Rhannu profiad y Pentecost
Fe newidiwyd bywydau gan y Pentecost
gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried pwysigrwydd gwyl y Pentecost i Gristnogion.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi glip sain o swn gwynt yn rhuthro, a'r modd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth. Mae enghraifft ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=BJNOsotOdTU. Chwaraewch y clip o’r pwynt 0.16 munud ymlaen.
Gwasanaeth
- Fe hoffwn i ddechrau'r gwasanaeth hwn trwy ofyn i chi gau eich llygaid a chael gwared â phopeth sydd ar eich meddwl. Dychmygwch eich bod chi a'ch ffrindiau agosaf i gyd yn eistedd gyda'ch gilydd mewn ystafell, gan gadw'n ddistaw iawn. Y rheswm paham yr ydych yn gwneud hyn yw oherwydd eich bod mewn rhyw ffordd, wedi tramgwyddo’r awdurdodau - mae'r rhesymau yn parhau'n aneglur i chi.
Rydych chi wedi cael eich dychryn, ac rydych yn ofnus mai’r peth nesaf fydd yn digwydd yw y bydd yr heddlu yn dod i dorri'r drws i lawr. Rydych chi’n parhau mewn galar oherwydd bod un o'ch ffrindiau gorau wedi marw'n ddiweddar, ac rydych chi’n teimlo eich bod yn gweld ei golli'n arw. Ef oedd calon ac enaid y grwp - yr arweinydd a'r un yr oeddech chi'n ei edmygu.
Yn sydyn, mae swn mawr o’ch cwmpas, fel gwynt yn rhuo . . .
Chwaraewch y clip sain o swn gwynt yn rhuthro, sydd i’w gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=BJNOsotOdTU o tua’r pwynt 0.18 munud.
Rydych chi mewn panig llwyr. Ai'r heddlu sydd yna? A ydyn nhw wedi dod o hyd i chi? Beth sy'n digwydd? Mae pawb yn ofidus a dryslyd. Gallwch glywed eich ffrindiau’n gweiddi, ac rydych chi’n gweld rhywbeth tebyg i fflamau o dân yn disgyn ar ben pob un! Yn sydyn, rydych chi’n dechrau teimlo’n wahanol iawn amdanoch chi eich hunan. Yn lle bod eisiau cuddio, rydych chi a’ch ffrindiau yn rhedeg allan i’r stryd, ac rydych chi’n dechrau dweud wrth bawb am eich ffrind ac am y newyddion da y gwnaeth o ei adael gyda chi. - Rhowch gyfnod byr i’r myfyrwyr ystyried y delweddau.
Nawr, agorwch eich llygaid. Tybed a yw'r stori hon yn gyfarwydd i unrhyw un. Daw sylfaen y stori o Lyfr yr Actau, sydd ar gael yn y Testament Newydd, yn ail hanner y Beibl. Mae'n adrodd stori'r Pentecost, sef yr adeg pryd y derbyniodd y disgyblion, y bobl hynny a oedd yn teimlo'n ofnus yn yr ystafell, yr hyn y mae Cristnogion yn ei alw'n Ysbryd Glân - Mae'r Ysbryd Glân yn agwedd bwysig iawn o Gristnogaeth. Dyma drydedd ran y Drindod, sef y modd y mae Cristnogion y deall natur Duw: y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân.
Gwelir yr Ysbryd Glân fel y rhan o Dduw sydd ar waith yn y byd. Mae Cristnogion yn credu mai'r Ysbryd Glân sydd yn eu helpu o ddydd i ddydd, ac sy'n eu harwain i'r fan honno y mae angen iddyn nhw fod. Yr Ysbryd Glân a ymwelodd â'r disgyblion yn yr ystafell honno yn ystod y Pentecost a rhoi'r gallu iddyn nhw i fynd allan a phregethu'r newyddion da am Iesu, nid yn unig i'r bobl hynny oedd gerllaw iddyn nhw, ond i’r holl bobl, mewn llawer o ieithoedd. O ganlyniad i hyn, fe ledaenodd Cristnogaeth a stori Iesu i lawer o genhedloedd. - Gadewch i ni fynd yn ôl at y teimladau yr oedden ni'n eu dychmygu ar y dechrau, y teimladau hynny o fraw a phryder yr oedd y disgyblion yn eu profi. Yr hyn sydd mor rhyfeddol yw bod eu profiad o'r Ysbryd Glân mor llethol ac angenrheidiol iddyn nhw fel eu bod nhw'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw fynd â dweud wrth bawb amdano.
- Meddyliwch am foment, am yr adegau pryd y cawsoch chi foment nodedig fel honno. Efallai i hynny ddigwydd pan wnaethoch chi dderbyn canlyniadau arholiad ardderchog, neu pan anwyd brawd neu chwaer fach i chi. Gallai fod yn rhywbeth mor syml â dod o hyd i rywbeth gwirioneddol dda i sôn amdano wrth bobl eraill, fel cân newydd yr ydych wedi ei chlywed neu fath neilltuol o hufen iâ y gwnaethoch chi ei flasu. Am eiliad, ceisiwch ddwyn i gof y teimlad hwnnw, ac fe gewch lygedyn bach o'r hyn a deimlodd y disgyblion hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân.
Amser i feddwl
Yn awr, daliwch eich gafael ar y foment honno, a’r teimlad hwnnw, wrth i ni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi ei drafod yn y gwasanaeth heddiw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Atgoffa ni bod y pethau da mewn bywyd yn werth eu rhannu.
Gad i ni allu llawenhau gyda phobl pan fyddan nhw’n rhannu eu newyddion da â ni.
Helpa ni i rannu ein newyddion da, a’n cyffro, gyda phobl eraill.
Helpa ni i gofio bod gennym ninnau rywbeth i’w ddweud, yn union fel roedd gan ddisgyblion Iesu rywbeth i’w ddweud, a bod y peth hwnnw’n werth ei glywed.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.