Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y cyntaf a’r olaf

Gemau Olympaidd Rio 2016

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ein hegni cystadleuol a'i ganlyniadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Nodwch:mae’r tair adnod yn y Beibl, lle mae Iesu’n defnyddio’r dywediad, ‘Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a’r rhai blaenaf yn olaf’, i’w cael yn Efengyl Mathew 20.16, Efengyl Marc 10.31 ac Efengyl Luc 13.30.

Gwasanaeth

Arweinydd: Bydd Gemau Olympaidd Rio yn dechrau ar ddydd Gwener 5 Awst, gyda'r seremoni agoriadol yn Stadiwm Maracanã yn Rio de Janeiro. Bedair blynedd ar ôl Gemau Llundain, bydd athletwyr unwaith yn rhagor yn cystadlu i fod y rhai gorau yn y byd yn eu dewis gystadleuaeth.

Pwy ydych chi'n ei ystyried yw Olympiaid gorau Prydain?

Gwrandewch ar ystod o ymatebion.

(Gall atebion gynnwys enwau fel Mo Farah, Kelly Holmes, Steve Redgrave, Jessica Ennis-Hill, Bradley Wiggins, Seb Coe a Chris Hoy.)

Mae'r rhan fwyaf o'r enwau sydd wedi eu dewis gennych yn rhannu nodwedd gyffredinol : maen nhw i gyd yn dda yn eu camp, ac maen nhw i gyd wedi ennill medal Olympaidd - o bosib medal aur! Gall rai o'r athletwyr fod wedi ennill llawer mwy nag un. Er mwyn ennill y medalau hynny, maen nhw wedi hyfforddi'n galed ac wedi aberthu amser yn ogystal ag arian er mwyn cyrraedd y brig. Maen nhw, o ddifrif, wedi ennill eu lle ar y brig.

Darllenydd 1: Athletwraig yw Jenny Meadows a allai hefyd fod wedi cael ei henw ar y rhestr honno o enillwyr medalau aur. Mae hi'n rhedwraig pellter dros 800 metr, ond sydd erioed wedi llwyddo i ennill medal aur Olympaidd. Mae yna reswm am hynny. Mae Jenny wedi bod ymhlith y goreuon yn y byd ers y flwyddyn 2007. Daeth yn bedwerydd, yn drydydd ac yn ail mewn prif bencampwriaethau rhyngwladol heb unwaith allu croesi'r llinell derfyn yn gyntaf. Ar bob achlysur, cafodd ei churo gan un neu fwy o athletwyr sydd, ers hynny, wedi dod i'r amlwg fel rhai sy'n cymryd cyffuriau er mwyn gwella'u perfformiad.

Darllenydd 2: Yn y diwedd fe wobrwywyd Jenny ag un fedal aur, am y Pencampwriaethau Dan Do Ewropeaidd yn y flwyddyn 2011 a gynhaliwyd ym Mharis, pan gafodd yr enillydd ar y pryd ei stripio o'i theitl ryw dro ar ôl y digwyddiad. Cafodd medal yr enillydd ei rhoi yn y diwedd i Jenny, ond roedd hynny'n hwyr iawn wedyn a heb ddim ond ychydig o gyhoeddusrwydd.
Yn achos Jenny, oedd am gyfnod hir wedi amau bod llawer o'i gwrthwynebwyr yn cymryd cyffuriau gwella-perfformiad, fe wnaeth rhwystredigaeth sefyllfaoedd annheg o'r fath ei gyrru i ymarfer yn galetach a chaletach. Yn y diwedd, gwthiodd ei chorff yn rhy galed ac ni chafodd ei dewis i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain.

Arweinydd:Felly, pam y gwnaeth rhai o'i gwrthwynebwyr droi at gyffuriau? Hoffwn gynnig bod dau reswm. Yn gyntaf, cymaint oedd eu hanobaith i ennill, roedden nhw'n barod i wneud unrhyw beth i wireddu'r nod hwnnw. Yn ail, roedden nhw'n cael eu hannog i wneud hynny gan bobl eraill a oedd yn dymuno bod yn rhan o orfoledd eu buddugoliaeth.

Mae Gemau Olympaidd Rio 2016 yn digwydd dan gysgod o amheuaeth a chyhuddiadau ynghylch y defnydd o gyffuriau gwella-perfformiad, yn enwedig gyda gweithgareddau athletaidd trac a maes. Bu rhai o'r gwledydd sy'n arfer perfformio orau, dan amheuaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n debygol na fydd rhai athletwyr yn cael cystadlu.
A hyn i gyd, yn syml oherwydd eu dymuniad i ennill!

