Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ystyr y gair Ohana

‘Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio’

gan Rachael Crisp

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y gair 'ohana' a'r ffordd y mae'n effeithio ar sut yr ydym yn ystyried beth yw ystyr teulu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch:mae'r gwasanaeth hwn yn ystyried y syniad o deuluoedd, a gallai fod yn fater sensitif i rai myfyrwyr.

  • Trefnwch fod y clip fideo YouTube 'Ohana' ar gael gennych chi, a'r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 0.15 munud, ac mae ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=gLd40ddnN7c

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â'r gwasanaeth hwn (The Meaning of Ohana) a’r modd o ddangos y rheini hefyd.

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi gysylltu'r gwasanaeth hwn gyda Sul Mabwysiadu, sy'n digwydd ar 5 Tachwedd 2017. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:https://www.homeforgood.org.uk/what-we-do/adoption-sunday

  • Dewisol: efallai y byddwch chi’n dymuno goleuo cannwyll yn ystod y rhan 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth, ac os felly fe fydd arnoch chi angen trefnu hynny hefyd.

Gwasanaeth

  1. A yw’r myfyrwyr yn mwynhau gwylio ffilmiau Disney? Gofynnwch iddyn nhw godi eu dwylo os ydyn nhw.

    Dangoswch Sleid 1.

    Nodwch fod llawer o bobl o bob oedran yn mwynhau gwylio ffilmiau Disney - mae gan bawb ohonom ein ffefrynnau! Fodd bynnag, fe fyddwn ni, yn y gwasanaeth hwn heddiw yn ystyried y ffilm Lilo & Stitch, ac yn canolbwyntio’n benodol ar un llinell yn y ffilm.

    Dangoswch Sleid 2.

  2. Yn y ffilm, mae Stitch yn dweud, ‘Ohana means family. Family means no one gets left behind or forgotten.’ Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio.

    Dangoswch y fideo YouTube, ‘Ohana’.


  3. Eglurwch nad yw’r gair 'ohana' yn air rydyn ni’n ei glywed yn aml iawn. Mae'n air o wlad Hawaii sy'n golygu teulu estynedig, gan gynnwys perthnasau gwaed, perthnasau a fabwysiadwyd a theulu bwriadol. Mae'r gair 'bwriadol' yn golygu rhywbeth a wneir yn fwriadol ac â phwrpas, felly mae teulu bwriadol yn golygu teulu sy'n cael ei ddewis. 

  4. Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am y cwestiynau canlynol, gan ystyried pob un yn ei dro am foment.

    - Beth yw teulu?

    Oedwch er mwyn caniatáu amser i’ch cynulleidfa feddwl.

    - Sut deulu yw ein teulu ni?

    Oedwch er mwyn caniatáu amser i’ch cynulleidfa feddwl.

    - Beth mae ein teulu yn ei olygu i ni?

    Oedwch er mwyn caniatáu amser i’ch cynulleidfa feddwl.

  5. Dangoswch Sleid 3.

    Atgoffwch y myfyrwyr bod teuluoedd yn dod mewn gwahanol siapiau a meintiau. Nid un math o deulu yw'r un cywir. Pa fath bynnag yw ein teulu, mae yn fan arbennig lle y dylem brofi ‘ohana’ ynddo.

  6. Mae nifer fawr o wahanol fathau o deuluoedd i’w cael. Mae pob teulu, waeth pa fath - bach, mawr, mabwysiedig, maeth, cymysg (llysfrawd neu lyschwaer, hanner brodyr a hanner chwiorydd), ffrindiau a neiniau a theidiau - yn bwysig ac yn arbennig, ac yn rhywbeth y dylai pawb gael eu parchu ynddyn nhw. Fe all teulu fod yn ddewisedig ac yn fwriadol. 

  7. Cofiwch fod yn sensitif: mae rhai pobl wedi cael profiad o golled a gwahanu yn eu teulu. Mae’n bosib i hynny fod trwy farwolaeth un oedd yn cael ei garu, neu oherwydd bod rhywun wedi gorfod cael ei feithrin neu ei fabwysiadu. Mae'n bwysig parchu teulu y naill a’r llall, pa fath bynnag o deulu y maen nhw’n perthyn iddo. Mae angen inni gofio bod pob teulu yn wahanol: ac nid oes un math o deulu sydd i fod i gael ei ystyried fel y math cywir.

  8. Dewisol: Mae Cristnogion yn credu eu bod yn cael eu mabwysiadu i deulu Duw. Mae'r Beibl yn sôn am Dduw yn 'dad', a phobl eraill yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd, ac yn deulu. Dyma enghraifft arall o deulu 'ohana'. Mae'n fath bwriadol o deulu oherwydd ein bod yn dewis bod yn rhan ohono.   

  9. Dewisol: efallai yr hoffech chi gysylltu'r gwasanaeth hwn gyda Sul Mabwysiadu, sy'n digwydd ar 5 Tachwedd 2017. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:https://www.homeforgood.org.uk/what-we-do/adoption-sunday

Amser i feddwl

Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno goleuo cannwyll wrth i'r myfyrwyr ystyried y geiriau canlynol.

Wrth i ni oleuo'r gannwyll hon, gadewch i ni feddwl am yr hyn yr ydym wedi'i glywed, a meddwl sut mae hyn yn effeithio arnom ni.

Ohana means family. Family means no one gets left behind or forgotten.’ Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio Gadewch i ni sicrhau nad yw pobl yn ein teuluoedd ein hunain yn cael eu gadael ar ôl, yn cael eu hanwybyddu, neu eu hanghofio. Gadewch i ni sicrhau bod pawb yn ein teulu ysgol yn teimlo'n rhan o'r teulu ac yn cael eu caru ac yn cael gofal.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am deulu.
Diolch i ti am lawer o wahanol fathau o deuluoedd.
Diolch dy fod ti'n caru pob person ym mhob sefyllfa deuluol.
Helpa ni i wneud yn siwr bod 'ohana' yn digwydd, ac na fydd neb yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei anghofio.
Helpa ni i weld fod pob teulu yn arbennig ac yn bwysig, yn enwedig pan mae'n wahanol i'n teulu ni ein hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon