glanhau yn ystod y dydd hefyd i gadw’r lle yn lân a thaclus drwy gydol yr amser.
    - 30 o bobl sy’n gofalu am fagiau ac ati (left luggage).
    - 30 o bobl sy’n gofalu am y lifftiau, ac yn rhoi sylw arbennig i anghenion pobl anabl a phobl oedrannus.
    - 700 o swyddogion diogelwch sy'n gwneud yn siwr bod y safle’n ddiogel.
    - a thros 1,800 o staff arlwyo.

    Dangoswch Sleid 9.

    Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi’r bwyd yno! Mae dros hanner miliwn o bobl yn ymweld â Wimbledon bob blwyddyn, ac mae ar bob un ohonyn nhw angen rhywbeth i’w fwyta.

    Dangoswch Sleid 10.

    Dyma restr o'r bwyd a gafodd ei weini yn ystod y twrnamaint yn 2015:

    - 190,000 o frechdanau
    - 130,000 cinio
    - 207,000 o brydau
    - 32,000 pryd o bysgodyn a sglodion
    - 6,000 pitsas wedi eu pobi ar garreg
    - 40,000 pryd bwyd wedi ei grilio (char-grilled meals)
    - 60,000 baguette selsig
    - 142,000 dysglaid o fefus

    Dangoswch Sleid 11.

    Roedd yno hefyd 320 o yrwyr gwasanaeth cludiant. Y rhain oedd y bobl a fu’n cludo’r 23 tunnell o fefus gafodd eu bwyta, mefus a oedd wedi cael eu casglu o bob rhan o Gaint a’u danfon i Wimbledon yn gynnar yn y bore, tua 05:30 a.m. bob dydd, yn barod ar gyfer eu paratoi a’u gweini!

  5. Yn ychwanegol at y bobl sy'n gofalu am drefniadau’r gemau tennis eu hunain, a'r bobl sy'n edrych ar ôl y gwylwyr, mae rhai aelodau eraill o staff hefyd.

    - 38 o staff y cyfryngau, sy’n ein galluogi ni, yn gysurus yn ein cartrefi ein hunain, i wylio’r cystadlu.
    - Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, rhaid i ni beidio ag anghofio am Rufus, yr harrier hawk!

    Dangoswch Sleid 12 – y ddelwedd o Rufus.

    Aderyn ysglyfaethus o deulu’r hebogiaid yw Rufus, sy'n ymweld â'r Clwb y rhan fwyaf o’r wythnosau yn ystod y flwyddyn i atal colomennod lleol drwy eu gwneud yn ymwybodol o’r aderyn ysglyfaethus ar y tir o gwmpas. Mae hyn yn perswadio’r colomennod i glwydo mewn mannau eraill. Bydd Rufus yn  hedfan o gwmpas y stadiwm am awr tua 09:00 y bore ar y rhan fwyaf o ddyddiau Pencampwriaethau Wimbledon, cyn i’r giatiau agor. Efallai nad ydych yn meddwl fod hyn yn gwneud Rufus yn seren, ond mae'n gyfrwng i atal yr holl wylwyr rhag cael eu peledu â baw colomennod!

  6. Fyddai'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cael eu rhestru uchod ddim yn galw eu hunain yn sêr. Fodd bynnag, maen nhw i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ofalu bod y trefniadau yn Wimbledon yn rhedeg yn llyfn a’r bobl yn mwynhau eu hunain. Mae rhai cannoedd ohonyn nhw, ac maen nhw i gyd yn eu lle, yn gwneud y gwaith y maen nhw wedi cael eu hyfforddi ar ei gyfer, i gyd yn gweithio fel tîm ac yn rhoi eu gwasanaeth gorau.

  7. Pe byddem yn cymhwyso’r syniadau hyn i ymwneud â chymuned ein hysgol, tybed pwy fydden ni’n eu hystyried yn sêr. A yw'r pennaeth yn bwysicach na'r athrawon? A yw'r disgyblion yn bwysicach na'r cogydd? Yr ateb yw bod pob person yn hanfodol er mwyn i gymuned yr ysgol weithio’n esmwyth. Mae pawb yn arbennig, mae pawb yn seren.

    Dangoswch Sleid 13.

Amser i feddwl

Darllenwch, neu gofynnwch i un o’r myfyrwyr ddarllen y rhan o’r Beibl: 1 Corinthiaid 12.14-22.

Mae pawb yn bwysig. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae ym mhob sefyllfa rydyn ni’n cael ein hunain ynddi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch fod pawb yn gydradd yn dy olwg di.
Diolch dy fod ti’n gweld gwerth ym mhob person.
Helpa ni i ystyried ein gilydd yn yr un modd.
Helpa ni i ddefnyddio ein doniau er mwyn gwasanaethu eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon