Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cylchgrawn The Big Issue

Edrych ar un ateb i broblemau digartrefedd a begio.

gan James Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych ar un ateb i broblemau digartrefedd a begio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cerddoriaeth: ‘Don’t judge me’ gan Sting neu ‘Another day in paradise’ gan Phil Collins (mae’r ddwy gân i’w chael ar-lein).

  • Nodwch fod gwasanaeth arall ar yr un pwnc, ‘Dim ond trwy ras Duw’ - There but for the grace of God, wedi’i dargedu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3.

Gwasanaeth

  1. Mae sawl math o gartref, ty, fflat, byngalo, carafán, ac mae cartref ambell un ar gwch hyd yn oed. Pa fath bynnag yw’r cartref, mae’n cynnig dau beth. Mae’n adeiladwaith  sydd wedi’i gynllunio i warchod yr un sy’n byw ynddo rhag yr elfennau - rhag y gwynt oer a’r glaw - elfennau a allai fod yn niweidiol os byddwch chi’n agored iddyn nhw’n rhy hir. Yn ail, mae’r cartref yn diwallu angen seicolegol hefyd, sef yr angen i fod â rhywle lle rydyn ni’n perthyn iddo.

  2. Dychmygwch eich bod yn aros yn nhy ffrind. Mae’n hwyl am y noson gyntaf, ac yn dda am yr ail hefyd, ond erbyn tua’r ddeuddegfed noson rydych chi’n teimlo’n anghyfforddus am mai dim eich lle neilltuol chi ydyw. Mae seicolegwyr a’r rhai sy’n ymwneud â gwyddorau cymdeithas yn cydnabod bod arnom ni angen ein lle ein hunain.

  3. Dychmygwch wedyn fod popeth sy’n gysylltiedig ag amgylchedd eich cartref yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi. Rydych chi’n cael eich gadael ar y stryd, wedi’ch amgylchynu â chartrefi pobl eraill, heb gartref eich hun. Rydych chi’n  gorfod cysgu ble bynnag y gallwch chi, gan geisio cydbwyso diogelwch a chynhesrwydd a chysgod. Bydd pobl yn cerdded heibio i chi. Dydyn nhw ddim yn eich gweld chi fel chi eich hun, dim ond fel rhywun sy’n begio - rhywun sydd wedi llithro trwy grac yn y gymdeithas. Ac fe allai’n llithriad hwnnw trwy’r crac fod yn siwrnai un ffordd yn unig. Mae alcoholiaeth, dibyniaeth ar gyffuriau, ac afiechyd meddwl, yn ogystal â chymdeithas anghyfeillgar, yn ffactorau cyffredin sy’n gyrru pobl i’r strydoedd ac yn eu cadw yno.

  4. Sut mae rhywun yn cadw’n fyw mewn amgylchiadau o’r fath? Y ffordd fwyaf cyffredin yw trwy fegio. Mae’r problemau sy’n cyd-fynd â begio’n broblemau mawr. All begio byth fod yn swydd gynaliadwy - allwch chi ddim begio’ch ffordd allan o fegio. Fe all begio roi rhywbeth i’w fwyta i chi am un tro, a thalu am docyn bws i rywle, efallai. Ond nid yw’n talu am fawr mwy na hynny.

  5. Yn y flwyddyn 1991, sefydlodd John Bird a Gordon Roddick The Big Issue, mewn ymateb i’r her yma. Mae’r fenter yn rhoi cyfle i rai sy’n ddigartref werthu cylchgrawn i bobl ar y stryd. Ar hyn o bryd, pris y cylchgrawn yw £1.60, ac mae’r gwerthwr yn ei gael am 70 ceiniog y copi. Felly, am bob cylchgrawn y mae’n ei werthu, mae’n cael 90 ceiniog iddo’i hun. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o incwm i’r gwerthwr. Ac, i rywun sydd heb forgais na rhent i’w dalu, na threth ychwaith, fe allech chi ddadlau bod hynny’n gyfraniad gweddol. Ond mae’n golygu mwy na hynny: mae’n rhoi rhyw fath o waith i bobl sy’n ddigartref a rhywfaint bach o incwm, ac ar ben hynny mae’n rhoi rhywfaint o urddas i rai sy’n fregus iawn. Ambell dro daw rhai o’r gwerthwyr yn enwogion lleol, sy’n codi ymwybyddiaeth o gyflwr y rhai sy’n ddigartref.

  6. Mae rhai pobl wedi beirniadu’r cylchgrawn, gan ddadlau ei fod yn methu delio â’r alcoholiaeth a’r camddefnydd o gyffuriau sydd mewn rhai achosion yn gyfrifol yn y lle cyntaf bod rhai’n ddigartref, ac yn dadlau nad ffactor yw hon sy’n codi oherwydd digartrefedd. Yn 1995 lansiwyd The Big Issue Foundation, sefydliad sy’n rhoi cymorth ychwanegol i’r digartref. Caiff y sefydliad ei ariannu gan gyfraniadau preifat yn ogystal â’r elw a ddaw o werthiant y cylchgrawn, ac mae’n ymchwilio i sefyllfaoedd sy’n arwain at ddigartrefedd yn y lle cyntaf, ac yn anelu at wella’r sefyllfaoedd hynny.

  7. Wnaiff y mesurau hyn ddim cael gwared â digartrefedd a thlodi ar y stryd ar unwaith. Mae’n wir eu bod yn gwella rhywfaint ar fywyd yr unigolion bregus, ac yn bendant, mae hynny’n beth da. Er mwyn gallu gwneud y newidiadau ehangach sydd eu hangen i ddatrys y problemau hyn, unwaith ac am byth, rhaid i nifer fawr o wahanol bobl weithio gyda’i gilydd. Mae’n bwysig gwella ansawdd bywyd ambell un fel hyn, ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y darlun cyfan hefyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod  
Chwaraewch un o’r caneuon. Efallai yr hoffech chi daflunio’r geiriau a’u dilyn tra rydych chi’n gwrando.
Dychmygwch eich bod yn ddigartref.
Sut byddech chi’n teimlo?
Sut byddech chi’n ymdopi?
Meddyliwch am y gwerthwyr Big Issue rydych chi wedi’u gweld.
Ydych chi wedi prynu copi o’r cylchgrawn erioed? Wnaethoch chi siarad â’r gwerthwr?
Neu efallai na wnaethoch chi edrych arno ef neu hi?
Oedwch am foment mewn distawrwydd i fod yn ddiolchgar am yr holl bethau sydd gennych chi yn eich bywyd.

Gweddi  
Efallai yr hoffech chi feddwl yn ddistaw am eich cartref, a bod yn ddiolchgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon