Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut gallwn ni leihau gwastraff bwyd?

Meddwl am Ddiwrnod Bwyd y Byd

gan Tim and Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y dylai lleihau gwastraff bwyd yn y D.U. a bwyta'n fwy iachus fod yn flaenoriaeth i ni i gyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cyn y gwasanaeth, edrychwch ar rai o'r awgrymiadau ymarferol ynghylch lleihau gwastraff bwyd ar y wefan Love Food Hate Waste, sydd ar gael ar:http://www.lovefoodhatewaste.com/

Gwasanaeth

  1. Ar 16 Hydref, bydd yn Ddydd Bwyd y Byd, diwrnod sy'n cael ei ddathlu dros y byd i gyd i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd bwyd ar gyfer goroesiad a lles bodau dynol. Yr amcan hefyd oedd pwysleisio bod cael mynediad at fwyd yn hawl dynol sylfaenol. Sefydlwyd Rhaglen Fwyd y Byd gan y Cenhedloedd Unedig yn y flwyddyn 1961 a chaiff ei chefnogi gan lywodraethau ledled y byd i helpu gwledydd sydd â gwir angen am gymorth bwyd.

  2. Mae Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn datgan, Mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ... i ddwr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân iddyn nhw gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.’

  3. Mae cyflenwad o fwyd yn brin i lawer o bobl yn y byd, eto yn y DU, byddwn yn taflu ymaith saith miliwn tunnell o fwyd a diod bob blwyddyn, y mwyafrif ohono y gellid bod wedi ei ddefnyddio. Mae mwyafswm o'r bwyd hwn yn fwyd hollol berffaith, neu a oedd unwaith. Pam fod cymaint o fwyd y gellid ei fwyta yn cael ei daflu ymaith? Mae dau brif reswm.

    -Pobl yn coginio neu’n darparu gormod o fwyd ar y tro (er enghraifft, reis neu basta).
    -Pobl ddim yn defnyddio bwyd mewn pryd – ddim yn bwyta bwyd cyn iddo fynd heibio'r dyddiad y dylid ei fwyta.

  4. Gydag ychydig o gynllunio a gwybodaeth, fe allwn ni ennill hyder i ddefnyddio bwydydd sy’n weddill gennym. Mae’r wefanLove Food Hate Waste, sydd ar gael ar:www.lovefoodhatewaste.com, yn rhoi rhai awgrymiadau ardderchog a fyddai’n ddefnyddiol iawn ynghylch defnyddio bwydydd sydd gennym dros ben.

  5. Mae lleihau gwastraff bwyd yn fater o bwys ac nid yw'n unig yn ymwneud â  bwyd da yn cael ei wastraffu. Mae gwastraffu bwyd yn gost o £700 y flwyddyn i deulu cyffredin â phlant, ac mae iddo oblygiadau amgylcheddol difrifol, hefyd. Pe byddai pob un ohonom yn rhoi'r gorau i wastraffu bwyd y gellid bod wedi ei fwyta, byddai'r budd i'r blaned yn gymesur â chymryd un o bob pedwar car modur oddi ar y ffordd! 

  6. Yn ffodus, mae digonedd o fwyd gan y rhan fwyaf ohonom, ac ni fyddwn byth yn cael profiad o fid yn newynu fel y mae miliynau o bobl, yn arbennig plant, yn ei oddef o gwmpas y byd. Mae rhifau o Raglen Fwyd y Byd yn dangos fod 795 miliwn o bobl y byd heb ddigon o fwyd i'w galluogi i fyw bywyd iachus, bywiog. Mae hynny'n gyfystyr ag un o bob naw o bobl. Mae rhifau eraill yn dangos bod maeth gwael yn gyfrifol am yn agos i hanner (45 y cant) y marwolaethau ymhlith plant dan bump oed bob blwyddyn.

  7. Mae sawl rheswm pam y mae cymaint o bobl yn newynu, fel methiant cnydau yn cael ei achosi gan hinsawdd sy'n newid, diffyg arian i brynu bwyd, a llywodraethau llygredig yn methu yn eu cyfrifoldeb i ddosbarthu bwyd yn deg.

Amser i feddwl

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae gwyliau diolchgarwch am y cynhaeaf yn cael eu cynnal yn aml mewn ysgolion, eglwysi a chymunedau amaethyddol er mwyn dathlu a rhoi diolch i Dduw am flwyddyn arall o lawnder wedi i’r cynhaeaf gael ei gasglu ynghyd. Mae pobl ffydd yn credu mai Duw yw perchennog holl adnoddau'r ddaear a'i fod yn bendithio pobl trwy ddarparu cynhaeaf da o gnydau. Mae'r Beibl yn addysgu fod bodau dynol yn cael eu galw i fod yn stiwardiaid doeth o'r ddaear a'i hadnoddau - galwad sydd, yn anffodus, yn aml yn cael ei hanwybyddu gennym.

Yn y DU, y broblem i nifer helaeth o bobl yw nid diffyg bwyd, ond eu bod yn bwyta gormod o’r bwydydd anghywir, sydd yn gallu niweidio ein cyrff. Rydym yn gwybod bod bwyta bwyd sy'n cynnwys gormodedd o halen a braster ddim yn llesol i ni. Y gwir yw nad oes llawer o bobl yn y wlad hon heb gael digon o faeth, ond yn hytrach â diffyg maeth – nid yn ‘undernourished’ ond yn ‘malnourished’. Mae gan bob un ohonom reolaeth dros y bwyd yr ydym yn ei fwyta, ond weithiau, nid oes gennym ddigon o ewyllys i gadw ein hunain yn iachus. Fe ddylem gofio ein bod mewn safle breintiedig iawn - mae gennym ddewis ynghylch y math o fwyd y byddwn yn ei fwyta.

Gweddi 
Diolch i ti, Arglwydd, am y cynhaeaf, ac am yr holl fwyd sydd ar gael i’r rhan fwyaf ohonom yn y wlad hon.
Diolch i ti am yr haul a’i gynhesrwydd, am y glaw sy’n cynnal, ac am y pridd ffrwythlon a’r ffermwyr gweithgar.
Helpa ni i ddefnyddio’r bwyd rwyt ti’n ei roi i ni mewn modd doeth a chyfrifol, fel y gallwn ni fod yn iach ac ar yr un pryd beidio â gwastraffu bwyd maethlon.
Rydyn ni’n cofio am y rhai hynny sy’n newynog ac yn sâl oherwydd nad ydyn nhw’n cael digon o fwyd. Helpa ni i’w helpu nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw emyn am y cynhaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon