Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dal i chwilio

Chwilio am y gwirionedd

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn chwilio am rywbeth mewn bywyd.

Gwasanaeth

  1. Tybed ydi’ch ty chi yn debyg i’n ty ni yn y bore? Yn aml iawn, fe fydda i mewn trafferth yn chwilio am ryw esgidiau neilltuol, neu’n ceisio rhoi pethau yn fy mag am fy mod i wedi anghofio gwneud hynny'r noson cynt. Weithiau, fe fydda i’n methu dod o hyd i’m llyfr marciau, neu’n methu gweld fy nghas pensiliau, neu hyd yn methu cofio ble rydw i wedi rhoi allwedd y car! Ond hyd yn oed os nad ydych chi’n un fel yma, mae’n bosib eich bod chi’n adnabod rhywun arall tebyg. 

  2. Mae chwilio am rywbeth neilltuol yn weithgaredd y bydd pawb ohonom yn ei wneud o dro i dro. Yn aml, fe fyddwn ni’n chwilio am rywbeth bach ond rhywbeth bach sy’n hollol hanfodol fel allwedd, er enghraifft. Heddiw, fe hoffwn i chi wrando ar y stori hon am rywun yn chwilio am rywbeth.

    Adroddwch, yn eich geiriau eich hun, neu darllenwch storiDoggergan Shirley Hughes.

    Ie, stori ar gyfer plant yw hon, ond stori y gallwn ni uniaethu â hi yn wir. Rwy’n cofio rhywun yn ei darllen i mi ers talwm iawn, ac efallai y byddwch chithau’n ei chofio ar ôl heddiw. Fe fyddwn ni i gyd o dro i dro yn colli rhywbeth sy’n bwysig i ni, a rhaid i ni chwilio am y peth hwnnw, pa un ai tegan neu eiddo personol sydd ar goll, neu efallai rywbeth o’r tu mewn i ni ein hunain.

  3. Efallai eich bod yn meddwl am eich dewisiadau ar gyfer TGAU, neu tybed pa bynciau i’w hastudio at Lefel A? Neu, efallai eich bod yn meddwl tybed pa brifysgol yr hoffech chi fynd i astudio ynddi, neu eich bod chi’n chwilio am syniadau ynghylch pa yrfa i’w dilyn. Efallai dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano hyd yn oed. O bosib eich bod yn chwilio am atebion i gwestiynau dwys iawn, fel, ‘Pa bwrpas sydd i fy mywyd?’ Rydyn ni i gyd yn chwilio am atebion i ryw gwestiynau, ac efallai bod rhai cwestiynau na chawn ni byth ateb iddyn nhw. 

  4. Yn eu hymchwil am ystyr bywyd mae’n nod gan y Bwdhyddion i gyflawni goleuedigaeth,neu i gyrraedd nirvana. Maen nhw’n defnyddio’r gyfatebiaeth â’r blodyn lotws. Yn y tir tywyll a’r mwd ar waelod y pwll y mae planhigyn y blodyn lotws yn dechrau ei fywyd, yn union fel rydyn ni wedi ein hamgylchynu ag anwybodaeth ac yn cael ein rheoli gan ein deisyfiadau a’n chwantau hunanol. Fel mae’r planhigyn yn tyfu tua’r golau, felly hefyd rydyn ninnau’n tyfu mewn dealltwriaeth ac yn dysgu amdanom ein hunain ac am fywyd. Yn y pen draw, mae blagur y blodyn yn datblygu ac mae’n blodeuo’n flodyn hardd. Mae hyn yn cynrychioli goleuedigaeth - ein bod ni’n blodeuo i oleuni gwir ddealltwriaeth. Ac mae’r chwilio’n dod i ben.

  5. Mae’r broses yma’n broses hir. Fydd rhai pobl byth yn dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano. Ac mae rhai pobl eraill dydyn nhw ddim yn wir eisiau gwybod beth yw’r gwir atebion go iawn i’w cwestiynau. Yn stori’r Bwdha, fe gymerodd lawer iawn o flynyddoedd iddo ddod o hyd i wir oleuedigaeth a dealltwriaeth am fywyd. Wnaeth o ddim rhoi’r gorau i chwilio o gwbl, yn union fel Dave yn stori Dogger. Fe ddaliodd Dave ati’n ddyfal a gwneud popeth posib nes dod o hyd i Dogger.

Amser i feddwl

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth, ac efallai nad ydych chi’n siwr iawn am beth rydych chi’n chwilio, un syniad yw stopio chwilio am ychydig. Mae Cristnogion yn credu bod llawer o atebion i’w cael yn eu llyfr sanctaidd – y Beibl. Maen nhw’n credu bod y Beibl yn arweinlyfr neu’n ganllaw i’r rhai sy’n ei ddarllen, ac yn dangos iddyn nhw sut i ddod o hyd i atebion am Dduw a sut i fyw bywyd cyflawn a hapus.

Ac os ydych chi’n debyg i mi, mwy na thebyg, y dewch chi o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano yn y lle mwyaf amlwg!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Teithia gyda ni ar y daith sydd wedi ei chynllunio ar ein cyfer.
Gad i ni ddod o hyd i’r ffyrdd sy’n ein harwain at yr atebion cywir.
Gad i ni weld yr arwyddion ar y ffordd, a’r cyfarwyddiadau yr wyt ti’n eu rhoi i ni,
ac arwain ni at y gwir, fel y byddwn ni’n gallu dod o hyd i’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon