Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ynfyd fel Sgwarnog Fawrth

Ymddwyn yn ddigymell ac yn llawn dychymyg

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i ni.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae pawb ohonom yn gwybod sut beth yw cwningen. Efallai bod rhai ohonom wedi bod yn cadw cwningen fel anifail anwes. Fodd bynnag, yr ydyn ni’n llai cyfarwydd â'r ysgyfarnog.

    Dangoswch y delweddau o'r ysgyfarnog a'r gwningen.

    Mae ysgyfarnog yn edrych yn debyg iawn i gwningen, ond mae ganddo goesau hir. Fodd bynnag, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r ysgyfarnog yn dechrau ymddwyn mewn ffordd eithaf nodedig. Yn ystod y tymor nythu, sy'n dechrau yn y gwanwyn cynnar, a gall bara am rai misoedd, fe allwch chi weld ysgyfarnogod yn neidio i fyny’n fertigol o’r llawr, yn union fel pe bydden nhw’n neidio ar ffyn pogo. Maen nhw’n ymddangos hefyd fel pe bydden nhw’n bocsio gydag ysgyfarnogod eraill, yn sefyll ar eu coesau ôl ac yn taro’i gilydd gyda'u pawennau. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr ysgyfarnogod gwrywaidd yn neidio er mwyn dangos eu bywiogrwydd a dangos pa mor ffit ydyn nhw, tra bod y benywod yn bocsio er mwyn gyrru ysgyfarnogod gwryw diangen oddi yno. Yn achos yr ysgyfarnogod gwryw a’r rhai benyw, mae’n ymddygiad sy'n gwbl groes i'w cymeriad fel arfer, ar wahân i adeg y tymor bridio. Ar bob adeg arall fe fyddai'r ysgyfarnogod gwrywaidd a’r rhai benywaidd yn fwy tebyg o redeg i guddio yn hytrach na thynnu sylw atyn nhw’u hunain. 

  2. Mae yna rai adegau pan fyddwn ninnau, bob un ohonom, ymddwyn yn groes i'n cymeriad. Weithiau, pan fyddwn ni o dan lawer o straen, efallai y byddwn ni’n ymateb mewn ffordd negyddol, gan ddechrau bod yn oriog neu’n fewnblyg ac yn isel ein hysbryd. Fodd bynnag, tybed a fydd unrhyw un ohonom yn gweithredu allan o gymeriad mewn modd digymell a llawn dychymyg, yn torri allan o'n hymddygiad arferol ac yn wahanol i'r disgwyliadau a roddir arnom ni. Fyddwn ni weithiau’n peri syndod mawr i’r bobl o'n cwmpas ni drwy wneud rhywbeth hollol annisgwyl?

  3. Mae mis Mawrth yn nodi dechrau'r gwanwyn i ni yn hemisffer y gogledd, y tymor pan fydd natur yn dechrau taflu cyfyngiadau'r gaeaf i ffwrdd ac yn paratoi ar gyfer mwynhau’r haf. Mis Mawrth yw’r mis pan fyddwn ni’n dechrau edrych ymlaen, yn dechrau gwneud cynlluniau, ac yn cael awydd i ddechrau gwneud pethau gwahanol. Efallai y bydd rhai ohonom yn awyddus i roi cynnig ar weithgaredd newydd, yn enwedig gweithgaredd sy'n golygu mynd allan o’r ty wrth i'r tywydd wella. Efallai ein bod yn awyddus i wthio ein hunain ychydig er mwyn gweld beth sy’n bosib i ni ei wneud. Efallai y bydd eraill yn penderfynu ei bod yn amser i ehangu eu grwp o gyfeillion, i fynd allan o'r drefn o wneud yr un pethau gyda'r un bobl drwy'r amser. Mae ffrindiau newydd yn gallu ein helpu i weld y byd o safbwynt gwahanol. 

  4. Efallai y bydd rhai ohonom am gael gwedd newydd, newid ein delwedd a rhoi mynegiant i'n personoliaeth. Mae eraill efallai yn gosod targedau i'w cyflawni cyn bydd yr hydref yn cyrraedd. Beth bynnag fydd ein dewis, gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg. Gadewch i ni roi cynnig ar rywbeth gwahanol, yn union fel yr ysgyfarnogod ym mis Mawrth.

  5. Mae’n gallu bod mor hawdd setlo i mewn i drefn, gan barhau â'r fformiwla sydd wedi ei phrofi, y fformiwla yr ydyn i’n ei defnyddio i fyw ein bywydau. Yn aml, mae hyn oherwydd bod parhau yn yr un modd ddim yn golygu llawer o ymdrech. Rydyn ni’n teimlo'n ddiogel pan fyddwn yn aros yr un fath. Mae pobl eraill yn disgwyl i ni weithredu mewn ffordd benodol ac efallai nad ydyn ni am dynnu sylw atom ein hunain trwy weithredu’n wahanol. Mae'n well gennym aros allan o sylw pobl eraill, fel yr ysgyfarnog am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Ond weithiau, fodd bynnag, mae'n dda i ni ehangu ein gorwelion. 

  6. Un o'r negeseuon allweddol y mae Cristnogion yn eu credu yw y gall pobl bob amser gael dechrau newydd mewn bywyd. Soniodd Iesu am hadau’n tyfu’n goed enfawr, soniodd am dir sych yn llifeirio o ddwr croyw, a hyd yn oed am y marw’n dod yn fyw eto. Mae'r Beibl yn llawn o straeon am Iesu’n cyfarfod pobl sydd â fawr ddim i edrych ymlaen ato yn eu bywyd, ac yn agor cyfres newydd o bosibiliadau iddyn nhw. Cawn hanes pobl nad ydyn nhw’n gallu cerdded yn cael eu hanfon i ffwrdd dan redeg a neidio. Mae pobl ddall yn gweld y byd am y tro cyntaf ac yn disgrifio’r hyn maen nhw’n ei weld mewn ffordd newydd, ryfeddol. Cawn hanes pobl fyddar yn clywed lleisiau am y tro cyntaf. Mae'r rhai oedd wedi cael eu halltudio yn eu cymdeithas yn cael rheswm newydd sbon ar gyfer byw, yn hollol y tu hwnt i’w breuddwydion. Mae hyd yn oed rhai pobl oedd wedi marw yn cael eu hadfer i fywyd. Yn wir, yr oedd y rhai a oedd yn dyst i wyrthiau Iesu yn synnu cymaint ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei weld yn digwydd, nes eu bod weithiau’n meddwl bod y dynion a’r merched hynny’n hollol wallgof, yn union fel yr ysgyfarnog Fawrth!

Amser i feddwl

Beth amdanom ni? Beth yw ein breuddwydion? Am beth rydyn ni'n hiraethu cael bod? Pa newidiadau yr ydym yn eu deisyfu ar gyfer ein bywyd?

Peidiwch â gadael i ni gyfyngu ein hunain oherwydd yr hyn mae eraill yn ei ddweud wrthym, neu oherwydd ein bod yn pryderu beth fyddai eu hymateb. Ar ddechrau'r gwanwyn, efallai bod angen i ni ddysgu oddi wrth yr ysgyfarnog Fawrth a gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y dewisiadau amlwg a welwn o'n blaenau.
Atgoffa ni am y nifer o bosibiliadau eraill, hefyd.
Rho’r dewrder i ni fod yn ddigymell ac yn llawn dychymyg.
Helpa ni i fod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd ac i wneud y mwyaf o bob cyfle wrth i ni symud ymlaen trwy ein bywyd.

Amen

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon