Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn groes i’r tebygolrwydd

Ystyried hanes bywyd y Santes Siân d’Arc (St Joan of Arc), y mae ei dydd gwyl yn digwydd ar 30 Mai

gan Brian Radcliffe (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried hanes bywyd Siân d’Arc, merch ifanc nodedig na roddodd le, pan oedd hi yn ei harddegau, i ragfarnau pobl eraill droi ei sylw oddi wrth yr hyn yr oedd hi’n ei gredu oedd ei phwrpas mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

Arweinydd:Cafodd Siân d’Arc ei geni yn y flwyddyn 1412, yn ystod y ‘Rhyfel Can Mlynedd’ rhwng Lloegr a Ffrainc.Roedd ei phlentyndod wedi ei nodweddu ag ansicrwydd. Roedd pentref Domrémy, lle’r oedd ei chartref, wedi ei leoli ar y ffin rhwng y rhannau hynny o Ogledd Ffrainc a oedd dan awdurdod y Saeson a’r rhannau hynny a oedd yn gorwedd i’r De ac a oedd o dan awdurdod Ffrainc. Bu farw’r ddau frenin rhyfelgar, Harri V o Loegr a Siarl VI o Ffrainc o fewn blwyddyn i’w gilydd, yn 1422. Roedd mab Siarl, Siarl oedd ei enw ynau hefyd, yn awyddus i gymryd meddiant o orsedd Ffrainc ond fe fethodd oherwydd bod dinas Reims, lle byddai brenhinoedd Ffrainc yn draddodiadol yn cael eu coroni, yn nwylo’r Saeson. Roedd yno wagle gwleidyddol yn bodoli felly, a dechreuodd y Saeson gymryd mantais o’r ffaith honno.

Darllenydd 1: Roedd Siân d’Arc yn unigolyn ysbrydol, yn ymateb i lais Duw a oedd yn cyfeirio’i bywyd. Roedd hi’n credu, yn neilltuol felly, ei bod hi’n derbyn ymweliadau cyson gan dri o seintiau: Sant Mihangel, y Santes Catherine a’r Santes Margaret. Y neges yr oedden nhw’n ei gadael gyda hi oedd y dylai hi fynd at Siarl a chynnig ei chymorth iddo ail-ddal Reims, a thrwy wneud hynny, ei alluogi ef i gael ei goroni’n Frenin.

Darllenydd 2: Ym mis Mai 1428, a hithau’n ddim ond 16 mlwydd oed, ond er hynny’n llawn hunanhyder, fe deithiodd Siân d’Arc i Vaucouleurs a chynigiodd ei gwasanaeth i gapten garsiwn Siarlyno, gan egluro iddo y manylion am ei gweledigaethau. Heb lawer o syndod, cafodd ei chynnig ei wrthod gan y capten - o bosib braidd yn nawddoglyd - a chafodd ei hanfon adref. A hithau’n anfodlon rhoi’r ffidil yn y to, fe ddychwelodd yno chwe mis yn ddiweddarach ac, oherwydd bod ei dyfalbarhad wedi creu argraff ar y capten, cafodd ganiatâd i weld Siarl.

Darllenydd 1: O ganlyniad i’r cyfarfyddiad hwn, fe ddechreuodd Siân d’Arc a Siarl chwarae gemau rôl â’i gilydd. Am mai merch oedd hi, a hithau’n sylweddoli bod y ffaith ei bod yn ferch yn fater o bwys, fe wisgodd Siân d’Arc fel dyn. Rhan Siarl yn y gêm oedd cuddio’i hun ymhlith gwyr ei lys, gan ddisgwyl i Siân d’Arc ei adnabod. Er hynny, fe lwyddodd hi i’w adnabod ar unwaith a dywedodd wrtho am y genhadaeth y credai hi yr oedd Duw wedi ei rhoi iddi.

Darllenydd 2: O fewn ychydig wythnosau, roedd hi wedi cael ei gosod i reoli byddin fechan a rhoi cychwyn ar ei gyrfa filwrol, gan wthio byddin y Saeson yn ôl, meddiannu Reims, a galluogi Siarl i gael ei goroni’n Frenin Ffrainc.

Arweinydd: Peth hawdd yw gwrando ar stori Siân d’Arc a gadael i’w harwyddocâd lithro heibio heb i ni feddwl.Ond y ffeithiau sydd wrth wraidd y stori ryfeddol hon yw’r rhain: yn ystod ei chyfnod llwyddiannus fel arweinydd milwrol, dim ond 16 ac 17 mlwydd oed oedd Siân d’Arc, (oedwch er mwyn rhoi amser i’ch cynulleidfa feddwl am hyn) ac ar ben hynny, merch oedd hi. Yng nghymdeithas y cyfnod hwnnw, a oedd yn cael ei rheoli gan ddynion yn bennaf, mae’r hyn a gyflawnodd hi yn ymddangos yn rhyfygus, a dweud y lleiaf, o feddwl bod Siân d’Arc yn credu y byddai ei safbwyntiau hi yn cael clust gan ddynion mewn oed, mwy profiadol, o lys a byddin Ffrainc. Eto, gwrthododd wadu ei chenhadaeth. Cafodd ei hunan-sicrwydd a’i dyfalbarhad eu gwobrwyo a, phan roddwyd y cyfle iddi, cafodd ei chyfiawnhau trwy ei chanlyniadau.

Yr oedd, fodd bynnag, un prawf ychwanegol o ffydd yr oedd yn ofynnol iddi ei wynebu. O gael ei dal yn y diwedd gan y Saeson, cafodd ei chyhuddo o heresi oherwydd ei bod wedi gosod mwy o bwysigrwydd ar ei gweledigaeth ysbrydol ei hun yn hytrach nag ar yr hyn yr oedd yn ei gyflawni dan awdurdod yr Eglwys. Roedd hi’n credu bod Duw yn siarad yn uniongyrchol â hi, trwy leisiau’r tri sant, yn hytrach na thrwy’r drefn arferol o dderbyn arweiniad gan offeiriaid ac esgobion. I arweinwyr eglwysig grymus y cyfnod hwnnw, roedd ei haeriadau yn ymddangos fel balchder mawr ac yn fygythiad i’w hawdurdod. Er gwaethaf iddi simsanu dipyn o safbwynt ei ffydd dros gyfnod byr, yn y diwedd gwrthododd ymostwng i’r awdurdodau eglwysig a chafodd ei llosgi fel heretic ar 30 Mai 1431. Dim ond 19 mlwydd oed oedd hi ar y pryd.

A oedd Siân d’Arc yn syml yn llances bengaled oedd wedi ei chamarwain, merch a aeth dros ben llestri yn y pen draw a thalu’r pris am hynny gyda’i bywyd? Nid dyna’r hyn y mae pobl yn Ffrainc yn ei gredu. Caiff ei harweiniad carismataidd yn ystod cyfnod argyfyngus yn hanes y wlad honno ei gydnabod yn eang. Efallai ei bod hi’n ifanc ac yn ferch, ond caiff ei chydnabod fel arweinydd eiconig. Roedd rhywbeth yn ei chylch a oedd yn darparu’r catalydd ar gyfer ymgyrch filwrol lwyddiannus a fu’n gyfrwng i dorri’r sefyllfa ddiddatrys a oedd yn bodoli yn y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc. Efallai bod hynny’n ddadl dda o blaid gwrando ar afiaith ac ysbrydoliaeth yr ifanc pan fydd pethau wedi mynd yn sobr a bydol eu natur.

Mae’n beth hawdd i bobl ifanc fel chi chwerwi, wrth deimlo bod eich syniadau, eich nerth a’ch dyheadau yn cael eu hanwybyddu gan y rhai sy’n cyfrif eu hunain yn fwy profiadol, yn fwy galluog ac yn bwysicach na chi. Weithiau, mae’n demtasiwn i roi’r ffidil yn y to, i dderbyn y ‘status quo’ a disgwyl hyd nes y byddwch yn hyn. Ond fe ddarparodd Siân d’Arc ffordd arall i chi feddwl amdani, yr un sy’n dweud ‘Daliwch ati, peidiwch ag ildio, byddwch yn driw i’r weledigaeth yr ydych wedi ei chael. A phan gewch y cyfle, ewch amdano â’ch dwy law.

Amser i feddwl

Yn yr ysgol hon yr ydym yn credu ei bod hi’n bwysig gwrando ar yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘llais y myfyriwr’ (Efallai y byddwch yn dymuno atgoffa’r myfyrwyr o’r fforymau a’r dulliau cyswllt eraill sydd ar gael yn eich ysgol.)  Byddwn yn ceisio peidio â gadael i oed a rhyw greu rhagfarn wrth i ni ymateb.  Efallai eich bod yn fodlon gyda’r modd yr ydym yn gwrando arnoch.  Fodd bynnag, bydd rhai myfyrwyr, rwy’n siwr, yn teimlo’n rhwystredig gydag arafwch y newid sy’n digwydd, y gwahanol ganfyddiadau rhwng cenedlaethau, y cyfarfodydd diddiwedd.  Mae esiampl Siân d’Arc yn eich annog i ddal at y gwirionedd sydd ynghlwm wrth yr hyn yr ydych yn credu ynddo a’ch dyfalbarhad wrth geisio ei wireddu.

Treuliwch ysbaid yn ystyried y pethau canlynol. Efallai y byddwch yn dymuno eu troi’n weddïau.

- Byddwch yn ddiolchgar am ysbrydoliaeth, am ddychymyg ac am syniadau meddylgar, yn enwedig y rhai hynny yr ydych chi eich hun yn berchen arnyn nhw.
- Byddwch yn edifar am yr adegau hynny y gwnaethoch chi gyfaddawdu efallai ar yr hyn yr ydych yn credu ynddo a hynny oherwydd pwysau annheg o du cymheiriaid, oherwydd rhwystredigaeth neu ofn derbyn cerydd.
- Lluniwch gynllun i weithredu ar yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yn y gwasanaeth heddiw

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon