Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dydd Hwyaf

Pwy sy'n gwybod ble mae'r amser yn mynd?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ein blaenoriaethau wrth i ni ddelio â’r ffordd o ddefnyddio amser.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd.

  • Mae’r rhan o’r Beibl sy’n cael e defnyddio yn yr adran ‘Amser i feddwl’ yn dod o Lyfr y Pregethwr 3.1-8.
  • Nodwch:Mae'r gwasanaeth hwn yn addas i’w ddefnyddio ddydd Mawrth 20 Mehefin, y diwrnod cyn y dydd hwyaf, sef dydd Mercher 21 Mehefin. Fodd bynnag, gellir ei addasu'n hawdd ar gyfer ei defnyddio ar achlysuron eraill hefyd.

Gwasanaeth

Arweinydd: Heno, mae'r haul yn mynd i aros yn llonydd.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Peidiwch â phoeni, nid rhagfynegiad am ddiwedd y byd yw hyn, yr apocalyps. Er hynny, mae'n debyg fod hyn yn wir. Ychydig funudau cyn 5:30 a.m. yfory byddwn wedi dod at droad y rhod, y pwynt hwnnw pan fydd anterth yr haul wedi cyrraedd at y pwynt pellaf oddi wrth y cyhydedd. Pe bydden ni'n byw yn Llychlyn, fe fydden ni'n gallu sylwi ar yr haul fel pe byddai'n oedi wrth fachludo, ac yna'n dechrau dringo eto heb fynd o dan y gorwel. Ystyr y gair ‘solstice’ yn Saesneg yw ‘yr haul yn sefyll yn ei unfan’.

I chi a mi, y ffaith bwysicaf yw y cawn ni yfory fwy o oriau o heulwen neu o olau dydd nag ar unrhyw ddiwrnod arall eleni. O leiaf, dyna sy'n digwydd os bydd y tywydd yn garedig wrthym ni. Roedd yr heulwen hon yn arwyddocaol iawn i'r bobl hynny a oedd yn byw cyn oes y trydan. Iddyn nhw, byddai golau dydd yn darparu'r cyfleoedd angenrheidiol ar gyfer yr holl weithgareddau pwysig yr oedd angen eu gwneud oddi allan. Byddai'r wythnosau cyn ac ar ôl troad y rhod yn wythnosau o weithgaredd dwys, gan fanteisio i'r eithaf ar yr oriau hir o olau dydd. Dyna pam y bu gwyliau i ddathlu troad y rhod ers cyn cof. Mae'r enwocaf o'r gwyliau hyn ym Mhrydain yn digwydd yng Nghôr y Cewri. Roedd y gwyliau'n cydnabod y rôl hanfodol a oedd gan yr haul ym mywyd y bobl.

Amser i feddwl

Arweinydd: Peth hawdd iawn i ni yw cymryd amser yn ganiataol. Yn wahanol i'r cenedlaethau oedd yn byw heb rwyddineb goleuni trydan, dydyn ni ddim yn cael ein cyfyngu mewn unrhyw fodd gan oriau o olau dydd. Gallwn bob amser oresgyn y tywyllwch. Gall ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chwaraeon gael eu cynnal dan lifoleuadau. Pwy fyddai'n gallu dychmygu gêm griced ddydd-nos? Mae lampau stryd yn goleuo'r ffyrdd. Mae gan gerbydau eu lampau eu hunain i oleuo'r ffordd. Mae gan adeiladau olau unigol ar gyfer pob ystafell a goleuadau diogelwch o'r tu allan. Gallwn wneud yr hyn a fynnwn, pryd y mynnwn. Neu ohirio popeth tan ryw dro arall.

Sut ydych chi’n gwneud defnydd o amser? Yn yr Hen Destament, y rhan honno o'r Beibl y mae Iddewon a Christnogion yn ei rhannu, mae yna ddarn sy'n sôn am y cyfleoedd y mae amser yn ei gyflwyno i ni. Mae’n dweud bod amser i eni . . .

Darllenydd 1:. . .ac amser i farw.

ArweinyddAmser i blannu . . .

Darllenydd 2:. . .ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd.

ArweinyddAmser i ladd . . .

Darllenydd 3:. . .ac amser i iachau.

Arweinydd:Amser i dynnu i lawr . . .

Darllenydd 1:. . .ac amser i adeiladu.

Arweinydd:Amser i wylo . . .

Darllenydd 2:. . .ac amser i chwerthin.

Arweinydd:Amser i alaru . . .

Darllenydd 3:. . .ac amser i ddawnsio.

Arweinydd:Amser i daflu cerrig . . .

Darllenydd 1:. . .ac amser i’w casglu.

Arweinydd:Amser i gofleidio . . .

Darllenydd 2:. . .ac amser i ymatal.

Arweinydd:Amser i geisio . . .

Darllenydd 3:. . .ac amser i golli.

Arweinydd:Amser i gadw . . .

Darllenydd 1:. . .ac amser i daflu ymaith.

Arweinydd:Amser i rwygo . . .

Darllenydd 2:. . .ac amser i drwsio.

Arweinydd:Amser i dewi . . .

Darllenydd 3:. . .ac amser i siarad.

Arweinydd:Amser i garu . . .

Darllenydd 1:. . .ac amser i gasáu.

Arweinydd:Amser i ryfel . . .

Darllenydd 2:. . . ac amser i heddwch.

Arweinydd:Rwy'n credu fod bron pob gweithgaredd dynol yn gynwysedig yn y rhestr hon. Yn wir, fe fyddai'n syniad eithaf da mynd drwy'r rhestr a cheisio gweld sut y mae'r pethau sydd arni yn gymwys ar gyfer ein bywyd ni.Tybed a fyddai hefyd yn beth da weithiau i ddod o hyd i rywle sy'n hollol ddistaw fel ein bod yn gallu rhoi amser i fyfyrio?

Mae'r darn yn pwysleisio pwysigrwydd o fod yn sensitif i'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas o ddydd i ddydd, o awr i awr, o funud i funud. Dyma'r hyn a oedd yn cael ei alw'n ‘kairos’ gan yr Hen Roegiaid, hynny yw,‘adeg cyfle’. Yn hytrach na bod yn wasaidd ynghlwm wrth arferion (er y mae iddyn nhw eu lle), wedi gor-ymrwymo i gynlluniau tymor hir (er, unwaith yn rhagor, mae i gynllunio ei le) neu wedi cael eu cadwyno'n gaethiwus i arferion, gallwn adnabod y foment pan ddaw cyfle heibio a bod yn ddigon hyblyg i afael ynddo. Gall fod yn fater o syndod wrth gyfarfod â rhywun, derbyn gwahoddiad annisgwyl, gweld cwrs yn cael ei hysbysebu, swydd wag yn y tîm, ymweld â lleoliad arbennig, neu weld yr angen sydd gan rywun y gallwn ni ei ddiwallu. Mae sawl ffordd y gall cyfle gyflwyno ei hun.

Mae rhai pobl yn sôn am ‘gydamseriad’ neu ‘gyd-ddigwyddiad’ pan fyddan nhw'n disgrifio cyfle. Mae'r geiriau hynny'n perthnasu i set o ddigwyddiadau ar hap sy'n dod at ei gilydd. Mae Cristnogion yn credu y daw cyfleodd gan Dduw, ac mai ei Ysbryd  Glân yw'r Un sy'n ein helpu i adnabod bob un. Pa ffordd bynnag yr ydych yn edrych ar hyn, y ffactor pwysig yw'r modd y byddwn yn ymateb: a ydym yn cymryd y cyfle neu yn ei adael.?

Ar y dydd hwyaf hwn, treuliwch funud neu ddwy yn edrych yn ôl dros eich bywyd. Faint o gyfleoedd a gollwyd y gallwch chi eu cofio? Efallai mai hon yw'r foment pryd y byddwch yn gwneud addewid i chi eich hun na fyddwch yn methu cyfle eto.

Gyda llaw, mae'n ddrwg gen i, ychydig o newydd drwg. Pan fydd y dydd hwyaf drosodd, bydd yr oriau o oleuni'r dydd yn dechrau byrhau. Golyga hynny y bydd y gaeaf ar ei ffordd

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bob cyfle a gawn ni.
Rho i ni’r sensitifrwydd i ganfod pob cyfle, a’r dewrder i’w gymryd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Turn! Turn! Turn!’ gan The Byrds

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon