Deffrowch, mae’n fore hyfryd!
Teimlad Sul y Pasg
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ein hannog i fod yn optimistaidd yn hytrach na bod yn besimistaidd
Gwasanaeth
Arweinydd:A ydych chi'n deffro weithiau ac yn dymuno peidio â chodi o'r gwely?
Darllenydd 1: Gallai hynny fod oherwydd na chawsoch noson dda o gwsg.
Darllenydd 2: Gallai hynny fod oherwydd nad ydych yn teimlo'n dda.
Darllenydd 1: Gallai hynny fod oherwydd ei bod hi'n dywydd oer.
Darllenydd 2: Gallai hynny fod oherwydd eich bod yn anfodlon wynebu'r hyn sydd o'ch blaen y diwrnod hwnnw.
Arweinydd:Ar y dydd Sadwrn ar ôl y Pasg cyntaf, dyna'n union fel y byddai dilynwyr Iesu wedi teimlo. Roedd eu harweinydd, Iesu, yr un yr oedden nhw wedi selio'u gobaith arno, yr un yr oedden nhw wedi ymadael â'u swyddi a'u teuluoedd er ei fwyn, newydd gael ei groeshoelio mewn ffordd ddychrynllyd ac anghyfiawn gan yr awdurdodau Rhufeinig a chrefyddol. Roedd llawer o ddilynwyr Iesu yn byw mewn ofn am eu bywyd eu hunain. Roedd pob un ohonyn nhw'n wedi cael eu dychryn. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm. Roedd eu teimladau o bosib yn gyfan gwbl ddigalon.
Dydy teimlo'n ddigalon ddim yn beth anghyffredin. Efallai ein bod yn ceisio dygymod â chyfres o ddigwyddiadau y gellid eu disgrifio fel profiadau ‘anlwcus’. Efallai ein bod wedi cael profedigaeth o golli rhywun a oedd yn golygu llawer i ni. Efallai ein bod yn nerfus, hyd yn oed yn ofnus, am rywbeth yr ydym yn gorfod delio ag ef. Gall fod penderfyniad nad ydym yn awyddus i'w wneud. Yn syml efallai mai dyna'r math o bobl ydyn ni sy'n dueddol bob amser i edrych ar ochr dywyll bywyd.
Ond . . . gadewch i ni symud ymlaen ddau ddiwrnod yn ystod y Pasg cyntaf hwnnw. Mae sibrydion yn dechau dod i glyw dilynwyr Iesu, yn groes i unrhyw ddisgwyliad, yn groes hyd yn oed i ddealltwriaeth resymol, fod Iesu'n dal yn fyw. Yn raddol, mae Iesu'n ymddangos, i unigolion ac i grwpiau ohonyn nhw, ac mae ei ymddangosiad yn cael effaith sy'n trawsffurfio pawb. Yn sydyn, mae'r byd yn lle gwahanol iddyn nhw. Caiff ofn ei waredu a’i gyfnewid gan ddymuniad i weiddi dros bob man fod Iesu'n fyw drachefn. Mae'r dyfodol yn llawn gobaith; mae unrhyw beth yn bosib a phob dydd daw cyfle i bethau rhyfeddol ddigwydd. Caiff y meddyliau pesimistaidd eu troi'n feddyliau optimistaidd.
Amser i feddwl
Arweinydd:Nid yw’n beth anghyffredin i bobl ddatgan eu bod yn besimistiaid. Maen nhw'n honni mai dyna'r ffordd y maen nhw wedi cael eu gwneud, a'i fod yn ymwneud â chemeg eu corff. Iddyn nhw, mae'n ymddangos eu bod trwy natur yn gweld yr ochr negyddol o fywyd yn unig.
Mae Cristnogion yn credu nad oedd gan unrhyw un yn y byd fwy o reswm i fod yn besimistaidd na dilynwyr Iesu yn ystod y dyddiau ar ôl ei farwolaeth. Iddyn nhw, roedd bywyd wedi colli ei ystyr, eu bywyd personol, eu perthnasoedd, y gymuned y maen nhw'n perthyn iddi, a sefyllfa wleidyddol eu cenedl a oedd wedi'i meddiannu. Roedd popeth wedi cael ei chwalu. Doedd ganddyn nhw ddim ar ôl i fyw er ei fwyn. Ond dyna pam mae Cristnogion yn credu ei bod hi'n bwysig gwybod stori'r Pasg yn gyfan gwbl. Rhaid i Ddydd Gwener y Groglith, y diwrnod y cafodd Iesu ei ladd, y dydd pryd y dymchwelodd y byd i'w ddilynwyr, gael ei ddilyn bob amser gan Sul y Pasg, y dydd pan atgyfododd Iesu.
Yn y dyddiau, yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd ar ôl atgyfodiad Iesu, roedd ei ddilynwyr wedi byw eu bywyd gan gredu, beth bynnag y byddai'r byd yn ei daflu atyn nhw, roedd Iesu'n fyw ac ni allai unrhyw beth ddisodli’r gwirionedd hwnnw. Dyna'r union gred y mae Cristnogion yn ei harddel heddiw, fod atgyfodiad Sul y Pasg yn trawsnewid pob diwrnod newydd. Mae Sul y Pasg yn golygu ei bod hi'n bosib byw fel optimistiaid yn hytrach nac fel pesimistiaid.
Efallai eich bod yn rhannu'r gred Gristnogol honno. Efallai bod gennych gred wahanol, neu ddim cred o gwbl. Ond i bawb ohonom, mae egwyddor sylfaenol y gallwn i gyd ei mabwysiadu: gallwn ddewis byw ein bywyd yng ngoleuni'r pethau da sydd wedi digwydd i ni yn hytrach nac yn nhywyllwch ein camgymeriadau a'n profiadau anffortunus. Gallwn ddewis fod yn optimistiaid yn hytrach na bod yn besimistiaid.
Sut mae gwneud hyn? Efallai mai'r foment allweddol yn hyn i gyd yw'r foment honno pan fyddwn yn deffro. Wrth i ni ddod yn ymwybodol o'n hamgylchiadau, o'r breuddwydion y buom yn eu breuddwydio, o'r diwrnod sydd o'n blaen, mae gennym ddewis: a ydym yn canolbwyntio ar y pethau yr ydym yn eu hofni neu ar y pethau hynny yr ydym yn eu mwynhau ac yn ddiolchgar amdanyn nhw? Efallai y byddai'n gallu bod yn ddefnyddiol pe byddem yn treulio moment yn atgoffa ein hunain am bopeth y gwnaethon ni eu mwynhau ddoe, cofio am lwyddiannau, profiadau da ac adegau da gyda phobl eraill. Ar fore diflas, gall fod yn anodd cael gwared ag atgofion negyddol sydd wedi ymwthio i'n meddwl. Efallai y gallem hefyd restru'r pethau hynny yr ydym yn edrych ymlaen atyn nhw y diwrnod hwnnw. Efallai mai pethau syml ydyn nhw fel mynd i leoliad lle'r ydym yn teimlo'n ddiogel neu gael pryd o fwyd yr ydym yn gwybod y byddwn yn ei fwynhau. Yn olaf, gallwn ymgodymu â'r pethau hynny yr ydym yn pryderu amdanyn nhw neu'n ofnus yn eu cylch.
Yn achos Cristnogion, mae atgyfodiad Sul y Pasg fel golau mewn ystafell dywyll, fel gwanwyn ar ôl gaeaf llaith a digalon, fel cyfle newydd sbon. Mae'r cyfan yn ein hatgoffa bod gobaith bob amser, a ffordd ymlaen bob amser.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y profiadau pleserus, llwyddiannus, cariadus a chadarnhaol y byddwn yn eu cael.
Atgoffa ni o’r profiadau hyn bob tro yr ydym yn teimlo’n besimistaidd.
Boed i ni gael ein trawsnewid ein hunain, a thrwy hynny allu trawsnewid y rhai o'n cwmpas.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘Beautiful day’ gan U2