Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae bywyd fel cynhaeaf

Gall amser y cynhaeaf yn ein hatgoffa i ddefnyddio ein doniau

gan Ronni Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio sut byddwn ni’n defnyddio ein doniau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ofyn i rai o’r myfyrwyr actio'r stori yng Ngham 1 y 'Gwasanaeth'. Mae'n gweithio'n dda mewn cyfres o luniau llonydd neu ar ffurf tableaux. Mae’r stori i’w chael yn y Beibl yn Efengyl Mathew 25.14–30.

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi meddwl ryw dro bod yr hyn y byddwch chi’n ei gyflawni mewn bywyd yn debyg i gynhaeaf? Dyma stori sy'n ein helpu i feddwl am hynny. Mae'n fersiwn mwy modern o stori sydd i’w chael yn y Beibl.

    Un tro, roedd perchennog tir cyfoethog, ond cas a llym iawn. Roedd yn mynd i ffwrdd am gyfnod ar fusnes, felly fe roddodd rywfaint o’i gyfoeth i dri o’i weision i ofalu amdano. Roedd y darnau arian bryd hynny’n cael eu galw’n ‘dalentau’.  Cafodd un gwas bum talent ganddo, Rhoddodd ddwy dalent i’r ail was, Ac i’r trydydd gwas, fe roddodd un dalent yn unig.

    Aeth y gwas cyntaf â’r pum talent a’u buddsoddi yn y farchnad stoc. Aeth yr ail was â’r ddwy dalent a gafodd i’r banc, a’u buddsoddi yno. Ond fe aeth y trydydd gwas â’r unig dalent oedd ganddo allan i’r cae a gwneud twll yn y ddaear a’i chladdu yno. Fe farciodd yn ofalus ble yn union yr oedd wedi ei chladdu fe y byddai’n gwybod yn iawn ble i’w chael pan fyddai ei hangen.

    Ymhen blwyddyn, fe ddaeth y perchennog tir yn ôl a galw ar y tri gwas i ddod ato i’w swyddfa.

    Camodd y gwas cyntaf ymlaen a dweud, ‘Fe wnaethoch chi roi pum talent i mi, ac fe wnes i eu buddsoddi yn y farchnad stoc – a dyma nhw i chi. Maen nhw wedi dyblu yn eu gwerth.’ Roedd y perchennog wrth ei fodd. Rhoddodd ganmoliaeth i’r gwas a’i wahodd i barti gwych yr oedd wedi ei drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.

    Camodd yr ail was ymlaen a dweud, ‘Fe wnaethoch chi roi dwy dalent i mi, ac fe wnes i eu buddsoddi yn y banc – a dyma nhw i chi. Maen nhw wedi dyblu yn eu gwerth.’ Roedd y perchennog wrth ei fodd. Rhoddodd ganmoliaeth i’r gwas a’i wahodd yntau hefyd i’r parti gwych yr oedd wedi ei drefnu.

    Camodd y trydydd gwas ymlaen a dweud, ‘Dim ond un dalent wnaethoch chi ei rhoi i mi. Ond roeddwn i’n gwybod eich bod chi’n gallu bod yn ddyn cas a chreulon iawn ambell dro, felly roedd gen i gymaint o ofn colli’r dalent fe benderfynais i ei chladdu yn y cae iddi fod yn ddiogel. Dyma hi i chi.’ Ac fe roddodd y darn arian, budr braidd, yn ôl i’w feistr.

    Roedd y perchennog yn wir yn gandryll. 'O! Rwyt ti’n was diwerth!' gwaeddodd. 'Ac roeddet ti’n gwybod y gallwn i fod yn gas ac yn greulon, oeddet ti? Wel, fe fydda i’n gas yn awr – dos allan a phaid byth â dod yn ôl i fy nhy i!’ Fe aeth y gwas, ac ni ddaeth yn ei ôl yno byth wedyn.

  2. Mae'r stori hon wedi ei seilio ar y syniad bod dawn neu dalent yn debyg arian. Rydych chi i gyd yn dalentog, mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai ohonoch yn ymddangos fel pe byddai gennych chi lawer o ddoniau (efallai yr hoffech enwi rhai o'r myfyrwyr sy’n serennu ym myd chwaraeon mewn gwahanol grwpiau oedran). Mae rhai ohonoch yn cadw eich doniau i chi eich hun (enwch rai doniau llai adnabyddus, gan efallai beidio â chrybwyll enwau). Ac efallai bod rhai ohonoch chi’n meddwl nad oes gennych chi fawr ddim doniau o gwbl. Ond rydym i gyd yn meddu ar ryw ddawn.

  3. Ond beth fyddai’n digwydd pe byddech chi ddim yn defnyddio’r doniau sydd gennych chi?

    - Beth fyddai’n digwydd pe byddai peldroediwr enwog yn rhoi’r gorau i hyfforddi?
    - Beth fyddai’n digwydd pe byddech chi ddim yn ymarfer eich geirfa Ffrangeg?
    - Beth fyddai’n digwydd pe byddech chi byth yn ysgrifennu stori, paentio llun, neu byth yn bod yn gyfeillgar tuag at rywun unig?

    Fe fyddech chi’n anghofio sut i wneud hynny. Fyddai eich dawn, yn sicr, ddim yn datblygu, ac efallai y byddech hyd yn oed yn ei cholli.

  4. Wrth i ni ddechrau blwyddyn ysgol newydd, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfleoedd gwych i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Ar ddiwedd y flwyddyn, tybed sut byddwch chi wedi datblygu'r doniau a galluoedd hynny y cawsoch eich geni â nhw.

    Peidiwch byth ag anghofio - mae doniau’n rhywbeth mwy na chyflawniadau academaidd. Beth am y gallu i helpu pobl? I godi calon rhywun pan fydd hwnnw neu honno’n teimlo’n isel? I fod yno ar gyfer eich ffrindiau? Mae doniau cymdeithasol yr un mor bwysig â doniau academaidd, doniau artistig neu ddawn ym myd chwaraeon.

    Mae doniau gan bob un ohonom. Gadewch i ni eu defnyddio, a gwneud eleni yn gyfnod gwych o ddysgu a datblygu!

Amser i feddwl

Ar ddiwedd eich cyfnod yn yr ysgol, sut byddwch chi wedi datblygu'r doniau a galluoedd y cawsoch chi eu geni â nhw? Sut beth fydd eich cynhaeaf chi o gyflawniad?

- Fyddwch chi fel y ddau was cyntaf, a weithiodd ar eu doniau, gan eu datblygu a gwneud iddyn nhw dyfu?
- Neu a ydych chi’n mynd i gladdu eich doniau a’r rheini wedyn yn cael eu gwastraffu?

Saib i feddwl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gad i mi ddefnyddio fy noniau i’r eithaf,
Gweithio’n galed, chwarae â’m holl egni,
A thyfu ac ymestyn yn fy neallusrwydd,
Fel y byddaf yn gallu gwneud fy ngorau
Ac y bydd pobl eraill yn cael budd o fod yn fy nghwmni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon