Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr wyl Hindwaidd Holi

Mae’r wyl Hindwaidd Holi

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Deall yr ystyr sydd y tu ôl i Wyl Holi a’i defnydd o liwiau llachar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a phedwar darllenydd. Fe allech chi hefyd ddefnyddio rhai o’r myfyrwyr i ffurfio lluniau llonydd o’r golygfeydd yng ngwahanol rannau’r stori.
  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r gân ‘True colours’ gan Phil Collins yn ystod y gwasanaeth, os hynny trefnwch fodd o’i chwarae. Mae clip fideo ohoni ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=XbqvifFqtq8. Mae’n para am 4.35 munud.

Gwasanaeth

Arweinydd: Dangoswch y delweddau o ddathliadau gwyl Holi.

Gofynnwch i'r myfyrwyr beth maen nhw'n ei feddwl mae’r bobl yn y lluniau yn ei wneud.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r myfyrwyr.

Eglurwch fod y bobl hyn yn rhoi paent lliw dros y naill a’r llall. Fe fyddan nhw’n ei daenu dros eu hwynebau eu hunain, ac fe fyddan nhw’n taflu powdr o wahanol liwiau, a dwr, at ei gilydd hefyd. Holwch y myfyrwyr pam maen nhw’n meddwl mae’r bobl yn gwneud hyn.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r myfyrwyr.

Eglurwch mai Hindwiaid yw’r bobl yn y lluniau ac maen nhw’n dathlu gwyl Holi.

Darllenydd 1:Gwyl Hindwaidd y lliwiau yw Holi. Ond mae hefyd yn wyl o ddathlu’r gwanwyn a bywyd newydd. Mae’n wyl lachar a bywiog, pryd mae pob synnwyr o unrhyw wahaniaethu’n cael ei roi o’r nelltu. Bydd rhai o wahanol safleoedd yn y system ‘cast’ yn dathlu gyda’i gilydd - dynion a merched, hen ac ifanc, pawb yn ymuno yn yr hwyl o daflu paent lliw at ei gilydd. Bydd y bobl yn gwisgo dillad gwyn er mwyn i’r lliwiau fod yn amlwg. Mae’n ymddangos yn wyl llawn hwyl a chyffro. Nid yn aml y cewch chi gyfle i daflu paent at bobl eraill!

Arweinydd:Fel gyda’r rhan fwyaf o’r gwyliau Hindwaidd, mae stori’n gysylltiedig â Holi, stori y gallech chi ei hactio neu ei hailadrodd. Dyma’r brif stori sy’n gysylltiedig â gwyl Holi.

Darllenydd 2:Diafol benywaidd oedd Holika, ac roedd yn chwaer i Hiranyakashipu, a oedd yn frenin y diafoliaid. Roedd Hiranyakashipu yn meddwl ei fod yn rymus iawn, ac roedd yn ystyried ei hun yn rheolwr y bydysawd. Roedd yn teimlo ei fod yn uwch na’r holl dduwiau.

Darllenydd 3:Roedd gan Hiranyakashipu fab o’r enw Prahalad. Roedd Hiranyakashipu yn ei ddirmygu am fod Prahalad yn ffyddlon i’r duw Vishnu. Gofynnodd y brenin iddo un diwrnod, ‘Pwy yw’r mwyaf, Duw neu fi?’

Atebodd ei fab, ‘Duw yw’r mwyaf, dim ond brenin ydych chi.’ Pan glywodd hyn, roedd y brenin yn gynddeiriog, ac fe benderfynodd lofruddio’i fab ei hun.

Darllenydd 4:Ond, bob tro y byddai’r brenin yn rhoi cynnig ar ei ladd, roedd yn aflwyddiannus. Gwthiwyd Prahalad dros ymyl clogwyn, ond ni chafodd ei ladd; gwasgwyd ef gan eliffantod, ond roedd yn dal yn fyw; brathwyd ef gan nadroedd, ond doedd o ddim gwaeth; ymosodwyd arno gan filwyr arfog hyd yn oed, ond wnaeth o ddim marw. Roedd hi’n amlwg bod rhywun ar ei ochr!

Darllenydd 1:Mewn penbleth a rhwystredigaeth fawr, gofynnodd y brenin i’w chwaer, Holika, ladd y bachgen. Gafaelodd Holika yn Prahalad ac eistedd yng nghanol tân gyda’r bachgen ar ei glin - fe fyddai hynny’n sicr o’i ladd! Neu, dyna beth a feddyliai’r brenin beth bynnag.

Darllenydd 2:Roedd gan Holika rym hudol a roddwyd iddi gan y duwiau a oedd gallu gwneud iddi wrthsefyll tân. Felly, roedd Hiranyakashipu yn meddwl y byddai hwnnw’n gynllun da i gael gwared â Prahalad. Fe fyddai Prahalad yn llosgi’n ulw, ond fe fyddai chwaer y brenin yn ddianaf. Ond nid yw bob amser yn beth doeth cymryd rhoddion duw’n ganiataol, a’u camddefnyddio!

Darllenydd 3:Oherwydd bod Holika yn defnyddio’i dawn er mwyn gwneud rhywbeth drwg, fe ddiflannodd y grym arbennig hwnnw, ac fe losgodd yn lludw. Ond parhaodd Prahalad yn driw i’w dduw, Vishnu, gan weddïo arno wrth eistedd ar lin ei fodryb ddieflig, ac ni chafodd ei gyffwrdd gan y tân. Roedd Vishnu wedi ei warchod, ac roedd Prahalad yn dal yn fyw hyd yn oed y tro hwn hefyd.

Darllenydd 4:Yn fuan wedyn, fe laddwyd y Brenin Hiranyakashipu gan Vishnu, ac fe lywodraethodd Prahalad fel brenin doeth yn lle ei dad.Er mwyn dathlu’r stori, fe fydd Hindwiaid yn llosgi coelcerthi mawr yn ystod gwyl Holi. Mewn sawl lle yn India, fe fyddan nhw’n llosgi delw o Holika i gofio am ei gweithredoedd drwg.

Amser i feddwl

Arweinydd: Felly beth yw’r wers yn y stori? Y wers yw bod y da bob amser yn trechu’r drwg, a bydd y rhai hynny sy’n ceisio poenydio gweision ffyddlon a chywir y duwiau yn cael eu dinistrio. Mae hon yn neges rymus iawn, ac yn un sy’n cael ei hamlygu gan bwysigrwydd y lliwiau a’r hwyl ym mhrif ran yr wyl.

Mae’n gysur gwybod bod y rhai hynny sydd wedi bod yn ddrwg yn mynd i gael eu cosbi, a bod daioni yn cael ei wobrwyo. Mae prif ddigwyddiad Holi yn ymwneud â neges bwysig: bydd daioni yn goresgyn drwg ym mhob achos, hyd yn oed os ydym yn cael ein sathru gan eliffantod a’n brathu gan nadroedd!

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weld y da yn hytrach na’r drwg.
Helpa ni i ddefnyddio ein doniau er mwyn gwneud daioni yn hytrach na’u camddefnyddio i bwrpas arall.
Gad i wyl Holi ddangos i ni mai bod yn dda a pharchu eraill yw’r ffordd orau i fyw bywyd hapus a llawn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon