Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn ddistaw

Beth allwn ni ei ddysgu mewn distawrwydd?

gan The Revd Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Beth allwn ni ei ddysgu mewn distawrwydd?

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch bawb i ddychmygu eu bod yn mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol. Yng nghanol y llwyfan mae piano cyngerdd. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith newydd gan gyfansoddwr o'r enw John Cage. Mae mewn tri symudiad a theitl y darn yw 4'33''. Mae’r gynulleidfa’n cymeradwyo wrth i’r pianydd ddod i mewn. Mae’n gosod rhai taflenni gwag o gerddoriaeth ar y piano. Ar ôl saib, mae'r pianydd cau caead y piano ac yn codi ei law dde fel pe byddai’n paratoi i ganu’r piano. Am 30 eiliad, does dim byd i’w glywed heblaw am swn y gwynt yn y coed y tu allan i'r neuadd. Mae'r pianydd yn agor y caead am ychydig eiliadau, ac yna’n ei gau am gyfnod pellach. Mae’n gwneud osgo eto fel pe byddai’n barod i ganu’r piano, ond eto ddim yn gwneud unrhyw sain. Gellir clywed swn y glaw yn curo ar y to. Unwaith eto, mae caead y piano’n cael ei agor a’i gau. Mae’r bobl o'ch cwmpas yn awr yn sibrwd wrth ei gilydd, "Beth sy'n mynd ymlaen?" Mae rhai’n cerdded allan yn chwyrn. Ar ôl pedwar munud a thri deg tri eiliad, caiff y caead ei agor eto. Mae'r perfformiad yn drosodd. 

  2. Esboniwch eich bod chi newydd ddisgrifio perfformiad cyntaf John Cage o’r gwaith sy’n dwyn y teitl, 4'33'', yn Efrog Newydd yn 1952.

    Dangoswch y clip fideo YouTube o waith ‘John Cage, sef 4’33’’’. (Defnyddiwch hynny a fynnwch chi o’r fideo.)

    Fe ddaeth yn rhywbeth enwog ac yn beth dadleuol. Weithiau, mae'r gwaith yn cael ei gyfeirio ato fel darn tawel. Fodd bynnag, yr hyn yr ydych mewn gwirionedd yn ei glywed os ydych yn gwrando ar 4'33”yw seiniau ar hap. Wrth gael ei gyfweld yn ddiweddarach yn ei fywyd, fe ddywedodd John Cage hyn, ‘People expect listening to be more than listening . . . WhereasI love sounds, just as they are.’


  3. Meddyliwch am y ffaith, er bod pobl yn gwahaniaethu yn eu hymateb i 4'33'', mae’r cyfansoddiad yn gwahodd pawb i wrando ar gerddoriaeth eu hamgylchedd, a darganfod swn y distawrwydd.

  4. Gwahoddwch aelodau o gymuned yr ysgol i feddwl am eu profiad o dawelwch. Gwnewch y sylwadau canlynol.

    - A allai distawrwydd ein helpu i werthfawrogi'r byd o'n cwmpas yn fwy?
    - Mae dywediad Saesneg yn nodi bod adegau weithiau pan fydd distawrwydd yn dweud mwy na geiriau - ‘silence speaks louder than words’. Er enghraifft, ar adegau trasig, gall tawelwch fynegi galar a rennir, ac undod.
    - Gall distawrwydd greu teimlad anghyfforddus weithiau.Er hynny, mae rhai pobl yn sôn am y 'gwrando mewnol' ac yn defnyddio tawelwch fel ffordd o gynyddu hunanymwybyddiaeth.
    - Mae rhai pobl ffydd sy'n credu ei bod yn bosibl i Dduw ‘siarad drwy ddistawrwydd’. Beth allai hyn ei olygu? A allai'r bugeiliaid yn stori'r Nadolig fod wedi clywed 'cerddoriaeth y nefoedd' yn llonyddwch y nos?
    -Roedd John Cage yn dadlau nad oedd cerddoriaeth yn golygu unrhyw beth – fe ddywedodd, ‘music is sound that doesn’t mean anything’. A oedd yn gywir wrth ddweud hynny?A oes ystyr i'w ganfod yn swn y distawrwydd?

Amser i feddwl

Dyma ddyfyniad o eiddo John Cage, ‘The sound experience whichI prefer to all others, is the experience of silence.’

Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

- Ydyn ni’n hollol ddistaw, ar unrhyw adeg, o gwbl?
- Fyddwn ni, ar unrhyw adeg, yn gwneud amser i fod yn ddistaw fel y gallwn ni wirioneddol wrando ar y byd o'n cwmpas?

Gofynnwch i'r myfyrwyr dreulio rhywfaint o amser mewn distawrwydd tra bydd y clip fideo YouTube, ‘4’33’’ John Cage’ yn cael ei ddangos. Mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Oh-o3udImy8

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon