Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth sydd mewn enw?

Mae perthnasoedd yn bwysicach nag enwau

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o’n hunaniaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd:Mae ein cyfenw yn dweud llawer amdanom ni.

Darllenydd 1:Ar y naill law, mae’n bosib i gyfenw ddweud wrthym pa ran o'r Deyrnas gyfunol y mae ein teulu yn hanu ohoni. Er enghraifft, os yw ein cyfenw yn cael ei ragflaenu gyda’r llythrennau 'Mc' neu 'Mac', fe ddaeth ein teulu yn ôl pob tebyg yn wreiddiol o'r Alban. Os yw ein cyfenw yn dechrau gydag 'O’' , mae ein gwreiddiau o bosib yn hanu o Iwerddon, ac fe ddaw’r rhai sydd â chyfenw fel Jones, Williams a Hughes er enghraifft, yn wreiddiol o Gymru.

Darllenydd 2: Yn achos llawer ohonom, mae ein henw teuluol yn datgelu ym mha le yn y byd y mae ein gwreiddiau teuluol yn gorwedd. Os byddwn yn edrych yn ofalus, fe allwn ni ganfod bod gennym ni, o fewn cymuned ein  hysgol, enwau teuluol o wledydd fel Affrica, Asia, y Dwyrain Canol, Ewrop neu America.

Arweinydd: Yn anffodus, weithiau, fe all enwau rhanbarthol fel y rhain ennyn pob math o ragdybiaethau a hyd yn oed ragfarnau ambell dro. Ganrif yn ôl, ym mis Gorffennaf 1917, fe ddaeth hyn yn fater o bwys ar gyfer y teulu brenhinol Prydeinig. Y brenin ar y pryd oedd George V, roedd ganddo enw teuluol Saxe-Coburg-Gotha. Daeth hwn o ochr ei daid, y Tywysog Albert, a oedd o dras Almaenig, ac a oedd yn wr i’r Frenhines Victoria. Roedd y  Frenhines Fictoria ei hun yn hanu o gefndir Almaenig hefyd. Ei henw teuluol hi oedd Hanover, enw dinas yn yr Almaen. Eto, fyddai neb wedi honni bod George V ei hun yn ddim byd arall ond gwr bonheddig Prydeinig iawn.

Ym mis Gorffennaf 1917, roedd Prydain yn dal i fod yn rhyfela yn erbyn yr Almaen. Roedd y rhyfel byd hwn eisoes wedi para am dair blynedd, a doedd dim arwydd bod y rhyfela’n mynd i ddod i ben. Yn 1916, roedd llu awyr yr Almaen wedi datblygu awyren fomio trwm o'r enw Gotha G.IV. Cafodd yr awyren hon ei defnyddio ar gyfer cyrchoedd bomio pellter hir ar dde-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain. Roedd llwyddiant yr awyrennau hyn, a wnaeth ddisodli'r awyrlongau Zeppelin arafach a mwy agored i niwed, yn achosi panig ymysg y boblogaeth. Fe ddaeth yr enw 'Gotha' i fod yn gyfystyr â dinistr Almaenig, ac yn embaras mawr i'r teulu brenhinol.

Penderfynodd y brenin bod yn rhaid gwneud rhywbeth i atal effaith y teimlad gwrth-Almaenig hwn, a’r cysylltiad rhwng enw ei deulu ac enw'r awyren fomio, ac fe gyhoeddodd archddyfarniad. Yn yr archddyfarniad fe wnaeth ddatgan ei fod yn gwrthod ei holl gysylltiadau Almaenig, ac fe newidiodd enw'r teulu brenhinol o Saxe-Coburg-Gotha i Windsor, enw a oedd ag arwyddocâd hollol Saesnig. Dyna pam, dair cenhedlaeth yn ddiweddarach, y mae gennym y frenhines Elizabeth II sydd o dy brenhinol Windsor. Nid yw tarddiad y teulu wedi newid. Mae hi’n dal i fod â chysylltiadau Almaenig. Ni all hi byth newid pwy oedd ei rhagflaenwyr, ond mae ei henw yn wahanol i enwau aelodau’r teulu brenhinol o genedlaethau cynharach.

Amser i feddwl

Arweinydd:I ba raddau y mae enwau’n dylanwadu ar eich bywyd?

Darllenydd 1: Gall pobl ymateb yn gryf i enw. Weithiau, fe all hwn dynnu pobl at ei gilydd, gan nodi perthynas crefyddol, hiliol neu gymdeithasol. Mae hyn yn digwydd yn enwedig pan fyddwn yn teimlo ein bod mewn lleiafrif neu yn newydd-ddyfodiaid i'r gymuned. Felly, mae yna grwpiau o bobl Brydeinig sydd - er gwaethaf y ffaith eu bod yn byw dramor yn Ffrainc a Sbaen, er enghraifft - mewn gwirionedd yn byw yn agos at ei gilydd yn eu cymunedau bach eu hunain. Yn yr un modd, mae llawer o grwpiau o bobl sydd, er gwaethaf y ffaith eu bod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol, yn mwynhau byw gyda phobl o'r un diwylliannau a chefndiroedd â nhw eu hunain. Mae enwau yn arwydd ein bod yn rhannu rhannau o'n hetifeddiaeth, ac mae’n gyfrwng i adeiladu perthynas.

Darllenydd 2:Fodd bynnag, gall ymateb pobl yn negyddol ar adegau. Gall enwau arwain at syniadau rhagdybiedig tuag at gredoau a gwerthoedd person, a gall arwain yn anffodus at amheuaeth a rhagfarn.

Arweinydd:Ond, fe all enwau roi rhywbeth i ni fod yn falch ohono hefyd. Mae materion hanesyddol yn bwysig. Yn ein personoliaethau, rydym yn cynnal diwylliant, crefydd, gwerthoedd a thraddodiadau ac yn trosglwyddo’r pethau hyn drwy sawl cenhedlaeth yn ein teulu. Rydym yn cario atgofion, storïau a pherthnasoedd o'r gorffennol. Mae rhai pobl a fyddai'n awgrymu bod hyn yn wir ar lefel ddofn, hyd yn oed gyda'r rhai sydd wedi byw ar wahân i'w mam neu dad biolegol. Ac, wrth gwrs, yn ein genynnau, rydyn ni’n cynnal nodweddion ffisegol y cenedlaethau a oedd yn byw o’n blaen ni. Mae dywediad Saesneg yn nodi, ‘We are who we are because they were who they were.’ Rydyn ni y rhai ydyn ni am eu bod nhw y rhai oedden nhw.’ Mae hyn yn parhau hyd yn oed pan fo newid enw yn digwydd, er enghraifft, ar ôl i rywun briodi. Yn wir, mae cyplau priod erbyn hyn yn tueddu fwyfwy i fabwysiadu'r arfer o ddefnyddio enwau teuluol y gwr a'r wraig er mwyn uniaethu ag etifeddiaeth y ddwy ochr.

Felly, sut y gallwn ni ymateb i'r enw rydyn ni’n cael ein hadnabod trwyddo? Efallai y byddwn ni’n dymuno archwilio ein hanes teuluol, neu efallai y byddwn ni am anghofio am hwnnw! Efallai y byddwn yn teimlo'n falch o'n teuluoedd ac o'n gorffennol, neu efallai y byddwn yn gallu cael ein siomi. Fodd bynnag, yr hyn sydd wir yn bwysig yw'r enw a wnawn ni i ni ein hunain. Fe allwn ni ddilyn traddodiadau da ac esiamplau da ein teuluoedd, neu fe allwn ni benderfynu symud ymlaen heb wneud y camgymeriadau a welsom fod rhai aelodau o’n teuluoedd wedi eu gwneud yn y gorffennol. Fe allwn ni fod yn fwy parod i sefydlu perthynas â phobl sydd ag enwau sy'n swnio'n wahanol, neu sy’n dod o wahanol ddiwylliannau. Wrth i ni wneud hynny, fe fyddwn ni’n darganfod bod cyfeillgarwch a gwerthoedd tebyg i'w cael mewn mannau annisgwyl.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fywydau'r bobl sydd wedi byw genedlaethau o’n blaen ni.
Diolch i ti am y rhai sydd wedi rhoi esiamplau da i ni ynglyn â sut i fyw ein bywydau.
Helpa ni i fod yn agored i gyfeillgarwch a pherthynas â phobl y mae eu diwylliannau yn wahanol i'n diwylliant ni.
Cadw ni rhag rhagfarn, a helpa ni i fyw mewn heddwch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon