Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arweinyddiaeth Rhan 1 – Rhinweddau

Rhan un mewn cyfres o wasanaethau ynghylch datblygu potensial arweinyddiaeth mewn myfyrwyr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried rhinweddau arweinydd da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Arweinyddiaeth 1) a'r modd o’u harddangos. Mae'r rhain yn dangos delweddau o Nelson Mandela, Mahatma Gandhi a Winston Churchill, ac yn dangos nifer o ddyfyniadau enwog ynghylch arweinyddiaeth o eiddo’r tri arweinydd yma.

  • Dewisol: gwnewch gwmwl geiriau i arddangos y geiriau canlynol sy’n ymwneud ag ‘arweinyddiaeth' - uniondeb, egwyddorion, gwerthoedd, gostyngeiddrwydd, gwrando, ymrwymiad, brwdfrydedd, gwerthfawrogiad, strategaeth, cyfrifoldeb, menter, dewrder, grymuso, rhagwelediad, cyfathrebu, dyfalbarhad ac optimistiaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae ymchwiliad cyflym yn ymwneud ag 'arweinyddiaeth' ar raglen Amazon yn cyflwyno ar hyn o bryd 255,607 o ganlyniadau. Mae teitlau llyfrau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson ac mae'n ymddangos bod nifer helaeth o arbenigwyr a chyfoeth o gyrsiau hyfforddi ar gael ar gyfer unigolion yn ogystal â busnesau. Hyd yn hyn nid yw gwyddonwyr wedi dod o hyd i ‘enyn arweinyddol’, ond mae'n ymddangos y gall fod rhai pobl wedi eu geni â nodweddion sy'n ei gwneud hi'n haws iddyn nhw ddod yn arweinwyr. Fodd bynnag, gall unrhyw un ohonom gael ein hunain mewn sefyllfa lle bydd angen i ni gymryd rôl arweinydd. Felly beth sy'n gwneud arweinydd da.

  2. Dangoswch Sleid 1.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Pa air sy'n dod i'r meddwl wrth i chi feddwl am arweinydd?
    -Pa gymwysterau a nodweddion sy'n gwneud arweinydd da?

    Os yw'n briodol, gwrandewch ar amryw o ymatebion neu darllenwch/arddangoswch y ‘geiriau arweinyddol’: gonestrwydd, egwyddorion, gwerthoedd, gostyngeiddrwydd, gallu i wrando, ymrwymiad, angerdd, gwerthfawrogol, strategol, cyfrifoldeb, mentergarwch, dewrder, grymuseddgarwch, rhagwelediad, gallu i gyfathrebu, dyfalbarhad ac optimistiaeth (Defnyddiwch y cwmwl geiriau os yw ar gael gennych.)

  3. Rydym am wneud gwaith ymchwil am dri arweinydd byd o gyfnod hanes ac ystyried pa nodweddion arweinyddol roedden nhw'n meddu arnyn nhw.

    Dangoswch Sleidiau 2-4.

    Ar ôl i chi arddangos y delweddau/sleidiau, gofynnwch i'r myfyrwyr ydyn nhw’n gallu dweud wrthych chi pwy yw'r arweinyddion adnabyddus oedd ar y sleidiau: (Nelson Mandela, Mahatma Gandhi a Winston Churchill). Gofynnwch i'r myfyrwyr rannu unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw am bob un o'r unigolion dan sylw.

  4. Dangoswch Sleid 5.

    Darllenwch y dyfyniad gan Nelson Mandela, ‘A leader . . . is like a shepherd. He stays behind the flock, letting the most nimble go out ahead, whereupon the others follow, not realizingthatall along they are being directed from behind.’

    Gofynnwch i'r myfyrwyr sut y gweithredodd Nelson Mandela hyn yn ei fywyd.

    Gofynnwch pa un o'r ‘geiriau arweinyddol’ a ddangoswyd sy'n dangos sut un oedd Nelson Mandela.

  5. Dangoswch Sleid 6.

    Darllenwch y dyfyniad gan Mahatma Gandhi, ‘You must be the change you want to see in the world.’

    Gofynnwch i'r myfyrwyr sut y gweithredodd Mahatma Gandhi hyn yn ei fywyd.

    Gofynnwch pa un o'r ‘geiriau arweinyddol’ a ddangoswyd sy'n dangos sut un oedd Mahatma Gandhi.

  6. Dangoswch Sleidiau 7-11.

    Darllenwch yn eu tro, y dyfyniadau gan Winston Churchill.

    Ar gyfer bob un o'r dyfyniadau, gofynnwch i'r myfyrwyr sut y gweithredodd Winston Churchill hyn yn ei fywyd.

    Gofynnwch pa un o'r ‘geiriau arweinyddol’ a ddangoswyd sy'n dangos sut un oedd Winston Churchill.

  7. Awgrymwch y gall fod rhai geiriau heb gael eu cynnwys ar y rhestr ‘geiriau arweinyddol’. Gallai un o'r geiriau hynny fod yn ‘cymwysterau’.

    Er enghraifft, doedd Winston Churchill ddim yn wych iawn fel disgybl ysgol. Fe fethodd ei Flwyddyn 7 a bu raid iddo ail-sefyll y dosbarth mathemateg deirgwaith er mwyn llwyddo.  Cafodd ei wrthod gan brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt o achos ei raddau gwael. Eto, fe ddaeth Winston Churchill yn Brif Weinidog Prydain ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd, ac fe arweiniodd y wlad â'i areithiau a'i dactegau, gan ysbrydoli'r wlad i beidio ag ildio.

  8. Gall arweinydd fod yn ddeallus dros ben yn nhermau academaidd neu ddim o gwbl, ond bydd gan arweinydd ddilynwyr bob amser.

Amser i feddwl

Pa nodweddion sydd bwysicaf yn eich barn chi er mwyn i arweinydd fod yn effeithiol?

Pwy yn eich barn chi sy’n arweinydd da yn eich ysgol, yn eich cymuned a’ch gwlad?

A yw’r potensial i arwain gennych chi?

Beth allwch chi ei wneud i finiogi eich rhinweddau a'u doniau er mwyn datblygu eich sgiliau fel arweinydd?

Gobeithio, wrth i’r gyfres hon barhau, y byddwch yn gweld y gallwch chi ddatblygu i fod yn arweinydd o fewn cymuned yr ysgol.

Gweddi
Annwyl Dduw, 
Mae'r byd wedi cael llawer o arweinwyr cryf, mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn arweinwyr da,ac eraill yn rhai drwg.
Rydym yn falch iawn o’r arweinwyr hynny yn ein byd sy'n cael eu nodweddu gan unplygrwydd, gwirionedd a chyfiawnder.
Diolch i ti am y nifer o arweinwyr sydd yn ein byd sy'n gallu rhagweld pethau ac yn gallu grymuso eraill i gyflawni targedau cadarnhaol a gwerth chweil.
Helpa ni fel arweinwyr ifanc posibl i fyfyrio ar rinweddau arweinydd da ac i ddatblygu ein sgiliau arwain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon