Mwy o esgusodion?
Mae pawb â’r gallu i helpu
gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dangos y gallwn ni i gyd gyfrannu tuag at wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â gwaith Post Pals. Mae eu gwefan ar gael ar:http://www.postpals.co.uk/
Gwasanaeth
- Rwy’n siwr y byddech chi’n cytuno â fi bod llawer o angen yn y byd. Mae sôn am effeithiau dinistriol tlodi, rhyfel, heintiau ac afiechyd, trais, bod yn gaeth i gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, i’w weld yn yr holl bapurau newydd, ar y teledu, ac ym mhob cymuned. Mae llawer o angen mewn gwledydd ledled y byd. Mae llawer o angen mewn llefydd yn nes adref hefyd.
- Ond beth allwn ni ei wneud ynghylch yr angen dirfawr yma? Pa wahaniaeth y gallwn ni ei wneud? Tybed beth yw eich ymateb chi pan fydd rhywun yn gofyn i chi wneud rhywbeth i helpu eraill? Oes rhai o’r esgusodion canlynol yn swnio’n gyfarwydd?
- Does gen i ddim amser.
- Does gen i ddim arian yn sbâr.
- Fyddai dim fyddwn i’n gallu ei wneud yn gwneud unrhyw wahaniaeth beth bynnag.
- Dydw i ddim yn ddigon clyfar.
- Dydw i ddim yn dda iawn am wneud unrhyw beth.
- Fyddwn i ddim yn gallu gwneud y math yma o beth.
- Dydw i ddim yn dda iawn am allu helpu pobl eraill.
- Mae’r angen mor fawr, ac fe fyddai’r hyn fyddwn i’n gallu ei wneud yn fach iawn. - Gadewch i mi ddweud hanes Vikki George wrthych chi. Rai blynyddoedd yn ôl pan oedd hi’n 17 oed, fe’i trawyd hi’n wael iawn gyda’r afiechyd myalgic encephalomyelitis sy’n cael ei alw’n fyr yn ME. Mae hwn yn salwch gwanychol cronig a oedd yn golygu na allai Vikki hyd yn oed godi o'r gwely bron. Roedd hi’n wan iawn ac yn gwanychu’n barhaus. Fe fu hi am bum mlynedd yn methu cerdded na hyd yn oed eistedd i fyny. Erbyn hyn mae’n gallu mynd allan o’r ty ambell waith, ond dim ond mewn cadair olwyn. Yn ystod ei gwaeledd fe gollodd gysylltiad â’i ffrindiau ac roedd hi’n unig iawn. Doedd hi ddim yn gallu gwneud unrhyw beth o’r gweithgareddau normal y byddai merch o’i hoed hi’n hoffi eu gwneud. Doedd hi ddim yn gallu gwneud unrhyw beth bron.
Beth allai merch fel Vikki ei wneud i helpu unrhyw un arall? Doedd hi ddim hyd yn oed yn gallu helpu ei hun. Roedd hi mewn angen mawr ei hunan. Sut felly y gallai hi helpu rhywun arall oedd mewn angen? - Roedd Vikki wrth ei bodd yn derbyn cardiau a llythyrau gan wahanol bobl, ac fe roddodd hynny syniad iddi sefydlu mudiad a fyddai’n gallu anfon cardiau a llythyrau yn rheolaidd at blant a oedd yn wael. Fe alwodd hi’r mudiad ynPost Pals, a’i sefydlu yn y flwyddyn 2002. Mae’r Post Pals yn dal i gael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n ymroddedig i wneud i blant sy’n ddifrifol wael, a'u brodyr a'u chwiorydd, wenu drwy anfon atyn nhw gardiau, llythyrau, anrhegion bach, a chefnogaeth a chyfeillgarwch. Yn 2014, pan oedd Vikki yn 30 oed, derbyniodd ddyfarniad ‘Point of Light award’ gan y prif weinidog ar y pryd, David Cameron, am y gwaith yr oedd hi wedi ei wneud. Mae’r wobr ‘Point of Light’ yn cydnabod 'gwirfoddolwyr unigol eithriadol’.
- Mae Vikki yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom! Er iddi dreulio pob pen-blwydd, ers iddi gael y diagnosis, yn ei gwely, wnaeth hi ddim gadael i’w salwch ei rhwystro rhag gwneud rhywbeth. Mae hi’n dal i fod eisiau helpu pobl eraill, ac nid yw’n gadael i’w salwch ei rhwystro. Wnaeth hi ddim hel esgusodion. Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miloedd o bobl. Fe wnaeth hi ganfod angen penodol a gwneud yr hyn allai hi i gwrdd â’r angen hwnnw.
Mae’n bosib i chi ymweld â gwefan Post Pals, ac wedyn fe allech chi feddwl tybed beth allech chi ei wneud i lonni rhywfaint ar ddiwrnod plentyn bach sy’n wael iawn. Yr hyn sydd raid i chi ei wneud yw clicio ar enw un plentyn sydd ar y rhestr yn y wefan, a darllen amdano. Wedyn, fe allech chi anfon cerdynneu lythyr, neu efallai anrheg fach syml. Gweithred fach hawdd. Ond fe allai wneud gwahaniaeth mawr.
Amser i feddwl
Wrth i ni ddiweddu’n gwasanaeth heddiw, gadewch i ni feddwl am foment am ein hymateb personol ni i’r angen sydd yn ein byd.
Gadewch i ni fod yn bobl sy’n ofalgar tuag at bobl eraill sydd mewn angen.
Oedwch i roi amser i feddwl.
Gadewch i ni fod yn bobl sy’n dod â gwên i wyneb pobl eraill.
Oedwch i roi amser i feddwl.
Gadewch i ni fod yn bobl sy’n gwrthod esgusodion ac yn croesawu gweithredoedd.
Oedwch i roi amser i feddwl.
Gadewch i ni fod yn bobl sy’n dweud, ‘Gallaf, fe allaf i.’
Oedwch i roi amser i feddwl.
Gadewch i ni fod yn bobl fel Vikki George.
Oedwch i roi amser i feddwl.
Gadewch i ni bob amser fod yn bobl sy’n ofalgar tuag at bobl eraill.
Oedwch i roi amser i feddwl.