Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’n ymddangos mai ‘Sori’ yw’r gair anoddaf

Gwyl Iddewig Yom Kippur

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ffyrdd o ddelio â theimladau o euogrwydd ac edifeirwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.

  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo YouTube o ‘TV Theme This Is Your Life’ (ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=tzNRRoPus14) a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para 1.43 munud.

Gwasanaeth

Arweinydd:Tybed a oes unrhyw un ohonoch wedi clywed am raglen a oedd ar y teledu flynyddoedd yn ôl, rhaglen o'r enw This Is Your Life?

Chwaraewch y clip fideo YouTube ‘TV Theme This Is Your Life’.

Fe fyddai This Is Your Life yn arfer bod yn un o'r uchafbwyntiau ar y teledu yn ystod yr wythnos. Fe fyddai miliynau o bobl yn edrych ar y rhaglen i gael gweld pa berson enwog y byddai'r cyflwynydd Eamonn Andrews, neu Michael Aspel, yn peri syndod iddo ef neu iddi hi wrth ddweud mai ef neu hi fyddai gwrthrych y sylw yr wythnos honno. Yn ganolog i'r rhaglen roedd llyfr coch, mawr, a oedd yn rhestru manylion am fywyd yr unigolion enwog. Roedd y llyfr yn cynnwys cofnod o hanes eu bywyd.

Dychmygwch pe byddai rhywun yn creu llyfr am eich bywyd chi.  Gadewch i ni ddweud am y 12 mis diwethaf yn unig.Sut y byddech chi'n teimlo am hynny?

Gobeithio y byddai llawer o atgofion hapus yn y llyfr, a balchder ynghylch llwyddiannau a chyflawniadau, efallai y byddai peth tristwch ac ychydig edifeirwch. Fodd bynnag, rwy'n amau y byddai hefyd, os ydyn ni'n wirioneddol onest, fesur o euogrwydd, efallai hyd yn oed embaras difrifol, am rai pethau y buom yn gyfrifol amdanyn nhw. O bosib ni fyddai unrhyw un ohonom yn awyddus i bawb wybod am y cyfan o'n bywyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Darllenydd 1: Yr wythnos hon, bydd aelodau'r ffydd Iddewig yn dathlu Yom Kippur. Fel sawl un o'r gwyliau Iddewig, mae'r wyl hon yn dechrau gyda'r hwyr. Mae'n dechrau ar 11 Hydref eleni, ac yn parhau tan gyda’r nos y diwrnod canlynol, 12 Hydref. Fe gaiff ei hystyried fel y diwrnod olaf cyn bod llyfr bywyd rhywun dros y 12 mis diwethaf yn cael ei gau. Y newyddion da yw, yn ystod Yom Kippur, fe fydd yn bosib delio â'r geiriau hynny, y gweithredoedd a'r meddyliau hynny y mae pob person yn teimlo euogrwydd ac embaras yn eu cylch. Mae'n ffordd, os hoffech chi, o allu golygu cynnwys y llyfr.

Darllenydd 2: Sut mae credinwyr Iddewig yn cyflawni hyn? Maen nhw'n ymprydio am gyfnod o 25 awr. Maen nhw'n ymwrthod â bwyd a gweithgareddau eraill sy'n rhoi pleser iddyn nhw. Mae'n wadiad sy'n dangos eu bod o ddifrif eisiau newid y rhannau drwg yn eu bywyd. Yn ystod eu hympryd, maen nhw'n ymdrechu i unioni'r camweddau y maen nhw wedi eu cyflawni yn erbyn eraill, yn enwedig o safbwynt yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud.  Os ydyn nhw wedi gwawdio, cario clecs, neu ddweud pethau cas am rywun, maen nhw'n cyfarfod â'r person hwnnw fel eu bod yn gallu cyfaddef eu camwedd, ymddiheuro, gofyn am faddeuant a chwilio am gymod. Yn olaf, ar ôl delio â pherthnasau dynol, maen nhw'n cyffesu eu pechodau, y camweddau y maen nhw wedi eu cyflawni yn erbyn Duw, a gofyn hefyd am ei faddeuant ef.

Arweinydd:Yom Kippur yw'r diwrnod felly i edrych yn ôl a rhoi pethau yn eu lle, er mwyn creu dechreuad newydd.

Amser i feddwl

Arweinydd: Felly beth all yr effaith fod oddi mewn i’r cymunedau sydd o amgylch y credinwyr Iddewig hyn? Beth sy'n digwydd pan fyddan nhw'n gweithredu'r egwyddorion sydd ynghlwm wrth wyl Yom Kippur? Cawn gliw yn yr enw arall ar yr wyl. Enw arall ar Yom Kippur yw Dydd yr Iawn.

Beth yw ystyr ‘yr iawn’? Nid yw’n air y byddwn yn ei ddefnyddio’n aml arferol mewn sgwrs. Gyda’r gair Saesneg am ‘iawn’, sef ‘atonement’, mae'n help i'w ddeall pe bydden ni'n rhannu'r gair yn dair rhan fel ein bod yn cael ‘at one ment’. Iawn neu Gymod yw'r broses o ddwyn ynghyd y rhai sydd wedi bod yn elynion a’u gwneud yn un. Mae'n broses o ymdrin â phopeth sy'n gyfrifol am wahanu pobl oddi wrth ei gilydd a chreu'r syniad o undod, o fod yn un.

Beth sy'n eich gwahanu chi oddi wrth bobl eraill?

Darllenydd 1: Gall ddadleuon achosi rhwygiadau rhwng ffrindiau. O bosib, maen nhw'n ganlyniad i eiriau sy'n cael eu llefaru, ac sy'n destun ymddiheuriad yn nes ymlaen. Gallwn yn hawdd gael ein brifo gyda sylwadau gan rai yr oeddem yn credu y gallen ni ymddiried ynddyn nhw, ac fe fyddai’n bosib iddyn nhw ddioddef oherwydd yr hyn a lefarwn ninnau hefyd. 

Darllenydd 2: Gall rhagfarn ein gwahanu.  Efallai y bydd yn rhagfarn o achos yr hyn yr ydym yn ei gredu, o achos ein treftadaeth hiliol, hyd yn oed o achos lle rydym yn byw. Fe fyddwn yn ymwrthod â'n gilydd yn hytrach na ehangu ein profiad. Gall rhagfarn arwain at unigrwydd, at y syniad o fod yn ddi-werth, ac ar adegau at ddicter. 

Darllenydd 1:Gall cenfigen hefyd achosi i ni wahanu oddi wrth ein gilydd. Rydym yn eiddigeddus o'r hyn sydd gan eraill ac mae hyn yn suro ein perthynas. Rydym yn siomi pobl yn hytrach na rhannu eu llawenydd gyda nhw yn eu lwc dda.

Darllenydd 2: Ac yna mae'r math o hwyliau fydd arnom ni, pan fyddwn yn syml wedi codi'r ochr anghywir o'r gwely, er enghraifft. Rydym yn gallu gwrthymateb a bwrw ein llach am ddim rheswm o gwbl. Mae hynny hyd yn oed yn gallu achosi poen, ac mae hefyd yn gallu achosi rhwyg rhyngom.

Arweinydd:Dychmygwch pa mor wahanol fyddai pethau pe byddem yn gallu nesu at bob unigolyn yr ydym yn gwybod ein bod ni wedi eu niweidio. Byddai dim ond torri gair â'r unigolyn hwnnw'n gam cyntaf i ddymchwel y rhagfuriau. Gallai'r cam nesaf wedyn fod  ychydig yn anoddach. Mae'n cymryd cryn ddewrder i ddweud, ‘Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i ar fai’ neu, ‘Wnewch chi faddau i mi os gwelwch yn dda?’ Fodd bynnag, bydd ein dewrder, gobeithio, yn ei gwneud hi'n haws i'r unigolyn arall ddychwelyd y cyfarchiad a chreu neu adfer y cyfeillgarwch.

Ymhle mae Duw yn rhan o hyn? Mae adfer perthynas â Duw yn bwysig iawn i gredinwyr Iddewig. Roedd eu bywyd beunyddiol yn dibynnu ar y berthynas agos hon. I rai ohonoch sydd â ffydd fyw, bydd hyn yn wir yn eich achos chi hefyd. Byddwch yn teimlo ei bod hi'n bwysig cyffesu eich camweddau a chael maddeuant. Eto, hyd yn oed i'r rhai sydd heb ffydd, mae'n ddefnyddiol yn awr ac yn y man i ystyried y gwerthoedd sy'n dylanwadu ar ein bywyd. Sut y gallem ni adeiladu perthnasau iachus a dysgu rheoli'r ffordd yr ydym yn siarad â'n gilydd, yn enwedig ar adegau o dyndra ac anghytundeb?

Nid yw Yom Kippur yn gyfnod hawdd. Mae'n adeg o onestrwydd a dewrder. Eto i gyd, gall y manteision fod yn werthfawr. Felly, a oes rhywun y dylech gysylltu ag ef neu hi heddiw?

Gweddi 
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am achlysuron fel Yom Kippur, sy’n gwneud i ni gofio.
Gad i ni ddefnyddio heddiw i wella camgymeriadau’r gorffennol.
Boed i fory fod yn ddiwrnod o adnewyddu cyfeillgarwch ac o sefydlu cyfeillgarwch newydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Sorry seems to be the hardest word’ gan Elton John

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon