Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Derbyn a rhoi

Meddwl am y cynhaeaf

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio traddodiad yr wyl gynhaeaf ac ystyried gwaith yr ymddiriedolaeth ‘The Trussell Trust’.

Gwasanaeth

  1. Wrth i’r myfyrwyr ddod i’r gwasanaeth, trefnwch fod y fideo a’r gerddoriaeth ‘Harvest for the World’ gan The Christians yn chwarae, mae ar gael ar: <https://www.youtube.com/watch?v=6s-SHrzXbU8>

    Croeso i'n gwasanaeth. Heddiw, byddwn yn ystyried gwyl y cynhaeaf. 

  2. Dangoswch Sleid 1.

    Tybed beth yw'r peth diwethaf y gwnaethoch chi ei fwyta heddiw. Ceisiwch feddwl!

    Efallai yr hoffech chi holi ambell un o’r myfyrwyr.

  3. A fyddwn ni’n oedi weithiau i feddwl o ble y daw'r bwyd hwnnw atom, neu i feddwl am y gwaith sydd ynghlwm wrth ei gynhyrchu? Rwy'n credu mai'r ateb tebygol fyddai na, mae’n debyg! Efallai ein bod yn awchu cymaint am y bwyd, neu'n rhy brysur, i oedi a meddwl sut y mae ein bwyd yn cyrraedd ein platiau.

  4. Mewn oes a fu, roedd yn amlwg o ble roedd y bwyd y dod. Cyn cyfnod y Chwyldro Diwydiannol, roedd y mwyafrif o bobl Prydain yn gweithio ar y tir. Adeg y cynhaeaf, roedd angen llawer o gymorth i gasglu'r cnwd ynghyd. Roedd gwyl y cynhaeaf yn adeg i ddathlu ac i ddiolch am y bwyd a oedd wedi cael ei dyfu ar y tir.

    Dangoswch Sleid 2.

    Roedd y gymuned yn dod ynghyd i gasglu'r cnwd, ac yna i ddathlu bod y cnwd wedi cael ei gasglu ynghyd. Fe fyddai gwledd hael, o'r enw swper cynhaeaf, i ddathlu. Canolbwynt y pryd bwyd yn yr hen amser fyddai gwydd wedi cael ei stwffio ag afalau, a honno’n cael ei gweini gyda digonedd o lysiau. Roedd yn adeg ar y flwyddyn pan fyddai digonedd o fwyd da i bawb ei fwynhau!

  5. Yn ddiweddar, cafodd y traddodiad o ddathlu gwyl y cynhaeaf mewn eglwysi ei ddatblygu. Fe ddaeth hyn yn hynod o boblogaidd nghyfnod y Frenhines Victoria. Fe gaiff gweddïau o ddiolchgarwch eu hoffrymu a chaiff emynau yn dathlu'r cynhaeaf eu canu. Yn aml, caiff eglwysi eu haddurno â chnydau cartref ar gyfer gwasanaeth gwyl y cynhaeaf.

    Dangoswch Sleid 3.

  6. Ond, beth am y bobl sydd ddim yn cael digon i'w fwyta? Beth am y bobl nad oes ganddyn nhw ormodedd o fwyd ar gyfer dathlu a chynnal gwyl?

  7. Mae'r mwyafrif o grefyddau'n addysgu am bwysigrwydd gofalu am anghenion y tlodion, yn cynnwys sicrhau fod gan bawb ddigon i'w fwyta.

    Dangoswch Sleid 4.

    Yn y Beibl, mae’n nodi, ‘Pan fyddi’n medi cynhaeaf dy dir, paid â medi at ymylon dy faes, a phaid â lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i’r tlawd a’r estron.’(Lefiticus 23.22)

    Mae'r darn hwn, sy'n bwysig gan Iddewon a Christnogion, yn dweud wrthym y dylai fod rhywbeth ar gael bob amser i'r tlawd. Pan gaiff y cynhaeaf ei gasglu, dylai fod rhywfaint ar ôl i'r tlawd ei gasglu neu ei ‘loffa’.

    Darluniwyd y syniad hwn gan arlunydd Ffrengig,Jean-François Millet.

    Dangoswch Sleid 5.

  8. Fe ddywedodd Mahatma Gandhi yr un peth mewn ffordd debyg, ‘The true measure of any society can be found in how it treats its most vulnerable members.’ - Fe welwch chi wir fesur unrhyw gymdeithas yn y modd y mae'n trin ei haelodau mwyaf bregus.

    Dangoswch Sleid 6.

    Mae'r sleid yma’n ein hatgoffa ni na ddylai’r rhai sydd mewn angen gael eu hesgeuluso gan eraill.

  9. Yn y blynyddoedd diweddar daeth banciau bwyd yn fodd i bobl nad oes ganddyn nhw ddigon o fwyd i'w fwyta ofyn am gymorth i gael bwyd. Efallai eich bod wedi clywed am elusen, sydd i’w chael yng ngwledydd Prydain, o'r enw 'The Trussell Trust', elusen sy'n gweinyddu rhwydwaith o fanciau bwyd.

    Dangoswch Sleid 7.

    Cafodd 'The Trussell Trust'  ei sefydlu yn y flwyddyn 1997. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe ddarparodd dros filiwn o gyflenwadau bwyd i bobl a oedd mewn angen am amrywiol resymau, yn cynnwys colli gwaith, salwch, oedi cyn derbyn budd-daliadau, trais yn y cartref, tor-priodas, dyled neu gostau ychwanegol ar gyfer tanwydd yn ystod y gaeaf. Mae rhai o'r bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yn gyflogedig, ac mewn gwaith, ond maen nhw'n methu â fforddio popeth sydd ei angen arnyn nhw oherwydd bod eu cyflog yn rhy isel.

  10. Er mwyn ein helpu i ddeall dipyn mwy am waith Ymddiriedolaeth Trussell ('The Trussell Trust' ), gadewch i ni edrych ar fideo am Donna, a aeth i ofyn am fwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell pan aeth yn wael. Bellach mae hi'n gweithio'n wirfoddol ar ran yr elusen yn helpu i ddarparu bwyd ar gyfer pobl eraill mewn angen.

    Dangoswch ‘Donna’s Story’, ar gael ar:http://tinyurl.com/y9nk2nlt

Amser i feddwl

Wrth i ni feddwl am thema'r gwasanaeth heddiw, gadewch i ni blygu pen a neilltuo ychydig o amser i fyfyrio.

Gadewch i ni gymryd moment i ddistewi a llonyddu.

Yn gyntaf, gadewch i ni feddwl am y bwyd yr ydyn ni wedi ei fwyta'n ddiweddar.

Gadewch i ni geisio mabwysiadu agwedd o ddiolchgarwch: bod yn ddiolchgar am y bwyd hwnnw.Bod yn ddiolchgar am y bobl sydd yn rhan o'i gynhyrchu. Bod yn ddiolchgar fod gennym fwyd i'w fwyta a'i fwynhau.

Gadewch i ni feddwl am y rhai hynny yn ein cymdeithas sy'n ei chael hi'n anodd cael digon i'w fwyta, neu bobl sy'n methu â darparu diet iachus ar gyfer eu hunain na'u teuluoedd. Rydyn ni’n meddwl am bobl yn ein cymuned ni sy'n wynebu'r angen hwn.

Gadewch i ni oedi am funud a cheisio mabwysiadu agwedd o dosturi tuag at y rhai hynny sydd mewn angen.

Gadewch i ni oedi am funud a cheisio mabwysiadu agwedd o ddiolchgarwch ac anhunanoldeb, gan feddwl nid am ein trachwant ni ein hunain, ond cofio am anghenion pobl eraill.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bwyd rwyt ti’n ei ddarparu i ni.
Diolch i ti fod gennym y gallu a'r modd i rannu.
Helpa ni i fabwysiadu agweddau o ddiolchgarwch, tosturi a haelioni.
Gweddïwn am waith Ymddiriedolaeth Trussell ac elusennau eraill sy'n cefnogi'r rhai sydd angen bwyd.
Helpa nhw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Diolch iti am y bwyd rwyt ti’n ei ddarparu i ni.

Amen.

Cân/cerddoriaeth

The Christians “Harvest for the World”’ (3.57 munud), ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=6s-SHrzXbU8

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon