Yr Elusen 'Crisis' Ar Adeg Y Nadolig
gan James Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Myfyrio ar waith ‘Crisis’, yr elusen Brydeinig sy’n darparu ar gyfer y rhai sy’n ddigartref adeg y Nadolig, ac annog y myfyrwyr i ystyried pa mor bwysig yw helpu a rhoi ar adeg y Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Ar gyfer adran 1, llwythwch i lawr rai o’r delweddau oddi ar y wefan https://www.crisis.org.uk/about-us/
- Cewch wybodaeth am fanciau bwyd ar http://www.fareshare.org.uk/
- Fel enghraifft o gerddoriaeth i ddiweddu’r gwasanaeth, awgrymir cân Phil Collins, ‘Another day in paradise’, ac mae i’w chael ar https://www.youtube.com/watch?v=Qt2mbGP6vFI
Gwasanaeth
- Elusen yw ‘Crisis’ sydd yn helpu pobl sengl digartref trwy Brydain, ac yn darparu lloches iddyn nhw neu gymorth i ddarganfod lle diogel i fyw neu hyd yn oed ddod o hyd i waith.
Er gwaethaf ymdrechion gan lywodraethau olynol i sicrhau bod darpariaeth eang o les cymdeithasol ar gael i bobl, o’r crud i’r bedd, mae miloedd o bobl yn ddigartref ar strydoedd Prydain, a’r disgwyliad yw y bydd y sefyllfa hon yn gwaethygu, o wybod beth yw cyflwr truenus yr economi a thoriadau i’r budd-dal tai. Mae prinder o dai cymdeithasol, a rhoddir blaenoriaeth i deuluoedd, sydd yn ei gwneud hi’n anos fyth i bobl sengl digartref gael lle i fyw. - Mae ‘Crisis’ yn brysur iawn dros gyfnod y Nadolig. Tymor y Nadolig yw, o bosib, yr amser gwaethaf i fod yn ddigartref. Yn ogystal â’r oerni gerwin, digyfaddawd, mae rhai anffodus yn cael eu hatgoffa’n gyson o’r holl wario a’r dathlu sy’n cael ei wneud gan y rhai sydd yn fwy ffodus.
Yn 2010, yn ystod cyfnod y Nadolig, darparodd ‘Crisis’ loches ar gyfer 3,000 o bobl mewn canolfannau ar draws Llundain. Y flwyddyn hon, mae miloedd o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed i ddwyn y darpariaethau i ben, fydd yn croesawu dros 3,000 o bobl mewn naw canolfan ar draws Llundain rhwng 23 a 30 Rhagfyr.
Y flwyddyn ddiwethaf fe weinyddodd y gwirfoddolwyr dros 25,000 o brydau bwyd, darparu dosbarthiadau celf a chrefft, cynnig cyngor ynglyn â gwaith, a galluogi pobl fregus i weld meddyg neu ddeintydd. Peth yr un mor bwysig, ond rhywbeth sydd ddim mor hawdd ei gofnodi, yw rhoi cynhesrwydd a chyfeillgarwch. Mae pob un ohonom, y rhai digartref yn ogystal â rhai sydd â chartrefi, angen cwmnïaeth - mae unigrwydd yn broblem fawr ym mhrif ffrwd y gymdeithas yn ogystal ag ar y cyrion. Mae gwerth gweithredoedd unigol o gymorth a charedigrwydd yn anfesuradwy. - Canlyniad y ffaith nad oes digon o dai yw achos digartrefedd, ac mae hynny’n gyrru prisiau tai i fyny. Mae’n broblem y gellir ei datrys. Mae’n wir fod alcoholiaeth a bod yn gaeth i gyffuriau eraill yn gallu achosi pobl i golli eu cartrefi; ond fe ddylid edrych ar ddigartrefedd fel trasiedi ddynol yn hytrach na chosb. Nid yw bod yn gaeth i gyffuriau o unrhyw fath yn ddigon o drosedd i gyfiawnhau digartrefedd.
Mae dywediad enwog sy’n datgan os rowch chi bysgodyn i berson, y byddwch yn bwydo’r unigolyn hwnnw am ddiwrnod, ond os gwnewch chi addysgu rhywun i bysgota, byddwch yn bwydo’r person hwnnw trwy gydol ei oes. Os yw’n bosibl, trwy gymorth elusennau a’u cefnogwyr, rhoi sgiliau newydd i’r digartref, yna mae ganddyn nhw’r siawns i osgoi bod yn ddigartref. I sicrhau hyn, maen nhw angen cymorth gan y rhai mwyaf ffortunus.
Datblygiad pellach
O ganlyniad i feddwl am y digartref yr adeg hon o’r flwyddyn, efallai yr hoffech chi weithio fel ysgol i gyfrannu tuag at yr elusen ‘Crisis’. Fel arall, gall fod banc bwyd wedi ei sefydlu gerllaw eich ysgol y byddai modd i chi, fel ysgol, gyfrannu bwyd i bobl leol sy’n dioddef o dlodi bwyd. (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ ar gyfer y wefan.)
Amser i feddwl
Mae’r rhoi a derbyn caredigrwydd dynol yn ganolog i’r Nadolig. Mae cymryd amser yn ystod gwyliau i helpu eraill, boed y bobl ar gyrion cymdeithas, fel y digartref hirdymor, neu unrhyw un sydd angen cefnogaeth, yn sicr o fod yn rhan wirioneddol o ystyr y Nadolig.
Rhannu tosturi, cynhesrwydd a charedigrwydd yw’r pethau sy’n ein gwneud yn ddynol. Rhannwch y pethau hyn y Nadolig hwn, oherwydd nid oes gwell amser i wneud hynny.
Gweddi
Dad nefol,
ar yr amser hwn o ddathlu,
o gynnal partïon, a theuluoedd yn dod ynghyd,
helpa fi i gofio bod rhai pobl yn cael eu heithrio,
yn oer, yn unig ac yn newynog.
Bendithia waith pawb o’r rhai hynny sy’n helpu i roi
Nadolig da i bobl mewn angen.
A helpa fi i weithio er mwyn creu Nadolig llawen i bawb.
Cân/cerddoriaeth
Cân Phil Collins, ‘Another day in paradise’ (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)