Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy sydd i’w feio?

Pa mor aml y byddwn ni’n beio pobl eraill?

gan Tim Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried y diwylliant o feio (blame culture) sydd i’w gael yn ein cymdeithas ni y dyddiau hyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen detholiad o luniau yn gysylltiedig â storïau sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, lle mae rhywun wedi bod yn gweld bai ar rywun arall, sy’n adlewyrchu’r diwylliant o feio. Fe allai enghreifftiau gynnwys yr etholiad cyffredinol, y tân yn Grenfell Tower, a nifer o’r digwyddiadau terfysgol diweddar. Cofiwch fod yn sensitif i'r sefyllfaoedd fel sy'n briodol i'r ysgol lle defnyddir y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth

  1. Fyddwch chi’n chwarae’r ‘gêm feio’, yn fwriadol neu’n anfwriadol? Yn ein cymdeithas heddiw, fel y gwelwn ni’n aml ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar y teledu, mae pobl o hyd yn chwilio am rywun i’w feio pan fydd pethau’n mynd o chwith. Allwch chi feddwl am enghreifftiau o hyn, achosion sydd wedi bod yn amlwg yn ddiweddar?

    Dangoswch i’r myfyrwyr rai o’r lluniau o eitemau newyddion diweddar sydd yn ymwneud â’r diwylliant o feio.

  2. Yn ein bywydau ni ein hunain, pan fydd pethau’n mynd o chwith, a ninnau’n teimlo’n anhapus, mae’n hawdd iawn i ni chwilio am rywun arall i roi’r bai arno. Mae awydd cryf ynom i weld bai ar rywbeth, neu rywun arall, yn cynnwys Duw, am yr anhapusrwydd rydyn ni’n ei deimlo.

  3. Felly, beth yw bai?

    Bai yw ein hagwedd tuag at yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, yn seiliedig ar ein hamharodrwydd ni ein hunain i dderbyn cyfrifoldeb am gamgymeriadau. Mewn unrhyw sefydliad, fe all diwylliant o weld bai ar rywun arall ddatblygu lle mae ofn neu ddiffyg ymddiriedaeth. Mae pobl yn dewis rhoi’r bai ar rywun arall yn hytrach na chymryd y cyfrifoldeb eu hunain am ryw gamgymeriad, rhag ofn cael eu ceryddu neu eu cosbi. Mae’r amharodrwydd hwn yn gallu amharu ar arloesedd, yn atal y parodrwydd y gymryd risg, ac yn mygu creadigrwydd, oherwydd bod pobl yn amharod i ddangos menter bersonol rhag ofn cael eu beirniadu.

  4. Fe fydd sefydliadau llwyddiannus yn cydnabod bod angen iddyn nhw greu diwylliant o gyfrifoldeb a pheidio â rhoi lle i’r diwylliant o feio wreiddio. Mewn sefydliadau o’r fath, fe fydd y rheolwr yn cymryd y cyfrifoldeb am ffaeleddau neu gamgymeriadau’r tîm ym mhob achos ar wahân i anonestrwydd ac ymddygiad anfoesegol. Fe fydd rheolwr neu arweinydd da - ac fe fydd rhai ohonoch chi’n rheolwyr ac arweinwyr ryw ddydd - yn egluro i bobl, os byddan nhw’n gwneud camgymeriad, y peth gorau i’w wneud yw cyfaddef yn agored a gonest, ac yna fe fydd yn bosib canolbwyntio ar helpu i gywiro’r camgymeriad cyn gynted â phosib. Mewn diwylliant o feio, fyddai neb yn cyfaddef ar ôl gwneud camgymeriad, ac fe fyddai’r camgymeriadau’n cael eu cuddio nes byddai’r sefyllfa’n datblygu’n argyfwng bron.

  5. Mae rhai rhaglenni teledu felThe Apprentice, er enghraifft, yn awgrymu bod rhoi bai ar bobl eraill yn adloniant da. O wythnos i wythnos, fe fydd pobl yn gwylio’r rhaglen yn awyddus iawn i weld wrth bwy y mae Sir Alan Sugar yn mynd i ddweud, ‘You’re Fired!’ Ond, mewn gwirionedd, mae pawb yn gallu gwneud camgymeriadau. Fe fydd yr entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus yn aml wedi gwneud sawl camgymeriad yn eu tro, ond fe fyddan nhw wedi dysgu oddi wrth y camgymeriadau hynny. Felly, mae’r rhaglen yn gallu bod braidd yn afrealistig.

  6. Fe fydd gwleidyddion yn aml yn cael eu stereoteipio fel pobl sy’n hoffi rhoi’r bai ar bobl eraill. Mae hynny wedi creu diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, ac nid yw hynny’n beth da i ddemocratiaeth.

  7. Mewn geiriau eraill, mae chwarae’r gêm feio yn gallu bod yn beth dinistriol. Os na fyddwn yn ofalus, fe allwn ni fod yn chwarae’r gêm honno heb sylweddoli ein bod yn gwneud hynny. Er enghraifft, fe allai rhywun feddwl, ‘Rydw i’n anhapus oherwydd dydi X byth yn rhoi sylw i mi.’ Tra bod yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud yn gallu cyfrannu at y sefyllfa, a’n hamgylchiadau a’n sefyllfaoedd unigol yn dylanwadu ar ein bywyd, mae gan bawb ddewis. Efallai bod pobl wedi brifo’ch teimladau trwy fod yn anystyriol, yn gas neu’n angharedig, ond beth wnewch chi ynghylch hynny? Fe allwch chi ddewis sut i ymateb. Mae’n bosib na allwch chi newid y ffordd y mae pobl eraill yn ymddwyn, ond fe allech chi gael bywyd hapusach os gallwch chi ddysgu maddau iddyn nhw a pherthnasu â nhw mewn ffordd wahanol.

  8. Felly, pam rydyn ni’n chwarae’r ‘gêm feio’? Efallai ei bod hi’n haws o lawer dweud mai rhywun arall sy’n gyfrifol am y ffordd rydyn ni’n teimlo. Hefyd, pan fydd rhywbeth drwg neu annisgwyl wedi digwydd - mae’n anodd iawn rhagweld beth fydd yn digwydd mewn bywyd, ac mae pethau anffodus iawn yn gallu digwydd - efallai ei bod yn anodd i ni gydnabod bod yn rhaid i ni newid rhywbeth yn ein bywyd ein hunain, neu yn y ffordd rydyn ni’n gwneud rhai pethau, os ydyn ni am ganfod hapusrwydd unwaith yn rhagor. 

  9. Dyma rai pethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud i atal eich hun rhag syrthio i’r trap o chwarae’r ‘gêm feio’. Fodd bynnag, cofiwch nad yw cymryd cyfrifoldeb yn rhywbeth y gall rhywun ei ddysgu i chi, mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud eich hunan.

    - Cyfaddefwch pan fyddwch chi wedi methu, ceisiwch dderbyn y sefyllfa, a dysgu o’r profiad - byddwch yn agored, yn onest ac yn barod i ddysgu.
    - Mewn achosion pan fyddwch chi’n gallu cymryd cyfrifoldeb, yna gwnewch hynny, hyd yn oed gyda’r pethau lleiaf un.
    - Peidiwch ag iselhau eich hun gan feddwl dydych chi ddim yn ddigon da. Cofiwch fod Duw bob amser yn eich caru, a’ch bod yn hanfodol werthfawr.

Amser i feddwl

Yn y pen draw, fydd chwarae’r gêm feio ddim yn ein bodloni ni - fe fydd yn gwneud i ni deimlo’n anhapus, yn chwerw, ac yn anfaddeugar.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddweud ei bod hi’n ddrwg gennym ni!
Yn ddrwg gennym am yr adegau hynny pan wnaethon ni ddim cymryd cyfrifoldeb drosom ein hunain, nac am ein dewisiadau, na’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywyd.
Helpa ni i fod yn gyfrifol am ein gweithredoedd ni ein hunain, fel na fydd yn rhaid i ni o hyn ymlaen roi’r bai ar rywun arall a chwarae’r ‘gêm feio’.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon