Cymryd y clod i gyd
Gall pobl sy’n gweithio y tu ôl i'r llenni fod yn gwneud hynny heb i neb sylwi, ond maen nhw’n dal yn bwysig!
gan Brian Radcliffe (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y mân gymeriadau yn stori’r Nadolig, a myfyrio ar y gwahaniaeth y gall pob un ohonom ei wneud i'r byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Dychmygwch eich bod yn cynhyrchu ffilm ar gyfer y teledu yn seiliedig ar stori’r Nadolig. Rolau pa gymeriadau yn stori’r Nadolig fyddai'n serennu gennych chi?
Awgrymiadau amlwg, wrth gwrs, fyddai Mair, Joseff, y bugeiliaid, y tri brenin (neu’r doethion), y Brenin Herod a'r tafarnwr. Mae llawer ohonom wedi bod mewn dramâu Gwyl y Geni lle buom yn chwarae’r rolau hyn. Bydd pob un ohonom wedi gweld y cymeriadau’n ymddangos ar gardiau Nadolig, neu mewn golygfeydd o'r Nadolig cyntaf.
Ond a ydyn ni wedi sôn am yr holl gymeriadau pwysig? - Mae llawer o actorion enwog wedi mynegi eu pryder fod y credydau sy'n ymddangos ar ddiwedd y rhaglenni teledu yn aml yn anodd eu darllen. Ar ddiwedd y rhaglen, mae'r sgrin lawn fel arfer yn newid i sgrin hollt ar ôl ychydig eiliadau, ac fe'i defnyddir i hysbysebu'r digwyddiad neu’r rhaglen nesaf a fydd yn ymddangos ar y sianel deledu honno. Maen nhw’n dadlau ei bod yn annheg bod enwau llawer o'r bobl a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen yn aml ddim yn cael eu gweld, ac o’r herwydd ddim yn cael eu hystyried yn bwysig iawn.
- Ydych chi erioed wedi aros i ddarllen y credydau sy’n dilyn rhaglen deledu neu wedi aros yn y sinema ar ôl diwedd ffilm er mwyn darllen y rhestr o bobl a oedd yn rhan o gynhyrchiad y ffilm? Mae enwau'r sêr yn y ffilmiau bob amser yn ymddangos yn gyntaf, weithiau’n cael eu dilyn gan enw’r cyfarwyddwr. Fodd bynnag, yn dilyn fe fydd rhestr hir o awduron, technegwyr, ymchwilwyr, rhedwyr, rheolwyr lleoliad, artistiaid colur, adeiladwyr set, ac yn y blaen. Mae’r cyfraniad a wneir gan y bobl hyn yr un mor bwysig â chyfraniad sêr y ffilm. Ni allai'r ffilm neu’r rhaglen gael ei gwneud heb eu dawn, eu hamser a’u hymdrech nhw.
- Gadewch i ni fynd yn ôl at stori'r Nadolig. Yn naturiol, mae'r ffocws ar y prif gymeriadau: mae Mair a Joseff yn ganolog fel y rhieni. Mae'r bugeiliaid a'r tri brenin (neu’r dynion doeth) yn taflu goleuni ar natur arbennig y baban newydd-anedig. Herod yw'r dihiryn yn y stori gyfan. Ond beth am y rhai a oedd yn y cefndir? Ydyn ni wedi meddwl ryw dro am yr holl bobl eraill a allai fod wedi bod yn ymwneud â’r digwyddiad mewn rhyw ffordd?
- Oedd gan y tafarnwr wraig? Oedd hi yno ar adeg y geni?
- Oedd gan y tri brenin (neu’r doethion) weision yn teithio gyda nhw a oedd yno’n eu gweld yn cyflwyno’r rhoddion i’r baban?
- Fe fyddai llawer o ymwelwyr eraill wedi bod gyda Joseff a Mair yn mynd i Fethlehem, i gyd wedi cael eu galw yno oherwydd y cyfrifiad Rhufeinig. A oedden nhw wedi bod yn sgwrsio gyda Joseff a Mair ar y ffordd?
- Oedd y llety’n llawn o’r bobl hyn? Wnaeth rhai ohonyn nhw alw yn y stabl i weld y baban newydd-anedig?
- A wnaeth unrhyw bobl eraill, heblaw am y bugeiliaid, glywed y côr o angylion neu weld y seren a oedd yn disgleirio uwchben y preseb?
- A wnaeth crio’r baban newydd-anedig ddeffro’r cymdogion?
- A ddaeth rhieni Mair a Joseff yno i weld y baban newydd-anedig?
Allai digwyddiad pwysig o'r fath ddim bod wedi digwydd heb effeithio ar lawer mwy o bobl na dim ond y prif gymeriadau. Dydyn nhw ddim yn y prif gredydau, ond tybed pa ran a chwaraewyd ganddyn nhw yn y ddrama.
Amser i feddwl
Beth amdanom ni? Mae Cristnogion yn credu bod y Nadolig yn gwneud gwahaniaeth i'r byd. Nid rhywbeth sy’n ymwneud â ficeriaid, offeiriaid a phobl sy'n mynd i'r eglwys yn unig yw’r Nadolig. Mae Cristnogion yn credu bod y Nadolig yn ymwneud â bod Duw yn agos atom ni ac yn dangos ei gariad tuag atom ni. Maen nhw hefyd yn credu bod pob unigolyn yn arbennig. P'un a ydyn nhw’n bobl enwog neu'n anhysbys, yn gyfoethog neu’n dlawd, lle bynnag maen nhw’n byw a beth bynnag y maen nhw’n ei gredu, maen nhw i gyd yn unigolion sy'n cyfrannu at y byd yr ydyn ni’n byw ynddo. Efallai na fydd pobl bob amser yn cael eu rhoi ar y rhestr credydau am yr hyn y maen nhw’n ei wneud, ond mae popeth y mae pob un ohonom yn ei wneud yn cael effaith ar bobl eraill yn y byd.
Gadewch i ni dreulio moment yn ystyried y syniadau canlynol. (Efallai yr hoffech chi eu defnyddio fel gweddi.)
- Byddwch yn ddiolchgar am y Nadolig, ac am bopeth rydych chi’n ei fwynhau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
-Byddwch yn edifar eich bod ambell waith yn anwybyddu’r ystyr sy’n ganolog i ddathliadau’r Nadolig.
-Gwnewch gynllun i ymgymryd ag unrhyw fath o weithgaredd sy’n ymwneud â’r hyn rydyn ni wedi ei drafod yn y gwasanaeth heddiw.
Dewisol: efallai y gallech gael gafael ar Feibl a darllen drwy'r gwahanol fersiynau o stori Nadolig un ar y tro. Darllenwch yn araf ac yn feddylgar. Dychmygwch eich hun yno.
Cân/cerddoriaeth
Unrhyw garol Nadolig.