(Efallai y byddwch yn dymuno crybwyll y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am y mater dan sylw.)

Amser i feddwl

Arweinydd: Pa mor bwysig i chi yw bod yn enillydd? Dydw i ddim yn golygu mewn chwaraeon yn unig. Gallwn fod yn gystadleuol mewn llawer o sefyllfaoedd: am ein sgôr mewn prawf, ein llwyddiant mewn clyweliad, ein lle oddi mewn i gylch o ffrindiau a llawer o gyd-destunau eraill. Efallai na fyddwn yn cael ein temtio i gymryd cyffuriau, ond pa dactegau eraill y gallwn gael ein temtio i'w defnyddio er mwyn ennill mantais annheg?

Darllenydd 1:Gallwn gael ein temtio i greu sïon am ein gwrthwynebwyr, gan amcanu i ennill cefnogaeth i ni ein hunain.

Darllenydd 2:Gallwn gael ein temtio i feirniadu'n agored y rhai hynny a welwn fel bygythiad, fel bod eu hyder yn cael ei danseilio.

Darllenydd 1:Gallwn gael ein temtio i orliwio ein perfformiad ein hunain, gan obeithio y bydd hyn yn rhoi mantais seicolegol i ni.

Darllenydd 2:Ar y gwaethaf, gallwn gael ein temtio hyd yn oed i dwyllo ac mae llawer o ffyrdd o dwyllo yn ein bywyd yn yr ysgol.

Arweinydd:Pa beth bynnag fydd ein tactegau, os ydym yn cael ein hysbrydoli gan y dyhead llethol i fod yn gyntaf, gallwn feddwl am wneud unrhyw beth i gyflawni'r lle hwnnw. Felly, yn hynny o beth, a fydden ni o ddifrif yn wahanol i'r rhai hynny sy'n twyllo ar y trac rhedeg, yn y pwll nofio neu ar y maes?

Fe ddefnyddiodd Iesu ddywediad syfrdanol am ennill a cholli. Fe ddywedodd, ‘Bydd y rhai sydd olaf yn flaenaf, a'r rhai sydd flaenaf fydd olaf.’ Doedd o ddim yn sôn am rasys a chystadlaethau, er y byddai'r rhain yn gyffredin yn niwylliant y Rhufeiniaid yn y cyfnod yr oedd Iesu ar y ddaear. Mewn gwirionedd fe ddefnyddiodd y dywediad deirgwaith, ar achlysuron gwahanol, ond ar bob achlysur, roedd yn sôn am y gwerthoedd a oedd yn bwysig mewn byd fyddai dan lywodraeth cariad, cyfiawnder a chydraddoldeb Duw.

Pan drodd Iesu'r syniad o enillwyr a chollwyr ben i waered, roedd yn ceisio dangos bod ein pwysigrwydd fel unigolion ddim yn seiliedig ar ba mor dda ydyn ni, neu os ydyn ni'n uwch-gyflawnwyr ai peidio. Caiff ein statws ei seilio yn gyfan gwbl ar y ffaith ein bod i gyd yn unigryw. Does neb yn debyg i mi, na chi, na'r person sy'n eistedd wrth eich ochr, ac o'r herwydd, rydym i gyd yn haeddu cael ein llongyfarch am ein llwyddiannau, pa mor fychan bynnag y maen nhw. Yng ngêm bywyd, y cymryd rhan sydd bwysicaf mewn gwirionedd.

Felly dyma'r her ar eich cyfer heddiw. Chwiliwch am dri o bobl sy'n haeddu cael eu canmol oherwydd eu bod wedi cyflawni rhywbeth - a llongyfarchwch nhw! Dydy hi ddim o bwys pa mor fawr neu fach mae'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni'n ymddangos i bawb arall. I chi, maen nhw'n enillwyr, ac maen nhw'n haeddu eich canmoliaeth!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am gefnogaeth ac anogaeth y rhai hynny sydd o’n cwmpas.
Atgoffa ni pa mor bwysig yw cefnogi ein gilydd.
Helpa ni i fod yn bobl sy’n deg ac yn onest.
Helpa ni i sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud ein gorau a chymryd rhan, hyd yn oes os na fyddwn ni, bob amser, yn enillwyr.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Celebration’ gan Kool and The Gang

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon