Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Lle I Ddysgu

Annog pobl ifanc i feddwl pam rydyn ni’n dod i’r ysgol a sut y gallwn ni werthfawrogi’r ysgol.

gan Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog pobl ifanc i feddwl pam rydyn ni’n dod i’r ysgol a sut y gallwn ni werthfawrogi’r ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gallwch ddefnyddio’r addasiadau hyn o ddyfyniadau gwahanol enwogion am addysg, mewn cyflwyniad PowerPoint, neu wedi’u hargraffu ar gyfer y myfyrwyr.
    –  ‘Addysg yw’r erfyn mwyaf grymus y gallwch chi ei ddefnyddio i newid y byd.’ (Nelson Mandela)
    –  ‘Gall rhieni roi cyngor da i’w plant, neu eu rhoi ar y llwybrau cywir, ond mae ffurfiant terfynol cymeriad rhywun yn eu dwylo nhw eu hunain.’ (Anne Frank)
    –  ‘Nod addysg yw’r wybodaeth, nid am ffeithiau ond am werthoedd.’ (Dean William R. Inge)
    –  ‘Mae wedi ymddangos yn od i mi, yn ein trafodaethau diddiwedd am addysg, bod cyn lleied o bwyslais yn cael ei roi ar y pleser o ddod yn berson dysgedig, a’r diddordeb enfawr y mae’n ei ychwanegu at fywyd. Gallu ymgolli yn y byd o feddwl – dyna beth yw bod yn ddysgedig.’ (Edith Hamilton)
    –  ‘Mae’r rhai hynny sy’n methu dysgu oddi wrth hanes wedi eu tynghedu i’w ailadrodd.’ (George Santayana)
    –  ‘Mae addysg yn hanfodol ar gyfer newid, oherwydd mae addysg yn creu’r anghenion ynghyd â’r gallu i’w diwallu.’ (Henry Steele Commager)
    –  ‘Mae addysg yn gwneud pobl yn hawdd eu harwain ond yn anodd eu gyrru, yn hawdd eu llywodraethu ond yn amhosibl eu caethiwo.’ (Lord Brougham)
    –  ‘Pwrpas addysg yw gwella bywydau pobl eraill, a gadael eich cymuned a’ch byd mewn gwell cyflwr na’r cyflwr y cawsoch chi nhw ynddo.’ (Marian Wright Edelman)
    –  ‘Nid y weithred o lenwi bwced yw addysg, ond y weithred o gynnau tân.’(William Butler Yeats)

  • Os yw dynameg grwpiau’n caniatáu, anogwch y myfyrwyr i feddwl beth yw ystyr y  dyfyniadau hyn. Nodwch yr adborth ar fwrdd gwyn neu siart troi.

  • Paratowch dri darllenydd (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’ch myfyrwyr pam eu bod wedi dod i’r ysgol heddiw. (Efallai y cewch chi atebion llawn dychymyg!) Ceisiwch nodi'r mathau gwahanol o ddysgu sy’n digwydd mewn ysgolion - nid dim ond y pynciau academaidd ond mewn meysydd eraill hefyd,  fel dysgu cymdeithasol, dysgu gwneud ffrindiau, addysg foesol, a pharatoad ar gyfer bywyd gwaith.

  2. Dywedwch: Efallai eich bod yn hoffi dod i’r ysgol, neu efallai dydych chi ddim yn hoffi dod i’r ysgol, ond gadewch i ni feddwl am blant mewn rhannau eraill o’r byd.

    Darllenydd 1  Yn y rhan is-Sahara o Affrica, mae 10 miliwn o blant yn gwrthgilio o’r ysgolion cynradd bob blwyddyn. Ledled y byd, mae 28 miliwn o blant sydd ddim yn mynd i’r ysgol oherwydd y rhyfeloedd sydd yn eu gwledydd (Edrychwch ar yr ‘Education for All Global Monitoring Report’, a gyhoeddwyd gan UNESCO ym mis Mawrth 2011, http://unesdoc.unesco.org/images/0019/001907/190743e.pdf).

    Darllenydd 2  Yn Afghanistan, mae ymchwil wedi dangos bod mamau sydd heb gael addysg yn fwy tebygol o lawer o gael anhawster wrth ofalu am eu plant. Nid yw’r mamau hyn wedi dysgu sut i amddiffyn eu plant rhag afiechydon y mae’n bosib eu hatal. Felly, mae llawer mwy o debygolrwydd y bydd eu plant yn marw cyn bod yn bump oed.

    Darllenydd 3  Yn ôl adroddiad gan UNICEF, a gyhoeddwyd eleni, roedd 8.1 miliwn o blant rhwng 6 a 14 oed yn India, yn ystod y flwyddyn 2009, ddim yn mynd i’r ysgol. O’r plant a oedd yn mynd i’r ysgol, roedd un o bob pedwar yn gadael cyn cyrraedd Blwyddyn 5. Mewn rhai taleithiau roedd un athro i bob 60 o blant Roedd angen miliwn a mwy o athrawon newydd. Ac roedd asesiadau’n dangos nad oedd plant yn yr ysgolion yn dysgu’r llythrennedd a’r rhifedd sylfaenol (http://www.unicef.org/india/education.html).

  3. Ym Mhrydain, mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i bob plentyn fynd i’r ysgol nes bydd yn 18 oed. Yng ngolwg rhai, mae hynny’n ymddangos yn annheg am y byddai’n well ganddyn nhw beidio â bod yn rhan o’r system addysg. Ond, ar ôl ystyried y dyfyniadau gawsoch chi a oedd yn ymwneud ag addysg, a’u trafod, ac ar ôl clywed yr ystadegau arswydus am addysg plant y byd mae’n amlwg bod cyfraith ein gwlad ni’n dod a budd i ni’n bersonol ac yn arwain at gynnydd a llwyddiant ein gwlad. Unwaith y mae cenhedlaeth wedi’i haddysgu, mae’r genhedlaeth honno wedyn wedi’i harfogi i ofalu am y genhedlaeth nesaf.

  4. Pe byddech chi’n gofyn i bobl yn eu hugeiniau a fydden nhw’n hoffi cael bod wedi newid rhywbeth a oedd yn ymwneud â’u hamser yn yr ysgol, fe fyddai llawer ohonyn nhw’n dweud ei bod hi’n edifar ganddyn nhw na fydden nhw wedi gweithio’n galetach ac wedi manteisio mwy ar y cyfle a gafwyd yn ystod y blynyddoedd gwerthfawr hynny. 

    Yn y wlad hon, mae gennym ni hawl i gael 14 o flynyddoedd o addysg yn rhad ac am ddim. Dyna ffaith na all cannoedd o filoedd o bobl a phlant ledled y byd ddim ond breuddwydio amdani. Felly, gadewch i ni beidio â gwastraffu’r cyfle a gawn ni i wella ein hunain a pharatoi ein hunain ar gyfer dyfodol cadarnhaol. Os enillwch chi eich cymwysterau tra byddwch chi yn yr ysgol, yna fe fyddwch chi wedi agor y drws i gyfle gwell o lwyddo yng ngweddill eich bywyd.

Amser i feddwl

(Tafluniwch rai o’r dyfyniadau ar sgrin a rhowch gyfle i’r myfyrwyr feddwl amdanyn nhw am foment neu ddwy.) 

Meddyliwch am yr hyn sy’n digwydd yma yn ein hysgol ni: ffrindiau athrawon, dysgu ffeithiau, dysgu amdanom ni ein hunain ac am bobl eraill. 

Meddyliwch am y pethau hynny rydych chi’n cael anhawster â nhw yn yr ysgol. 

Penderfynwch sut y gallech chi wneud yr ysgol yn lle gwell i ddysgu ynddo, i bob un ohonom.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon