Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch i fynd

Rydym i gyd angen help gan ein ffrindiau, weithiau.

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd yn anodd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y fideos YouTube canlynol ar gael gennych chi, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - ‘Perseverance, Derek Redmond’ Mae’r clip hwn yn para am 2.38 munud, ac mae i’w gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Nifq3Ke2Q30
    -‘Alistair Brownlee gives up chance to win race and helps brother Jonny’ Mae’r clip hwn yn para am 2.10 munud ac mae i’w gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=CS0GkCfljqk

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi drefnu darllenwyr i ddarllen y rhannau o'r Beibl, Philipiaid 3.14, Rhufeiniaid 5.3-4 a Galatiaid 6.9.

Gwasanaeth

  1. Ystyr y gair 'dyfalbarhad' yw 'dal ati wrth wneud rhywbeth er gwaethaf pob anhawster neu er gwaethaf unrhyw rwystrau sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi sicrhau llwyddiant'.

    Nid yw’n hawdd dyfalbarhau. Mae'n golygu ein bod ddim yn rhoi'r gorau iddi hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd yn anodd iawn i ni. Mae dywediad adnabyddus yn nodi, 'Pan fydd pethau'n mynd yn galed, mae'r caled yn dal ati.' (‘When the going gets tough, the tough get going!’)

    Yn yr ysgol, ac yn ystod ein bywyd yn gyffredinol, mae pob un ohonom yn dod ar draws adegau pan fydd pethau'n anodd i ni. Bryd hynny, byddwn yn gorfod wynebu’r penderfyniad: a ydyn ni'n rhoi'r gorau iddi neu a ydyn ni’n dyfalbarhau?

  2. Dangoswch y fideo Youtube, ‘Perseverance, Derek Redmond’.

    Mae'r fideo’n dangos yr athletwr ifanc, Derek Redmond, a oedd wedi bod yn hyfforddi ar hyd ei oes ar gyfer y ras hon. (Y dyn sy'n ymddangos ar y trac wrth ei ochr yw ei dad.)
  3. Dangoswch y fideo YouTube, ‘Alistair Brownlee gives up chance to win race and helps brother Jonny’.


    Mae'r clip fideo hwn yn dangos Alistair Brownlee yn ildio’r cyfle o ennill y Gyfres Triathlon y Byd yn Mecsico er mwyn helpu ei frawd i gwblhau'r ras.


  4. Ar ryw adeg, mae pob un ohonom yn wynebu anawsterau yn ein bywydau. Mae rhai ohonom yn wynebu anawsterau yn yr ysgol gyda'n gwaith academaidd, mae rhai ohonom ei chael hi’n anodd ymwneud â chwaraeon, a rhai ohonom ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau, efallai. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi! Ceisiwch ddyfalbarhau, a dal ati er gwaethaf pob anhawster.

    Yn y ddau glip fideo rydyn ni wedi eu gwylio, roedd rhywun arall ochr yn ochr â’r unigolyn a oedd mewn trafferth yn ei helpu ar draws y llinell derfyn. Daeth tad Derek Redmond allan o'r dorf i helpu ei fab gyrraedd ei nod. Roedd Alistair Brownlee nid yn unig yn helpu ei frawd, ond mae hefyd yn ei wthio ar draws y llinell derfyn o’i flaen ei hun. Yn ein bywydau, weithiau, fe fydd arnom angen help i gadw i fynd. Dydyn ni byth yn gwybod pryd y gallen ni fod angen cymorth pobl eraill. Felly, gadewch i ni annog ei gilydd i ddal ati er mwyn cyflawni ein hamcanion.

  5. Mae llawer o adnodau yn y Beibl sy'n sôn am ddyfalbarhad. Dyma dair enghraifft:

    – ‘ ... yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.’ (Philipiaid 3.14)
    – ‘ ... oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál , ac o’r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.’ (Rhufeiniaid 5.3-4)
    – ‘Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo .’ (Galatiaid 6.9)

Amser i feddwl

Dyma rai dyfyniadau sy’n cyfeirio at ddyfalbarhad. Ar ôl pob un, gadewch i ni oedi am foment er mwyn meddwl am ystyr y dyfyniad:

– ‘Roedd y goeden dderw fwyaf un tro yn fesen fach a ddaliodd ei thir.' (Awdur anhysbys)
- ‘Pan fydd y byd yn dweud, "Rhowch y gorau iddi," mae Gobaith yn sibrwd, "Rhowch gynnig arni unwaith eto.”’(Awdur anhysbys)
- ‘Consider the postage stamp: its usefulness consists in the ability to stick to one thing till it gets there.’ (Josh Billings)  - Ystyriwch y stamp ar lythyr: mae ei ddefnyddioldeb yn ymwneud â’r gallu i lynu at yr un peth nes ei fod yn cyrraedd y nod.
- ‘It’s not that I’m so smart, it’s just that I stay with problems longer.’ (Albert Einstein)  - Dyw hyn ddim oherwydd fy mod mor graff â hynny, dim ond fy mod yn dal ati am fwy o amser i geisio datrys problemau.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Weithiau, mae'n anodd dal ati pan fyddwn ni’n gweld pethau’n anodd neu pan fydd popeth yn ymddangos eu bod yn mynd o chwith.
Helpa ni i beidio â rhoi’r gorau iddi’n rhy fuan, ond i ddyfalbarhau bob amser.
Helpa ni i fod yn unigolion sy’n annog pobl eraill i ddal ati
wrth i ni i gyd anelu am wahanol nodau yn ein bywyd.
Diolch na fyddi di byth yn rhoi’r gorau i’n cefnogi ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon