Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydyn ni i gyd yn aros!

Gwasanaeth ar gyfer tymor yr Adfent

gan Author unknown (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2004)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio’r thema o aros mewn perthynas â thymor yr Adfent.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi chwech o fyfyrwyr i sefyll mewn rhes fel pe bydden nhw’n aros mewn ciw. Gofynnwch iddyn nhw actio’r sefyllfa drwy edrych ar eu watsh, tapio troed, edrych yn bryderus, plethu breichiau ac ati. Fe ddylai pob myfyriwr ddal un o’r pethau canlynol, (neu lun o’r gwrthrych):

    - amserlen bws
    - basged siopa’n llawn nwyddau
    - amlen fawr neu barsel
    - cyllell, fforc a llwy
    - llyfr o enwau ar gyfer babanod
    - Beibl

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch y chwe gwirfoddolwr i sefyll mewn rhes ar ddechrau’r gwasanaeth. Ar ôl ychydig amser, holwch y gynulleidfa beth maen nhw’n ei feddwl y mae’r rhai sy’n sefyll mewn rhes yn ei wneud.

    Eglurwch eu bod i gyd yn aros mewn ciw. Dywedwch wrth y gynulleidfa eich bod chithau’n aros am rywbeth, a’ch bod am ymuno â’r ciw. Ar ôl i chi ymuno â’r lleill, oedwch am foment, edrychwch ar eich wats, ac yna gofynnwch i’r un sy’n sefyll o’ch blaen pa mor hir y mae ef neu hi wedi bod yn aros yno. Gofynnwch i un arall yn y ciw am faint mae ef neu hi’n meddwl y bydd yn rhaid i chi aros. Gwahoddwch bawb arall sydd yn y gynulleidfa i ddyfalu am beth mae’r myfyrwyr sydd yn y ciw (a chithau) yn aros. 

  2. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal y copi o’r amserlen bws, ac eglurwch ei fod ef neu hi wedi bod yn aros am beth amser yn disgwyl i’r bws ddod. Eglurwch fod pobl sy’n disgwyl am fws yn gallu mynd i deimlo’n oer ac yn ddiflas, ond maen nhw’n gwybod y byddan nhw, ar ôl i’r bws gyrraedd, yn gallu mynd ymlaen ar eu siwrnai wedyn. Rhaid iddyn nhw aros, oherwydd pe bydden nhw’n mynd oddi yno efallai y bydden nhw’n colli’r bws!

  3. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal y fasged siopa llawn nwyddau. Eglurwch fod rhai pobl, wrth iddyn nhw aros yn y ciw i dalu mewn archfarchnad, yn aml yn mynd yn ddiamynedd. Wyddoch chi ddim a fydd un o’r rhai sydd yn y ciw o’ch blaen angen gwirio pris un o’r nwyddau, neu angen gwneud ymholiad arall, a hynny’n dal y ciw yn ôl. Ac mae bob amser yn ymddangos fel pe byddech chi wedi cael eich dal yn y ciw arafaf!

  4. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal yr amlen fawr neu’r parsel. Eglurwch y gall disgwyl i barsel gael ei ddosbarthu ymddangos yn amser hir iawn weithiau. Ac os yw’r parsel hwnnw’n cynnwys anrheg pen-blwydd neu anrheg Nadolig, fe allwch chi fod mor gyffrous nes ei fod yn teimlo fel oes i ddisgwyl am yr amser y byddwch yn derbyn yr anrheg.

  5. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal y gyllell, fforc a llwy. Eglurwch fod y person hwn yn disgwyl am ei ginio! Mae ef neu hi’n teimlo eisiau bwyd, ac mae ar frys oherwydd bod ymarfer côr/ clwb gwyddbwyll/ gêm bêl-droed/ gêm bêl-rwyd (neu unrhyw weithgaredd amser cinio arall) y mae arno ef neu hi eisiau mynd iddo.

  6. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal y llyfr o enwau ar gyfer babanod. Eglurwch ei fod yn gallu teimlo fel amser hir iawn o’r adeg mae rhywun yn clywed y newydd fod rhywun yn mynd i gael babi i’r adeg mae’r babi hwnnw’n cael ei eni. Mae llawer o bethau i’r teulu eu trefnu er mwyn bod yn barod ar gyfer dyfodiad y babi i’r byd.

  7. Pwyntiwch at y myfyriwr sy’n dal y Beibl. Eglurwch fod Cristnogion yn credu fod pobl wedi bod yn disgwyl am ddyfodiad y baban Iesu ers llawer iawn o flynyddoedd, nid dim ond am naw mis. Eglurwch fod yr Hen Destament yn cynnwys proffwydoliaethau am enedigaeth y Meseia – person arbennig a fyddai’n cael ei anfon i’r byd gan Dduw. Pan gafodd Iesu ei eni, roedd y bobl Iddewig wedi bod yn disgwyl am filoedd o fynyddoedd am y Meseia. Ac felly, pan gyrhaeddodd Iesu i’r byd, roedd rhai pobl yn credu mai ef oedd yr un yr oedd yr ysgrythurau wedi bod yn ei ddisgrifio. Y bobl hyn oedd y rhai a ddaeth yn Gristnogion cyntaf.

  8. Diweddwch trwy egluro bod Cristnogion yn galw’r rhan fwyaf o fis Rhagfyr yn gyfnod yr Adfent. Mae’n gyfnod o aros – aros i’r Nadolig ddod. Bydd llawer ohonoch â chalendrau Adfent i’ch helpu chi weld faint o amser sydd ar ôl i aros tan y Nadolig.

    Fodd bynnag, yn ogystal â bod yn amser o aros, mae cyfnod yr Adfent yn amser o baratoi – amser i fod yn barod ar gyfer y pethau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r Nadolig. Mae hefyd yn gyfle i baratoi ein hunain ar gyfer bod yn well pobl, i fod yn nes at Dduw yn ein calonnau ac yn ein meddyliau.

Amser i feddwl

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r myfyrwyr:

- Am beth rydych chi’n aros?
- Sut gallwch chi helpu gyda’r paratoadau ar gyfer y Nadolig?
- Beth fyddech chi’n gallu ei wneud a fyddai’n helpu pobl eraill ar yr adeg hon o’r flwyddyn?
- Sut byddech chi’n gallu helpu gartref ac yn yr ysgol i wneud yr aros yn well ar gyfer pawb?

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y cyffro rydyn ni’n ei deimlo yn ystod yr amser cyn y Nadolig.
Helpa ni i gamu’n ôl o hwrli-bwrli’r paratoadau ar gyfer y Nadolig,
a dod o hyd i gyfnod pryd y gallwn ni ymdawelu,
fel y gallwn ni feddwl am sut y byddai’n bosib i ni fod yn barod yn ein calon am ddyfodiad Iesu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon