Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Taith bywyd

Beth fydd eich hanes yn y dyfodol?

gan James Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych ymlaen at y dyfodol wrth edrych yn ôl hefyd ar ein hamser yn yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim gwaith paratoi deunyddiau ar gyfer y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Efallai eich bod yn ymwybodol eisoes bod llawer o bobl yn meddwl am fywyd fel taith, a hefyd fel cyfres o deithiau llai. Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch yn mynd trwy newidiadau yn eich bywyd wrth fynd ymlaen – newidiadau fel symud i ddosbarth newydd, i ysgol newydd, neu hyd yn oed i fyw i dref arall efallai. Wrth i ni gyrraedd mis Gorffennaf, fe fydd llawer o fyfyrwyr yn paratoi ar gyfer un o’u teithiau mwyaf, sef y daith tuag at fod yn oedolyn annibynnol.

  2. Wrth gwrs, mae hon yn ffordd mae pob un ohonom wedi dechrau teithio ar ei hyd eisoes. Mae pawb yn newid rhywfaint bob blwyddyn. Fe fyddwch chi, gobeithio, yn fwy aeddfed nag oeddech chi pan ddaethoch chi i’r ysgol yma am y tro cyntaf. Ond, mae’r trawsnewid o fod yn fyfyriwr ysgol i fod yn fyfyriwr mewn prifysgol, neu’n aelod o fyd gwaith, yn debygol o fod yn un o’r newidiadau mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei wynebu yn ystod eich oes. Efallai nad yw pawb ohonoch wedi mwynhau pob munud o fywyd yn yr ysgol, ond mae addysg dda yn gwella ein cyfle i brofi llwyddiant a hapusrwydd mewn bywyd.

  3. Dychmygwch eich hun mewn deng mlynedd. Rydych chi wedi cael eich gwahodd i roi sgwrs i’r myfyrwyr yn yr ysgol yma, rydych chi yn ôl yn eich hen ysgol i sôn am eich llwyddiant anhygoel y gwnaethoch chi weithio’n galed ar ei gyfer. Rydych chi’n cerdded ar hyd coridorau’r ysgol. Mae’r lle yn edrych ychydig yn wahanol - mae gweithiau celf gwahanol ar y waliau ac adeilad newydd wedi’i godi fel estyniad, efallai - ond mae’r awyrgylch yr un fath. Rydych chi’n cwrdd ag athrawon newydd tua’r un oed â chi, ac o bosib yn cwrdd â rhai o’r hen athrawon. Fe fydd ambell un o’r rheini wedi newid rhywfaint efallai, ambell un wedi colli ei wallt, neu wedi dechrau gwynnu, ond yr un bobl ydyn nhw er hynny.

  4. Sut rydych chi’n meddwl y byddech chi’n teimlo? Ychydig yn anghyfforddus, tybed, fel pe byddech chi’n ôl mewn lle yr oeddech chi’n falch o’i adael ar un adeg? Neu, efallai eich bod yn falch o fod yn ôl – yn ail fyw dyddiau gorau eich bywyd, ac yn cael eich cydnabod fel rhywun llwyddiannus. Efallai y byddwch chi’n meddwl tybed ydych chi wedi gwneud popeth roeddech chi eisiau ei wneud ers i chi ymadael trwy’r drysau acw y tro olaf hwnnw? Fe fyddai ymweliad o’r fath yn sicr o wneud i chi feddwl am eich bywyd eich hun a’ch hapusrwydd.

  5. Felly, i’r rhai hynny ohonoch chi sydd ar fin ymadael â’r ysgol – i fynd i fyd gwaith neu i’r brifysgol, yn agos neu ymhell oddi yma – rydyn ni’n dymuno’n dda iawn i chi. Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol amdanoch chi eich hunain. Gwnewch eich gorau i fod yn berson gwell. Efallai, rhyw ddydd y dewch chi yn ôl i ddweud wrthym ni sut y gwnaethoch chi ddod ymlaen yn y byd.

Amser i feddwl

Treuliwch beth amser yn meddwl yn ôl am eich blynyddoedd yn yr ysgol yma, ac am eich amser yn yr ysgol gynradd yr oeddech yn mynd iddi cyn dod i’r ysgol yma.

Pa bethau rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Pa bethau y byddech chi’n dymuno y bydden nhw wedi bod yn wahanol? Allwch chi erbyn hyn wneud rhywbeth ynghylch hynny?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Pa ffrindiau ydych chi wedi eu gwneud? Sut y byddwch chi’n gallu cynnal y cyfeillgarwch hwnnw?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Pwy fyddech chi’n hoffi diolch iddo, neu iddi, cyn i chi ymadael? Efallai y gallech chi wneud hynny heddiw.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?Sut y byddwch chi’n cyflawni’r breuddwydion hynny? Sut gallech chi ddod yn berson gwell?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Cofiwch fod pwy ydych chi yn llawer mwy pwysig na'r hyn yr ydych chi’n gallu ei ennill yn faterol.

Gweddi 
Rydyn ni’n diolch am bawb sydd wedi ein helpu ni ar hyd ein ffordd:
am athrawon, ffrindiau a chydweithwyr.
Yn awr, rydyn ni’n edrych tua’r dyfodol,
ac fe ddywedwn ni ‘ie’, yn llawn gobaith ac yn llawn disgwyliadau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon