Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch ag ofni newidiadau!

Croesawu newid a symud ymlaen

gan Tim and Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Egluro pam na ddylem ni ofni newidiadau, yn hytrach fe ddylem ni groesawu ‘newid’ a dysgu oddi wrtho fel y gallwn ni dyfu a symud ymlaen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen delweddau sy'n cynrychioli newidiadau a fydd yn digwydd mewn bywyd, er enghraifft, mynd i'r coleg neu brifysgol, priodi, gadael swydd neu'n dechrau ar un newydd, symud ty, cael plant, lindys yn newid i fod yn ieir bach yr haf ac ati. Fe fyddwch hefyd angen trefnu’r modd o arddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.

  • Efallai y bydd angen i chi addasu Cam 5 y Gwasanaeth, os oes myfyriwr neilltuol wedi profi colled yn ddiweddar.

  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r darn o'r Beibl, o Lyfr y  Pregethwr 3.1-8, yn ystod adran 'Amser i feddwl' y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau.

    Holwch y myfyrwyr beth yw’r thema gyffredin sy’n ymwneud â’r delweddau hyn. (Yr ateb yw‘newid’.)

    Mae bywyd yn ymwneud â newidiadau. Ein dewis ni yw sut rydyn ni’n delio â’r newidiadau.

  2. Y broses o ddod yn rhywbeth gwahanol yw newid. Rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘newid’ i ddisgrifio nifer o wahanol bethau.

    – Mewn cymdeithaseg, fe all ‘newid cymdeithasol’ fod y cyfeirio at newid mewn cymdeithas fel, er enghraifft, merched yn cael yr hawl i bleidleisio (yn ein gwlad ni, yn y flwyddyn 1928 y digwyddodd hyn i bob merch dros 21 oed).
    – Mewn gwleidyddiaeth, fe fyddai newid gwleidyddol yn cynnwys pethau fel refferendwm yr Undeb Ewropeaidd a ddigwyddodd y llynedd, galw am Etholiad Cyffredinol, neu newidiadau pwysig mewn llywodraethau ledled y byd.
    – Mewn bioleg, fe all newid gyfeirio at y newidiadau rhyfeddol sy’n digwydd i greaduriaid, fel pan fydd y lindysyn yn newid i fod yn bili-pala o ganlyniad i broses sy’n cael ei galw’n metamorffosis.
    – Fe fydd mathemategwyr, ystadegwyr ac economegwyr yn astudio newidiadau fel ‘newidiadau canrannol’.
    – Mae haneswyr yn ymddiddori mewn newidiadau mewn ffasiwn, technolegau ac arferion.
    – Mae seicolegwyr â diddordeb yn y broses o newid personol a datblygiad personol - y profiadau rheini sy’n newid eich bywyd, y‘life-changing experiences’y bydd pobl yn cyfeirio atyn nhw weithiau.

    Allwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau eraill?

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r myfyrwyr.

  3. Yn achos bodau dynol, mae newid a her yn anochel ac yn hanfodol hefyd. O’r foment y cawsom ein geni hyd yma, rydyn ni i gyd wedi profi nifer o newidiadau. Ac fe wnawn ni barhau i gael profiadau o newid am weddill ein bywyd.

  4. Mae gennym ni ddewis ynghylch sut rydyn ni’n delio â newid. Ydyn ni’n barod ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau ar ein taith trwy fywyd? O bosib, fod gennych chi syniadau eisoes am sut y bydd pethau yn ystod eich blwyddyn nesaf yn yr ysgol, neu pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol efallai i symud ymlaen at bethau eraill?

    Mae heriau newydd yn rhoi cyfle i ni dyfu. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn awyddus i wella ein hunain. Allwn ni ddim bob amser newid ein hamgylchiadau, ond fe allwn ni newid y ffordd rydyn ni’n ymdrin â’r newidiadau sy’n digwydd. Mae rhyddid gennym ni i ddewis newid ein hunain - ein rhagolwg, ein ffordd o feddwl, ein harferion - er mwyn gwella ein hamgylchiadau. Dyna pam y mae’n beth da bod yn agored i unrhyw newid, a pheidio â’i weld fel rhywbeth negyddol.

  5. O ddydd i ddydd, wrth i ni ddelio â sefyllfaoedd sy’n newid, mae ein cymeriad yn cael ei adeiladu. Ar adegau, fe all hyn gynnwys newidiadau poenus fel delio â cholled, a delio â’r newid sy’n dod i ganlyn colled. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n colli rhywbeth rydyn ni wedi gweithio’n galed i’w gael, neu’n colli anifail anwes, colli ein hiechyd, neu pan fydd perthynas â chariad yn dod i ben. Fe allwn ni benderfynu gweithio ein ffordd trwy’r golled a pheidio ag atal y teimladau, am y gallai hynny arwain at iselder ysbryd a phryder. Mae’n rhaid i ni gael amser i alaru. Ymateb naturiol i golled yw galar.

    Allwn ni ddim symud ymlaen nes byddwn ni wedi delio â’r golled, ac wedi delio â’r teimladau o ofid a phoen. Mae hynny’n beth sy’n cymryd amser, yn dibynnu ar ba mor fawr yw’r golled sydd wedi dod i’n rhan, ac ar y rhwydwaith o gefnogaeth sydd gennym ni o’n cwmpas i’n helpu ni.

  6. Fe allwn ni fethu mwynhau’r dyfodol wrth lynu yn y gorffennol a hiraethu am y ‘dyddiau da’ a fu. Weithiau mae’n hawdd teimlo ein bod yn cael ein llethu wrth i ni feddwl am y newidiadau rydyn ni’n mynd drwyddyn nhw. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn y pen draw yn gallu trawsnewid pob diwedd i fod yn ddechrau newydd. Ond, nid yw hyn yn ein rhwystro rhag gorfod mynd trwy’r teimladau dryslyd a gofidus yn ystod yr adeg o addasu.

Amser i feddwl

Y mae amser i bopeth.

Darllenwch y darn canlynol o Lyfr y Pregethwr 3.1–8. Efallai yr hoffech chi beidio â chynnwys rhai o’r brawddegau os yw’n well gennych chi.

Y mae tymor i bopeth,ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw,
amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd,
amser i ladd, ac amser iachau,
amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu,
amser i wylo, ac amser i chwerthin,
amser i alaru, ac amser i ddawnsio,
amser i daflu cerrig, ac amser i’w casglu,
amser i gofleidio, ac amser i ymatal,
amser i geisio, ac amser i golli,
amser i gadw, ac amser i daflu ymaith,
amser i rwygo, ac amser i drwsio,
amser i dewi, ac amser i siarad,
amser i garu, ac amser i gasáu,
amser i ryfel, ac amser i heddwch.

Ydych chi wedi bod yn gwrthwynebu achos o ‘newid’ yn eich bywyd?
Os ydych chi, caniatewch i Dduw roi ei dangnefedd i chi
a dileu’r ofn a allai fod arnoch chi ynghylch eich dyfodol.
Rhowch eich ffydd yn y newid gan obeithio y daw rhywbeth da ohono.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fy helpu ar bob cam o fy mywyd.
Pa bryd bynnag y bydd yn rhaid i mi fynd trwy adeg o newid,
helpa fi i ddewis dysgu oddi wrth yr heriau sy’n dod i ganlyn y newid
a rhoi fy ngobaith a’m hymddiriedaeth ynot ti ynghylch fy nyfodol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon