Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Meddwl iach mewn corff iach

Ar Fawrth 16, nodir 150 mlynedd ers i Joseph Lister gyhoeddi ei ganfyddiadau yn 1867 ynghylch lleihau risg yn achos heintiau

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o ddylanwadau ar ein hagwedd a’n gweithredoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.

Gwasanaeth

Arweinydd: O'm profiad i, gall y toriad lleiaf i'r croen achosi poen enfawr. Gall crafiad, ewin bys wedi ei gnoi'n flêr neu fflewyn na roddwyd sylw dyladwy iddo droi'n septig yn hawdd, a gall hynny achosi poen di-baid sy'n teimlo fel ei fod yn cael effaith ar bob rhan arall o'r corff. Rwy'n siwr fod hynny'n brofiad cyffredin i lawer ohonom. Mae'r boen yn digwydd oherwydd bod unrhyw doriad i'r croen yn galluogi germau i fynd i mewn iddo a'r germau hynny yw achos yr heintiad poenus.

Dros y canrifoedd, mae meddygon yn fwriadol wedi torri croen y rhai sy'n derbyn gofal ganddyn nhw fel bo modd iddyn nhw allu ymarfer rhoi triniaeth iddyn nhw. Yr enw ar y dull hwn o drin cleifion yw ‘llawdriniaeth’.  Fodd bynnag, problem enfawr yn yr amser a fu oedd bod llawer o'r cleifion, ar ôl goroesi trawma'r llawdriniaeth ei hun, ymhellach ymlaen yn marw o'r heintiadau a oedd yn dod i'w rhan. Roedd yr heintiadau hyn yn arfer cael eu galw yn ‘twymyn y ward’. Byddai agor y croen er mwyn gwneud triniaethau meddygol hefyd yn agor y rhan hwnnw o'r corff i'r germau.

Darllenydd 1: Roedd Joseph Lister yn athro llawdriniaethau ym Mhrifysgol Glasgow yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd wedi gweld llawer o achosion o dwymyn y ward, ac aeth ati i archwilio ffyrdd o gael gwared â’r dwymyn hon. Gan ddilyn yr ymchwil gan wyddonwyr eraill ar gyfandir Ewrop, fe ddechreuodd ddefnyddio asid carbolig ar y gorchuddion a oedd yn cael eu rhoi ar anaf yn dilyn llawdriniaeth. Fe ddarganfu fod hyn yn fodd o gadw'r germau rhag lledaenu a bod y cleifion yn gwella. Fe ddyfeisiodd beiriant hefyd a oedd yn chwistrellu niwlen ysgafn o asid carbolig o amgylch y bwrdd llawdriniaeth yn ystod gweithgaredd llawdriniaethol, a chreu amgylchfyd glân. Yn ychwanegol, addysgodd ei lawfeddygon i olchi eu dwylo ynghyd â’r offer meddygol mewn hylif gwan o asid carbolig rhwng llawdriniaethau. Cafwyd canlyniadau trawiadol i'r gweithdrefnau newydd hyn, gyda'r marwolaethau o dwymyn y ward mewn ysbytai a oedd dan ei reolaeth yn lleihau'n ddramatig.

Darllenydd 2:Bellach mae gweithdrefnau Lister yn ymddangos fel synnwyr cyffredin i ni, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai llawer o lawfeddygon yn arddangos eu balchder trwy wisgo gynau heb eu golchi, â staeniau gwaed arnyn nhw oherwydd eu bod yn credu y byddai hynny'n arwydd o faint eu profiad. Dim ond 150 o flynyddoedd yn ôl sydd ers i Lister gyhoeddi canlyniad ei ganfyddiadau, ar 16 Mawrth 1867, ac fe gymerodd y proffesiwn meddygol gryn sylw ohono.

Amser i feddwl

Arweinydd: Mae heintiad yn parhau'n gyffredin heddiw, ond dydw i ddim yn sôn yn y fan hyn yn unig am ‘super-bugs’ sydd wedi bod yn achos i beri cau rhai wardiau mewn ysbytai o dro i dro. Pe bydden ni'n ystyried ‘heintiad’ yn ei gyd-destun ehangach fel unrhyw beth all achosi niwed i ni, sy'n ein gwneud ni'n llai o unigolyn na'r hyn sydd o fewn ein potensial, mae llu o ffynonellau o heintiad o'n cwmpas ni.

Darllenydd 1: Mae rhai ohonom yn ddigalon ac yn meddu ar feddwl isel o hunanwerth.

Darllenydd 2: Mae rhai ohonom â delwedd wael o'n corff.

Darllenydd 3:Mae rhai ohonom yn ymdrechu i ddygymod â'r disgwyliadau sy'n cael eu gosod arnom gan ein rheini ac athrawon.

Darllenydd 1:Mae rhai ohonom yn genfigennus o’r pethau hynny sydd gan bobl eraill, ond sydd ddim gennym ni ein hunain.

Darllenydd 2:Mae rhai ohonom yn ysu am wir gariad ac anwyldeb.

Darllenydd 3: Mae rhai ohonom wedi'n caethiwo, boed hynny gan alcohol, cyffuriau, pornograffi neu gamblo.

Arweinydd:Fe fyddwn i'n nodi'r cyfan o'r pethau hyn fel ‘heintiadau’. Maen nhw'n bethau sy’n ymosod ar ein hiechyd. Bydd rhai yn gwneud y corff yn afiach, eraill yn amharu ar y meddwl. Maen nhw'n creu arferion afiach ac maen nhw'n heintus gan eu bod yn cael effaith ar ein ffrindiau a'n teuluoedd. Mae problem gennym yma sydd angen ei datrys, felly efallai y dylem ystyried cymhwyso gweithdrefnau Joseph Lister er mwyn lleihau'r haint.

Darllenydd 3: Gosododd Lister rwystr rhwng briw agored a'r germau sydd yn yr awyr. Mae angen i ninnau ystyried ffynonellau'r heintiadau sy’n effeithio ar y ein hymennydd, ar ein perthnasoedd ac ar ein corff, y pethau hynny sy'n cael effaith ar bob un ohonom. Er enghraifft, os mai'r ffynhonnell yw'r cylchgronau yr ydym yn eu darllen, efallai y byddai o fudd i ni roi'r gorau i'w darllen. Os mai'r gwefannau yr ydym yn edrych arnyn nhw sy’n amharu arnom ni, byddai'n fuddiol i ni roi'r bloc arnyn nhw. Os mai'r grwp cyfeillion yr ydych yn perthyn iddo, efallai y byddai o fudd i chwilio am ffrindiau newydd, er mor anodd fyddai hynny. Mae'n ofynnol gosod rhwystr rhyngoch chi â tharddiad yr ‘heintiad’ fel man cychwyn.

Darllenydd 1: Pwysleisiodd Lister hefyd bwysigrwydd o gael amgylchfyd diheintiedig. Rhoddodd Sant Paul gyngor da i'w ffrindiau mewn lle o'r enw Philippi. Fe ddywedodd wrthyn nhw am lenwi eu meddyliau â'r pethau hynny sydd yn dda, yn gyfiawn, ac yn wir, yn hardd ac yn anrhydeddus - mewn geiriau eraill, y pethau positif hynny mewn bywyd. Os ydych yn llenwi eich bywyd â gweithgareddau, delweddau a phobl sy'n gadarnhaol ac iachus, ni fydd fawr o le i ‘heintiadau’ gael gafael. Mae cylchgronau eraill i'w mwynhau, gwefannau eraill i'w harchwilio, ffrindiau eraill i berthnasu â hwy, grwpiau a thimau eraill i ymuno â nhw.

Darllenydd 2:Addysgodd Lister ei weithwyr i lanhau eu hunain ar ôl dod i gyffyrddiad â haint. Hyd yn oed gyda'r bwriadau gorau, ni allwn osgoi'r temtasiynau sydd o'n cwmpas bob amser. Beth allwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw cyfaddef ein ffaeleddau, newid cyfeiriad, a pharhau i ddilyn y nod yr ydym yn amcanu i'w gyrraedd. Mae Cristnogion yn galw hyn yn gyffes ac edifeirwch.

Arweinydd:Rwy'n credu bod rhai o'r materion hyn wedi taro tant â rhai ohonoch. Cofiwch os oes anhawster gennych chi, mae yma bobl yn yr ysgol, bob amser, y gallwch chi siarad â nhw. (Efallai y byddwch yn dymuno rhoi manylion o'r opsiynau cwnsela sydd ar gael yng nghymuned yr ysgol.)

Gweddi 
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am bopeth sy'n dda, yn wir, ac yn gadarnhaol yn y byd o'n cwmpas ni.
Atgoffa ni o'r pethau hyn pan fyddwn yn cael eu sugno i mewn i arferion afiach.
Boed i ni ddysgu byw bywyd sydd yn iach a chadw meddwl sy’n iach, hefyd.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon