Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Calon iach

Ar 29 Medi, mae’n Ddiwrnod Calon y Byd

gan Tim Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i werthfawrogi pwysigrwydd cadw ein calon yn iach.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bod â’r prawf ‘Heart IQ’ ar gael, sydd i’w weld ar:http://worldheartday.org/a threfnwch fodd o arddangos y prawf yn ystod y gwasanaeth.
  • Mae mwy o wybodaeth ynghylch Diwrnod Calon y Byd (World Heart Day) ar gael ar:http://worldheartday.org

Gwasanaeth

  1. Esboniwch fod 29 Medi yn ddiwrnod arbennig bob blwyddyn oherwydd ei fod yn cael ei gydnabod drwy’r byd fel Diwrnod y Galon (World Heart Day). Bwriad Diwrnod y Galon yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw ein calon yn iach.

  2. Gofynnwch i'r myfyrwyr ddyfalu faint o weithiau mae eu calon yn curo bob dydd. (Yr ateb cywir yw tua 100,000 o weithiau.)

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ddyfalu faint o litrau o waed y mae eu calon yn ei bwmpio o gwmpas eu corff bob dydd. (Yr ateb cywir yw tua 23,000 litr.)

  3. Mae gwefan Diwrnod y Galon yn cynnig prawf IQ yn ymwneud â’r galon, prawf y gallwch chi ei gymryd er mwyn darganfod faint rydych chi'n ei wybod am eich calon. Esboniwch eich bod yn mynd i ddarllen pob cwestiwn yn ei dro a'r atebion posibl. Yna, fe fyddwch chi’n cymryd pleidlais ymysg eich cynulleidfa ynghylch pa un yw’r ateb cywir, ac yn cynnwys yr ateb hwnnw yn y prawf.

  4. Bydd y prawf ar y wefan yn dweud wrthych chi ar unwaith a yw eich ateb yn gywir ai peidio. Bydd yr adborth yn rhoi esboniad pellach i chi ynghylch yr ateb a roddwyd.

  5. Nod Diwrnod y Galon yw ein hysbrydoli i wneud rhai newidiadau bach a allai wneud gwahaniaeth mawr i'n hiechyd a'n llwyddiant dilynol yn yr ysgol (www.worldheartday.org).

  6. Mae’r ffederasiwn, World Heart Federation, yn honni bod mwy na 17.5 miliwn o farwolaethau cynamserol yn digwydd bob blwyddyn o ganlyniad i glefyd y galon a strôc. Fe fyddai’n bosib osgoi'r rhain pe bai'r prif ffactorau risg - tybaco, diet afiach a diffyg gweithgarwch corfforol - yn cael eu rheoli.

  7. Clefyd y galon a strôc yw'r prif achosion marwolaeth ledled y byd bob blwyddyn. Mae calon iach yn hollbwysig ar gyfer byw bywyd i'r eithaf, waeth beth yw ei oed na pha ryw bynnag ydych chi. Diet heb fod yn iach, diffyg gweithgarwch corfforol ac ysmygu yw'r prif bethau sy’n achosi clefyd y galon a strôc. Mae'r ffordd o fyw, sydd heb fod yn iach, ac sy'n arwain at glefydau cardiofasgwlaidd, yn aml yn dechrau yn ystod plentyndod a glasoed, felly rhaid i fodd o atal clefyd y galon ddechrau'n gynnar.

  8. Mae mwyafrif ohonom yn treulio dros hanner ein horiau deffro yn gweithio. Felly, gall gweithle sy'n annog arferion iach leihau ein risg o lawer o glefydau, gan gynnwys clefyd y galon a strôc. Os bydd gan bawb ohonom galon iachach, fe fydd gennym ysgol iachach. 

  9. Gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw’n gwybod sut i fyw'n iach. Gall eu hymateb fod yn cynnwys awgrymiadau fel y rhai canlynol.

    - Bod yn gorfforol egnïol yn ystod eich diwrnod. Gall dim ond 30 munud o weithgaredd y dydd helpu i atal trawiad ar y galon a strôc.
    - Bwyta o leiaf bum cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd. Cadw nodiadau dyddiol am y bwyd y byddwch chi’n ei fwyta a gweld a oes unrhyw beth y mae angen i chi ei ychwanegu at eich diet neu beidio ei gynnwys.
    - Defnyddio llai o halen ac osgoi bwydydd wedi'u prosesu, sy'n aml yn cynnwys lefelau uchel o halen.
    - Mae dweud na wrth dybaco a pheidio ag ysmygu yn golygu y bydd eich risg o glefyd y galon yn cael ei haneru.
    - Mae cynnal pwysau iach yn bwysig. Mae colli pwysau, yn enwedig ynghyd â bwyta llai o halen, yn helpu rhag cael pwysedd gwaed uchel. Pwysedd gwaed uchel yw prif achos strôc, ac mae’n ffactor pwysig yn hanner holl glefydau’r galon a strôc.
    - Byddai dysgu sut i ddelio â straen a phryder trwy gael agwedd faddeugar yn fuddiol iawn hefyd.

  10. Os oes amser gennych chi, fe allech chi ddangos faint o halen sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd cyffredin. Y swm o halen a argymhellir yw 6g y dydd. Dangoswch i’r myfyrwyr sut i ddarllen y labeli ar becynnau bwyd sy’n nodi’r cyfrannau o faeth. Hefyd, edrychwch ar <http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/3029589.stm> a sgroliwch i lawr at waelod y dudalen er mwyn gweld graff sy'n manylu ar lefelau o halen mewn bwydydd poblogaidd. 

  11.  Slogan Diwrnod y Galon ar gyfer cymryd camau i amddiffyn eich calon yw, 'Grymuswch eich bywyd. Canfyddwch beth yw eich risg. Taniwch eich calon. Symudwch eich calon. Carwch eich calon.’ - ‘Power your life. Know your risk.Fuel your heart.Move your heart.Love your heart.’

  12.  Oeddech chi'n gwybod bod methu maddau i rywun yn gallu niweidio ein perthynas, yn cyflymu'r broses o heneiddio, yn achosi pryder ac iselder, ac yn cyfrannu at glefyd y galon trwy godi pwysedd gwaed a dwyn yr awch o’n bywyd ni? Mae pobl sy'n maddau yn profi mwy o hunan-barch a llai o bryder. Felly, mae atal ein hunain rhag byw yn y gorffennol trwy fyw yn y presennol, rheoli ein meddyliau ynghylch y dyfodol a maddau'n gyflym, yn strategaeth wych ar gyfer bywyd.

  13.  Heddiw, beth am i chi ofyn i chi eich hun, 'I bwy y mae arna i angen maddau?' Yna, ewch ymlaen a maddau i'r person hwnnw cyn gynted ag y gallwch chi.

Amser i feddwl

Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl mae adnod sy’n nodi ‘edrych ar ôl dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd, ond mae’r cyfieithiad Saesneg yn nodi ‘Keep your heart with all vigilance, for from it flows the spring of life.’ (Diarhebion 4.23)

Un o'r ychydig bethau sydd gan bawb yn gyffredin – beth bynnag yw eu gwlad, eu diwylliant neu amgylchedd eu gwaith - yw y gall pob un ohonom gymryd camau i fod yn fwy calon-iach.

Mae yna lawer y gallwn ni ei wneud i gadw ein calon yn iach, beth bynnag yw ein hoed.

Pe byddai llawfeddyg yn edrych ar eich calon, a fyddai ef neu hi yn gweld ei bod yn iach?

Pe byddai Duw neu rywun arall yn edrych ar eich calon, o ran ystyried eich cymeriad, eich ymddygiad a’ch cymhellion, beth fyddai yn ei ganfod?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weld bod ein harferion dyddiol yn effeithio ar ein hiechyd a'n hapusrwydd yn y dyfodol.
Diolch i ti am ein corff anhygoel, ac yn enwedig am ein calon sy'n ein cadw ni'n fyw.
Helpa ni i warchod ein calon, drwy gadw yn iach,
a helpa ni i ganfod hapusrwydd yn ein perthynas gyda'n teuluoedd a’n ffrindiau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon