Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut ydych chi’n gweld pethau?

Mae'n cymryd amser i weld sut un yw unigolyn mewn gwirionedd

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i feddwl am sut rai yw pobl ar y tu mewn, yn hytrach na’u barnu ar eu hymddangosiad allanol  yn unig.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Cyn y gwasanaeth hwn, mae'n bwysig eich bod yn gyfarwydd â'r delweddau a sut maen nhw’n ymddangos, fel y gallwch chi roi gwybod i'r myfyrwyr am beth i chwilio, neu fel arall mae’n bosib i’r effaith gael ei leihau.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i arddangos sawl delwedd ar y sgrin fawr. Byddwch yn gofyn rhai cwestiynau i'r myfyrwyr ac yn gofyn iddyn nhw wneud rhai pethau.

    –Dangoswch y ddolen gyntaf, ar gael ar:https://tinyurl.com/yc7hqnxa a gofynnwch, ‘Allwch chi gyfrif y dotiau duon?’
    Yr ateb yw does dim dotiau duon.

    –Dangoswch yr ail ddolen, ar gael ar:https://tinyurl.com/n6a6xjk a gofynnwch, ‘Ydych chi’n gallu gweld hen wraig neu ferch ifanc?’
    Os yw’r myfyrwyr yn syllu’n ddigon hir, mae’n bosib iddyn nhw weld y naill a’r llall. Gofynnwch i rywun sy'n gallu gweld y ddwy i ddod at y sgrin i ddangos i bawb arall ble maen nhw.

    –Dangoswch y drydedd ddolen, ar gael ar:https://tinyurl.com/yewpr2o a gofynnwch, ‘A yw’n symud?’
    Yr ateb yw dydi hwn ddim yn symud.

    –Dangoswch y bedwaredd ddolen, ar gael ar:https://tinyurl.com/nh3q a gofynnwch, ‘Ydyn nhw’n symud?’
    Yr ateb yw dydi’r rhain ddim yn symud ychwaith!

    –Dangoswch y bumed ddolen, ar gael ar:https://tinyurl.com/7pcyr5n a gofynnwch,‘A yw’r dotiau’n binc?’
    Os edrychwch chi ar y dotiau yn symud, maen nhw’n ymddangos yn binc. Ond, os gwnewch chi syllu ar y groes yn y canol, mae'r dot sy’n symud yn ymddangos fel pe byddai wedi troi'n wyrdd. Os ydych chi'n syllu ar y groes yn ddigon hir, bydd yr holl ddotiau pinc yn diflannu'n araf, a dim ond un dot gwyrdd y byddwch yn ei weld yn cylchdroi.

  3. Pethau difyr yw’r enghreifftiau hyn o ‘dwyll llygaid’, ac maen nhw’n digwydd fel arfer oherwydd bod ein llygaid a’n hymennydd yn cael eu camarwain gan y ffordd mae’r lliwiau, y delweddau, neu’r goleuadau ac ati wedi eu trefnu. Fodd bynnag, maen nhw’n dangos rhywbeth pwysig i ni: nid yw’r hyn yr ydyn ni'n meddwl ein bod yn eu gweld bob amser yr hyn yr ydyn ni’n ei weld mewn gwirionedd. Weithiau, rydyn ni'n cael ein twyllo!

    Esboniwch ein bod yn aml yn derbyn yr hyn rydyn ni’n ei weld fel gwirionedd. Yn aml, mae hyn yn gywir, ond weithiau, rydym yn ei gael yn anghywir. Gall hyn fod yn arbennig o wir yn achos llunio ein barn am bobl.

  4. Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am amser pan wnaethon nhw ryw dro geisio cuddio sut roedden nhw’n teimlo o ddifri, fel na fyddai pobl eraill yn dod i wybod am eu gwir deimladau. Efallai fod hynny wedi bod pan oedden nhw’n teimlo embaras, felly fe wnaethon nhw chwerthin. Efallai eu bod wedi bod eisiau crio, ond wedi chwerthin neu wedi taro rhywun yn lle hynny. Efallai eu bod nhw'n bobl sy'n siarad drwy'r amser er mwyn cuddio’r ffaith eu bod yn swil mewn gwirionedd.

    Mae pobl yn aml yn dda am guddio’u gwir deimladau - yn ymddangos un ffordd ar y tu allan, ond yn teimlo'n wahanol iawn ar y tu mewn. Maen nhw’n dda iawn am greu math neilltuol o ymddangosiad ar gyfer pobl eraill.

  5. Esboniwch i'r myfyrwyr bod angen i ni ddysgu cymryd amser wrth ffurfio barn am bobl eraill. Mae'n bwysig dod i adnabod pobl yn iawn, a pheidio â chymryd yn ganiataol ein bod yn eu hadnabod dim ond oddi wrth y ffordd maen nhw’n edrych.

    Mae'r Beibl yn sôn wrthym am yr adeg yr aeth y proffwyd Samuel i ddewis y brenin nesaf ar wlad Israel allan o deulu oedd ag wyth o feibion. Fe welodd y mab hynaf yn gyntaf. Roedd y mab hwnnw’n llanc tal, golygus, ac yn edrych fel pe byddai’n gwneud brenin ardderchog yn y dyfodol, ond dywedodd Duw wrth Samuel nad hwn oedd y mab iawn. Mae'r geiriau canlynol, a gofnodwyd yn y Beibl, yn eiriau enwog iawn: ‘Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r  Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon’ (1 Samuel 16.7). Ymhen hir a hwyr, dywedodd Duw wrth Samuel am ddewis y mab ieuengaf, a oedd allan yn y maes yn gwylio defaid ei dad. Y bachgen hwn oedd Dafydd, a ddaeth yn y pen draw yn Frenin Israel.

    Pwysleisiwch pa mor bwysigrwydd yw meddwl am sut rai yw pobl ar y tu mewn yn hytrach na llunio barn yn syth wrth edrych ar eu hymddangosiad allanol yn unig.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am y bobl sy'n eistedd o'u cwmpas. Faint ohonyn nhw maen nhw'n eu hadnabod yn dda? Ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw'n hoffi ei fwyta? Ydyn nhw'n gwybod a oes ganddyn nhw frodyr neu chwiorydd? Ydyn nhw'n gwybod lle maen nhw’n byw? Wrth ystyried o ddifrif, ychydig iawn ydyn ni’n ei wybod am y rhan fwyaf o bobl! Mae hynny'n golygu bod angen i bob un ohonom gymryd amser i ganfod sut rai yw pobl ar y tu mewn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni i gyd mor wahanol i’n gilydd.
Diolch am yr amrywiaeth o ddoniau a galluoedd a phersonoliaethau sydd yn yr ystafell hon.
Helpa ni fod yn bobl sydd bob amser yn chwilio am y gorau yn ein gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon