Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pleser mewn pethau bychain

Gall anrhegion bychain ddod â llawenydd mawr

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gallwn ni ddefnyddio ein heiddo er mwyn helpu'r rhai sydd heb gymaint o bethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd.

  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo YouTube, ‘Samaritan’s purse - boy celebrates Operation Christmas Child gift’ a’r modd o ddangos y clip yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am0.26 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=VFZBcB1a3Dk

Gwasanaeth

Arweinydd: Rwy’n siwr bod llawer ohonoch chi wedi gwylio’r rhaglen deledu I’m a Celebrity . . . Get Me Out of Here!  Yn y rhaglen deledu realaeth hon, mae rhai personoliaethau cyfoethog ac enwog yn cael eu hannog i roi'r gorau i bopeth er mwyn gallu goroesi yn y jyngl. Maen nhw yn bell o gartref a does ganddyn nhw ddim rheolaeth o gwbl dros eu cyflenwad bwyd na’r tasgau a’r treialon y mae'n ofynnol iddyn nhw eu gwneud. Mae pob un o’r enwogion hyn yn cael dewis un eitem foethus neu un eitem arbennig i fynd gyda nhw i'r jyngl. Efallai y bydd un person yn dewis llun eu plant; efallai bydd rhywun arall yn dewis gobennydd meddal, esmwyth. Yn achos rhai, fe allai’r eitem o foethusrwydd fod yn gyflenwad o ‘gel’ gwallt neu hufen gwyrthiol i’r wyneb. Ym mhob achos, mae'n rhywbeth y mae’r unigolion yn teimlo na allen nhw fyw hebddo.

Pe byddech chi’n gorfod dewis dim ond un eitem foethus i fynd gyda chi i'r jyngl, beth fyddai’r peth hwnnw? Trowch at y person nesaf atoch chi a thrafodwch eich dewis.

Caniatewch ychydig o amser i’r myfyrwyr drafod.

Mae gennym i gyd bethau arbennig y teimlwn na fyddem yn gallu byw hebddyn nhw.

Darllenydd 1: Allwn i, fy hun, byth oroesi heb fy iPod. Cerddoriaeth ydi fy holl fywyd. Fe fyddwn i ar goll heb gerddoriaeth. Sut y byddwn i’n gallu mynd i gysgu heb wrando ar gerddoriaeth?

Darllenydd 2: Yn fy achos i, siocled fyddai’r peth. Mae’n rhaid i mi gael siocled bob dydd neu fe fydda i’n mynd yn wirion. Alla i ddim dychmygu bod am ddiwrnod cyfan heb gael bar o siocled.

Darllenydd 3: I mi, fyddai bywyd ddim yn werth ei fyw pe na byddwn i’n gallu cael cawod bob dydd. Rydw i wrth fy modd yn sefyll yno o dan y jet o ddwr cynnes am tua deg munud, ac i mi mae hynny'n nefoedd. Fyddwn i byth yn gallu gadael y ty heb gael cawod. Bod yn lân yw'r peth mwyaf pwysig yn fy mywyd.

Arweinydd: Yn y tymor hwn, sef y Grawys, am y 40 diwrnod sy’n arwain at y Pasg, mae'n draddodiadol i Gristnogion roi'r gorau i rywbeth sy'n arbennig iddyn nhw er mwyn eu helpu i ganolbwyntio ar y dioddefaint yr aeth Iesu drwyddo ar y groes.

Fe allwn ni gael eu caethiwo gan y pethau sy'n arbennig i ni, ac rydyn ni eisiau mwy a mwy, nes ein bod yn anghofio am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig. Rydyn ni’n anghofio am y bobl hynny ledled y byd sydd â llai na ni, a’r rhai sy’n dioddef.

Gofynnwch i'r myfyrwyr a oes unrhyw un ohonyn nhw, ryw dro, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Bocsys Esgidiau adeg y Nadolig. Mae’r apeliadau hyn yn gofyn i bobl lenwi bocs esgidiau gydag anrhegion bach er mwyn gallu ei anfon at rywun mewn rhan arall o'r byd lle mae llawer o ddioddefaint, neu lle mae ychydig iawn o arian gan y bobl yno. Efallai na fydd y rhoddion yn bethau drud o gwbl, ond fe allan nhw ddod â llawer o lawenydd i’r rhai sy’n eu derbyn.

Dangoswch y clip fideo YouTube ‘Samaritan’s purse - boy celebrates Operation Christmas Child gift’.


Yn ystod y tymor Garawys hwn, beth am roi'r gorau i rywbeth sy'n bwysig i chi er mwyn i chi allu canolbwyntio ar y rhai nad oes ganddyn nhw gymaint o feddiannau, fel sydd gennym ni?

Darllenydd 1:Mae'n debyg fy mod i yn treulio llawer iawn gormod o amser yn gwrando ar gerddoriaeth. Tybed beth fyddwn i'n gallu ei wneud yn lle hynny pe byddwn i’n stopio am gyfnodau.

Darllenydd 2:Mae gen i syniad. Yn hytrach na rhoi'r gorau i siocled yn gyfan gwbl ar gyfer y Grawys, fe allwn i brynu siocled Masnach Deg ddwywaith yr wythnos, a dim ond bwyta hwnnw. Mae i’w gael ym mhob un o'r archfarchnadoedd erbyn hyn. Y ffordd honno, fe fydda i’n gallu cael fy ‘fix’ o siocled, ac fe fydda i’n gwneud rhywbeth i helpu eraill hefyd ar yr un pryd.

Darllenydd 3: Wel, mae’n bendant na alla i fynd heb gael cawod am 40 diwrnod. Fe fyddem i gyd yn dioddef pe bawn i’n gwneud hynny! Ond rydw i’n meddwl y gallwn i haneru'r amser yr ydw i’n ei dreulio yn y gawod, ac fe fyddai hynny'n arbed dwr ac yn arbed ynni. Hefyd, fe fyddwn i’n gallu ymchwilio a dysgu am brosiectau dwr ledled y byd. Os yw dwr glân yn bwysig i mi, mae'n bwysig i bawb yn y byd.

Amser i feddwl

Mae gennym gymaint i fod yn ddiolchgar amdano. Gadewch i ni gymryd eiliad i feddwl am yr holl bethau da sydd gennym, a diolch amdanyn nhw.

Gadewch i ni feddwl am eitem foethus sydd gennym. Yna, gadewch i ni gymryd eiliad i fyfyrio ar yr hyn y gallen ni ei wneud yn ystod tymor y Grawys er mwyn canolbwyntio mwy ar y rhai sydd â llai nag sydd gennym ni.

Gwrandewch ar eiriau'r weddi hon. Fe allech chi eu gwneud yn eiriau i chi eich hun os hoffech chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym yn cael ein hatgoffa yng nghyfnod y Grawys am y digwyddiadau ym mywyd Iesu a arweiniodd at y Pasg,
yr adeg y rhoddodd Iesu gymaint dros eraill.
Trwy gydol hanes, mae dynion a merched wedi gwneud cymaint, a rhoi cymaint o bethau er mwyn helpu pobl eraill.
Helpa ni bob amser i feddwl am ffyrdd y gallem ninnau helpu eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon