Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth ydych chi’n ei weld yn y dyfodol?

Mae gennym i gyd freuddwydion ar gyfer y dyfodol

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ein gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaeth

Arweinydd:Mae yna gwestiwn y bydd pobl yn aml yn ei ofyn i ni pan fyddwn ni’n ifanc. Mae'n gwestiwn y bydd rhai ohonom ni'n ei gael yn hawdd i'w ateb, ond bydd eraill o ddifrif ddim yn gwybod beth i'w ddweud! Y cwestiwn yw:

-Beth ydych chi eisiau bod pan fyddwch yn hyn?

Os ydych wedi rhagbaratoi’r oedolion i ateb y cwestiwn hwn, gwrandewch ar eu hatebion. Bydd rhai ohonyn nhw'n ddigrif, gobeithio!

Rwy'n siwr fod pob un ohonoch ar ryw adeg wedi clywed y cwestiwn hwn gan neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod ac o bosib gan eich mam a'ch tad. Fe allwch chi, hyd yn oed, fod wedi meddwl eich hun am y cwestiwn dan sylw.
Mae llawer o atebion yn bosib i'r cwestiwn hwn, a gall yr ateb aros yr un peth trwy gydol eich bywyd. Er enghraifft, roeddwn i eisiau bod yn brif weinidog/yn ddawnsiwr ballet (rhowch gynifer a hoffech chi o'ch dewis eich hun fan hyn). Fodd bynnag, dyma fi yn athro/athrawes, rhywbeth y gwnes i ei ystyried, ond na wnes i feddwl llawer o ddifri amdano. Ac eto i gyd, dyma fi, mewn swydd sydd, rwy'n credu, yn gweddu’n iawn i mi, ac yn swydd yr wyf yn ei mwynhau.

Efallai eich bod chi eisiau bod yn bêl-droediwr, yn un o’r sêr pop, yn niwro-lawfeddyg, yn ofodwr, gyrrwr trên, actor, nyrs, cyfreithiwr, yn un sy’n darogan y tywydd . . neu a feiddiaf i ddweud, hyd yn oed yn athro neu’n athrawes. Fe allwch chi ddarganfod fod eich meddyliau, syniadau yn newid gydag oedran a phrofiad, a phan fydd gennych ddealltwriaeth gliriach o'r hyn yw eich cryfderau a'ch gwendidau.

Os yw eich syniadau am eich dyfodol yn parhau i newid, peidiwch â phoeni!  Mae nifer o bobl enwog a rhyfeddol iawn a ddechreuodd eu bywydau neu eu gyrfaoedd fel un peth wedi mynd ymlaen i fod yn rhywbeth arall.

Darllenydd 1:  Fe ddechreuodd Iesu Grist trwy ddilyn ei dad, Joseff, ym musnes y teulu fel saer coed. Yn dilyn cael ei demtio yn yr anialwch, fe wyddai bod llwybr arall iddo ef.  Fe arweiniodd hynny at ei farwolaeth ar groes a'i atgyfodiad oddi wrth y meirw. Fe newidiodd ei fywyd y byd yn gyfan gwbl.

Darllenydd 2:  Fe ddechreuodd Siddhartha Gautama ei fywyd fel tywysog ac roedd ganddo bopeth y gallai ddymuno ei gael, yn cynnwys gwraig a mab. Fe ddechreuodd bywyd fynd yn ddiflas iddo a gadawodd y cyfan oedd ganddo a dod yn Fwdha.

Darllenydd 3: Muhammad oedd sylfaenydd y grefydd Islam. Cafodd ei fagu gan ei ewythr, a oedd yn fasnachwr. Dilynodd Muhammad ôl-traed ei ewythr ym myd masnach. Daeth yn llwyddiannus iawn ac yn gyfoethog. Fodd bynnag, ar ôl cael profiad ysbrydol mewn ogof, fe sylweddolodd bod ei angen ar gyfer pethau rhagorach. Teimlodd Muhammad yr alwad i alwedigaeth wahanol.

Arweinydd: Ni ddechreuodd yr un o'r bobl hyn eu bywyd yn gwybod o ddifrif beth fydden nhw yn y pen draw wrth iddyn nhw gyrraedd oedran aeddfed. Yn wir, doedden nhw ddim yn gwybod mewn gwirionedd tan iddyn nhw deimlo eu hunain yn cael eu galw. Felly, os ydych chi ddim yn siwr ac yn bryderus, peidiwch â gofidio. Mae'n rhywbeth prin iawn i fod yn siwr ynglyn â’r hyn yr ydych chi eisiau bod pan fyddwch chi’n hyn. Does dim ond eisiau i chi edrych ar yr enghreifftiau yr ydym newydd glywed amdanyn nhw, ac fe fyddwch yn canfod eich bod mewn cwmni da. Fodd bynnag, os ydych yn gwybod beth ydych chi’n dymuno bod pan fyddwch yn hyn, daliwch ati i ddyfalbarhau er mwyn cyflawni'r nod!

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am foment neu ddwy ynghylch ein gobeithion a'n breuddwydion ar gyfer y dyfodol.

Saib i feddwl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gad i ni sylweddoli y gall ein syniadau a’n meddyliau ynghylch y dyfodol newid, a bod hynny ddim yn beth i'w ofni.
Gad i ni ddarganfod ein cryfderau – fe fydd ein cryfderau’n dangos i ni i ble mae ein dyfodol yn debygol o arwain.
Gad i ni ddarganfod a derbyn ein gwendidau - fe fydd ein gwendidau’n dangos i ni i ble mae ein dyfodol yn debygol o arwain.
Gad i ni ddilyn a chyflawni ein breuddwydion – fe fydd ein breuddwydion yn ein helpu i gyrraedd y dyfodol yr ydym yn dymuno ei gael.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon