Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ar gyfer pob plentyn mewn perygl

Gwaith Unicef, a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 1946

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o waith Unicef.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

  • Mae mwy o wybodaeth am waith Unicef ar gael ar:http://www.unicef.org/
  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno chwilio am enw a manylion cyswllt eich Aelod Seneddol lleol.

Gwasanaeth

Arweinydd: Pe byddech chi'n rheoli'r byd, beth fyddai'r penderfyniadau cyntaf y byddech chi'n eu gwneud? Rwy'n gobeithio y bydden nhw'n rhai blaengar, er budd eraill, yn hytrach nac yn rhai syml i’ch plesio chi eich hun yn unig. Ar 11 Rhagfyr 1946, yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, creodd y Cenhedloedd Unedig, a oedd yn fudiad wedi ei ffurfio i wneud penderfyniadau ar ran cenhedloedd y byd, y mudiad Unicef. Mae'r llythrennau yn Saesneg yn golygu: United Nations International Children’s Emergency Fund. Yn ystod y ddegawd ganlynol, cafodd ei ailenwi fel 'United Nations Children’s Fund', ond mae'n parhau i gael ei adnabod fel 'Unicef'.

Yn y flwyddyn 1946, yn dilyn cyflafan y rhyfel, y teimlad oedd mai ar un canolbwynt allweddol y dylai’r sylw fod, sef ar blant Ewrop yn y lleoedd hynny y bu'r brwydro ar ei waethaf. Roedd llawer o blant yn newynu ac yn byw mewn amgylchiadau gwael iawn. Cafodd rhai eu hunain yn amddifad neu wedi colli cysylltiad â'u teuluoedd. Ceisiodd Unicef gwrdd ag anghenion y rhai ieuengaf a'r rhai gwanaf yn y gymdeithas.

Yn raddol adferodd Ewrop ei hun ar ôl y rhyfel, ond yn fuan gwelwyd fod plant ledled y byd i gyd a oedd angen help. Yn y flwyddyn 1953,daeth Unicefyn rhan sefydlog o bolisi'r Cenhedloedd Unedig. Mae tri math o sefyllfa pryd y bydd Unicefyn gweithredu.

Darllenydd 1: Yn gyntaf, pryd bynnag y bydd trychineb naturiol wedi digwydd, bydd Unicef yn bresennol. Dros y blynyddoedd diweddar, mae'r mudiad wedi cefnogi plant mewn ardaloedd lle mae sychder, llifogydd a daeargrynfeydd. Pa bryd bynnag y bydd hanes y math hwn o ddigwyddiad yn y newyddion, gallwch fod yn sicr y bydd staff Unicef yn bresennol.

Darllenydd 2: Yn ail, mewn parthau rhyfel, bydd gweithwyr Unicef yn ceisio cael mynediad at blant sy'n cael eu hunain yng nghanol rhywbeth nad oes ganddyn nhw'r grym i'w atal. Mae gweithwyr Unicef yn Syria'r foment hon, a hefyd yn Yemen a De Sudan. Mae'n waith peryglus oherwydd y mae gweithwyr sy'n cynnig cymorth yn cael eu dal rhwng y carfannau sy'n gwrthwynebu ei gilydd, yn gwneud eu gorau i ddod â bwyd, dwr a chyflenwadau o ddeunyddiau meddygol i'r rhai sydd fwyaf eu hangen.

Darllenydd 3: Yn drydydd, mae'n cael ei gydnabod yn ddiweddar bod llawer o blant yn y sefyllfaoedd hyn yn debygol o wynebu trais. Cafodd rhai eu gorfodi i fod yn blant-filwyr, ac yn cael eu bwlio i ladd y rhai hynny y byddent yn cael eu dysgu i gredu yw'r gelyn. Caiff rhai eraill eu herwgipio a’u gorfodi i gaethwasiaeth, naill ai i ymgyrchu dros y rhyfel neu eu gwerthu i berchnogion awyddus i'w cael yn Ewrop a'r Dwyrain Pell. Mae hyn yn gonsyrn neilltuol ymysg plant amddifad sy'n ffoaduriaid ac sydd i'w canfod ledled Gorllewin Ewrop.

Amser i feddwl

Arweinydd:Yng nghyfnod Iesu, ychydig iawn o statws cymdeithasol oedd gan blant. Doedden nhw ddim yn cyfrif llawer nes eu bod yn hyn. Fodd bynnag, rhoddodd Iesu werth iddyn nhw, gan estyn croeso iddyn nhw yn yr un modd ac y byddai'n estyn croeso i oedolion. Rhoddodd rybudd llym ynglyn â'r goblygiadau fyddai'n wynebu'r sawl a fyddai'n peri niwed i blentyn. Yn bwysicaf, fe ddefnyddiodd blant fel ei fodel ar gyfer derbyn ei ddysgeidiaeth: bydd plentyn neu unigolyn ifanc yn fwy tebygol o weld ac ymateb yn glir, yn syml a heb gymhlethdod.Nid mudiad yn gweithredu'n ynysig yw Unicef - gall ymwneud â phob un ohonom. Rwy'n tybio bod llawer ohonom sydd yma’n gallu deall i raddau beth mae'n ei olygu i fyw mewn byd lle mae'r penderfyniadau’n cael eu cymryd, ac ar adegau’n cael eu gorfodi arnom, gan eraill. Felly, mae ein lleisiau'n bwysig wrth i ni sefyll yn gadarn dros y rhai sydd mewn angen.

Gadewch i ni ystyried un enghraifft. Mae miloedd o ffoaduriaid yn Calais. Mae rhai ohonyn nhw wedi ffoi oddi wrth y brwydro yn Syria, tra bod eraill wedi dianc oddi wrth dlodi yng Ngogledd Affrica. Ymysg y ffoaduriaid hynny mae plant sydd wedi cael eu hunain yn amddifad neu wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Maen nhw'n fregus iawn. Fodd bynnag, mae gan rai ohonyn nhw deuluoedd yn y D.U. a fyddai'n fodlon rhoi lle iddyn nhw i fyw gyda nhw. Cytunodd y Llywodraeth Brydeinig i ganiatáu i rai o'r ffoaduriaid hyn gael mynediad i'r DU ac ymuno ag aelodau o'u teuluoedd.

Fodd bynnag, mae dwy broblem : yn gyntaf, dim ond rhai o'r plant hyn y mae'r llywodraeth wedi cytuno i'w derbyn i'r wlad, ac yn ail, mae prosesu'r dogfennau angenrheidiol yn dasg sy’n cymryd amser hir iawn. Mae hyn yn arwain at broblemau pellach : mae'r plant a'r bobl ifanc sy'n aros yn Calais yn parhau i fyw mewn amgylchiadau gwael dros ben ac, oherwydd eu bod ar eu pen eu hunain, maen nhw'n fregus dros ben. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer y ffoaduriaid yn Calais yn cynyddu bob dydd. Ymysg y newydd ddyfodiad bydd rhai sydd â pherthnasau yn y D.U. sydd yn fodlon eu derbyn. Felly mae'r rhif yn graddol godi. 

Y cwestiwn yw, ‘Beth allwn ni ei wneud?’ Prif waith ein AS lleol [rhowch ei enw ef neu  hi] yw adrodd wrth y llywodraeth beth y mae ei etholwyr ef neu hi yn feddwl o'r broblem hon. Os ydych chi'n teimlo'n ddigon cryf dros achos y plant a'r bobl ifanc digwmni yn Calais, yna gallwch ysgrifennu ato/ati [enw]. Mae gennych lais ac, efallai yn fwy nag unrhyw oedolyn, gallwch fod mewn empathi â'u sefyllfa, fel y bydd [enw] yn gwrando arnoch chi, yn rhoi pwysau ar y llywodraeth ac yn gallu peri i rai pethau newid. Ni fyddwch ar ben eich hun wrth gefnogi gwaith Unicef. Mae llawer o enwogion yn gwneud hynny hefyd.

Darllenydd 1:Ewan McGregor a Sir Chris Hoy.

Darllenydd 2:David Beckham a Lewis Hamilton.

Darllenydd 3:Emma Bunton, James Nesbitt a Jemima Goldsmith.

Arweinydd:A llawer mwy. Fe fyddech chi mewn cwmni da.

Gweddi 
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y teuluoedd a’r gofalwyr sydd gennym.
Allwn ni ddim ond dychmygu sut beth yw bod yn unig, yn fregus ac yn agored i niwed.
Gad i ni droi ein teimladau’n weithredoedd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi ddangos y clip fideo YouTube, ‘He was alone’ gan Yusuf Islam. Mae’n para 3.49 munud, ac mae ar gael ar:http://tinyurl.com/j5tk5wd

Nodyn: Mae’r clip fideo hwn yn glip a allai gyffroi teimladau, felly fe ddylai arweinydd y gwasanaeth wirio o flaen llaw pa mor addas ydyw ar gyfer y gynulleidfa.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon