Heddwch – Ffrwythau’r Ysbryd
Anelu at heddwch
gan Helen Bryant (Revised, originally published in 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio'r cysyniad o heddwch.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod y delweddau canlynol sy’n ymwneud â heddwch ar gael gennych chi, a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
- Winston Churchill yn cyhoeddi heddwch ar ôl y datganiad am ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ar gael ar: https://tinyurl.com/ybcsng5x
- colomen, ar gael ar: https://tinyurl.com/oenx6h2
- arwydd o heddwch, ar gael ar: https://tinyurl.com/y6vxn76m - Trefnwch fod y clip fideo ‘Playing For Change’ ar gael gennych chi, a'r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 3.52 munud, ac mae ar gael ar: http://playingforchange.com/
- Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch ar gael ar y wefan:http://internationaldayofpeace.org/
Gwasanaeth
- Dangoswch y delweddau o Winston Churchill yn datgan heddwch ar ddiwedd y cyhoeddiad fod yr Ail Ryfel Byd ar ben, delwedd o golomen ,ac arwydd o heddwch.
Nodwch, er bod llawer o bobl yn sôn am yr angen o gael heddwch, mae'n wirioneddol anodd iawn i gynnal heddwch. - Mae'r Beibl yn sôn am ‘ffrwythau’r Ysbryd’. Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn cyfeirio at y rhinweddau a ddylai fod yn amlwg yn eu bywyd os ydyn nhw'n dilyn Duw. Mae naw o ffrwythau'r Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, tynerwch a hunanreolaeth. Byddai'r mwyafrif o bobl yn cytuno fod y rhain yn rhinweddau da i'w meddu ym mywyd pob un ohonom. Fodd bynnag, mae heddwch yn beth anodd ei gael, ei gadw a'i gynnal.
- Gallwn edrych ar heddwch mewn amrywiol ffyrdd, ond yn y gwasanaeth hwn fe fyddwn yn ystyried heddwch ynom ni ein hunain, y gwrthdrawiad y gallwn ei gael ag eraill, a'r chwilio ehangach am heddwch oddi mewn i'n cymdeithas a'r byd.
- Gadewch i ni ddechrau trwy edrych ar yr hyn oedd gan Ralph Waldo Emerson, athronydd a bardd Americanaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i'w ddweud:‘Ni all heddwch gael ei gyflawni trwy drais; yr unig ffordd y gellir cyrraedd ato yw trwy ddealltwriaeth.’ (‘Peace cannot be achieved through violence, it can only be attained through understanding.’)
Dyma le da i ddechrau wrth drafod heddwch, oherwydd er mwyn cael heddwch bydd yn rhaid rhoi terfyn ar anghytundeb, gelyniaeth a rhyfel. Fodd bynnag, mae cael byw trwy gyfnod o heddwch yn rhywbeth nad oes yr un genhedlaeth bron wedi cael profiad ohono. - Ar yr adeg honno, y meddylfryd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd mai dyma’r rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Fodd bynnag, ymhen ychydig dros ugain mlynedd, roedd y byd yng nghanol rhyfel arall.
Yn ddyddiol, rydym yn gweld lluniau o ryfeloedd mewn gwahanol leoedd yn y byd ac yn drist iawn, fe ddaeth gweithredoedd terfysgol yn ddigwyddiadau amlach yn nes adref o lawer. Mae’n hawdd meddwl, tybed a fydd yna fyth heddwch. - Sut bynnag, ochr yn ochr â rhyfel fe ddaw heddwch: mae’r naill beth a’r llall yn dod gyda’i gilydd. Yn ei nofel,War and Peace,mae Leo Tolstoy yn adrodd stori pump o deuluoedd aristocrataidd Rwsia yng nghyd-destun cyfnodau o ryfel a chyfnodau o heddwch. Mae'n dangos sut y mae pob teulu, a'r cymeriadau eraill sydd yn y nofel, yn newid ac yn datblygu yn ystod yr adegau hynny. Rydym yn debyg iawn iddyn nhw. Mae'n golygu ymdrech ar ein rhan i greu cymod a thawelwch ar derfyn gwrthdaro. Yn ein bywyd ni ein hunain, mae angen creu heddwch â'n gilydd ar ôl i ni fod yn cweryla neu’n anghytuno.
- Gall heddwch ymddangos fel rhywbeth y byddwn yn ei drosglwyddo i eraill. Weithiau, mewn addoliad Cristnogol, mae un rhan o'r gwasanaeth Cymun Bendigaid yn annog y gynulleidfa i ‘gynnig arwydd o dangnefedd i'w gilydd’. Maen nhw'n cael eu hannog i ysgwyd llaw'r naill a'r llall, neu efallai, i gofleidio'i gilydd, a throsglwyddo tangnefedd Crist trwy ddweud, ‘Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser’.
- Roedd Iesu ei hun yn heddychwr amlwg (rhywun sydd ddim yn credu mewn trais). Pan ddaeth yr amser iddo gael ei restio ar noswyl ei farwolaeth, fe aeth yn ddirwgnach a heb gael ei orfodi. Roedd ei gymdeithion yn barod i ymladd drosto, ond fe ddywedodd, ‘Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n cymryd y cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.’ (Mathew 26.52), gan adleisio'r gred os ydych yn byw eich bywyd yn coleddu trais, yna bydd trais yn sicr o'ch dilyn chi.
- Ym marn Iesu, roedd heddwch mor bwysig fel ei fod yn meddwl fod y rhai a oedd yn ymdrechu dros heddwch wedi ei bendithio. Yn ei bregeth ar y mynydd, mae'n dweud, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw’ (Mathew 5.9). Yn y fan hon, fe welwn ni'r gobaith y bydd heddwch, oherwydd bod y rhai sy'n arddel heddwch yn eu bywyd ac yn ei ledaenu ymysg eraill yn elwa. Weithiau mae'n haws dial a tharo'n ôl, ond mae'n cymryd mesur o hunanreolaeth i gerdded ymaith a dilyn y llwybr heddychol. Mae'n cymryd anadl ddofn ac efallai weithred o gyfrif i ddeg er mwyn codi uwchlaw'r galw enwau a'r sylwadau sarhaus. Trwy gynnal ymateb heddychol, byddwch yn gosod eich hun goruwch y rhai fydd yn dreisiol tuag atoch.
- Mae heddwch byd-eang yn amcan rhagorol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch yn cael ei gadw'n flynyddol ar 21 Medi. Cafodd y dyddiad hwn ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig yn y flwyddyn 1981, a chafodd ei gadw drwy'r byd ers hynny. Mae'r diwrnod hwn yn annog pobl i ymrwymo i heddwch yn anad pob gwahaniaeth eraill.
- Mark Johnson a Whitney Kroeke yw cyd-sefydlwyr y sefydliad a elwir yn 'Playing For Change', sy'n ceisio sefydlu heddwch trwy uno pobl ledled y byd trwy gyfrwng cerddoriaeth. Pa ffordd well i ddod â phobl ynghyd mewn heddwch, ac i ddeall ei gilydd, na thrwy enwadur cyffredin: grym cerddoriaeth?
Amser i feddwl
Gwyliwch y clip fideo ‘Playing For Change’ oddi ar y wefan:http://playingforchange.com/ac ystyriwch a allwch chi deimlo’r dymuniad am heddwch a ddaw wrth wylio’r clip.
Nodwch fod nifer o fideos ‘Playing For Change’ ar gael os ydych chi’n dewis y tab Videos ar frig y dudalen ar y we.
Fel y dywedodd Emerson, yr unig ffordd y gellir cyrraedd at heddwch yw trwy ddealltwriaeth, – ‘Peace cannot be achieved through violence, it can only be attained through understanding’, a dyna ffordd wych o ddeall ein gilydd!
Gweddi
Annwyl Dduw,
Boed i heddwch fod ar y ddaear, a boed i’r heddwch hwnnw ddechrau gyda mi.
Helpa fi i fod yn araf i farnu ac yn gyflym i greu heddwch.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘Stand by me’ oddi ar y wefan Playing For Change, ar gael ar:http://tinyurl.com/yc73xlc8