Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathlu amrywiaeth

Mae Diwrnod Rhyngwladol Goddefgarwch y Cenhedloedd Unedig ar 16 Tachwedd

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwerth goddefgarwch a phwysigrwydd derbyn a dathlu amrywiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen trefnu bod y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn gennych chi (Celebrating Difference), a’r modd o’u dangos.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried y cwestiwn, ‘Beth yw eich hoff felysion?’

    Gofynnwch i'r myfyrwyr bleidleisio dros bob opsiwn sydd i'w weld ar y sleid trwy godi eu dwylo.

  2. Nodwch nad ydyn ni i gyd yr un fath o ran y pethau rydyn ni’n eu hoffi a'r pethau nad ydyn ni’n eu hoffi. Mae rhai pobl yn hoffi 'Liquorice Allsorts', tra bod eraill yn troi eu trwynau arnyn nhw. Mae llawer o bethau yn ein gwneud ni’n wahanol fel bodau dynol, er hynny, nid yn unig y math o felysion sydd orau gennym ni! Er enghraifft, pe bydden ni edrych ar yr hil ddynol, mae yna wahaniaethau ac amrywiaeth o ran yr ieithoedd rydyn ni’n eu siarad, ein hoed, ein hymddangosiad corfforol, ein profiad o fywyd, ac ati.

  3. Dangoswch Sleid 2.

    Mae hi'n nodwedd o gymdeithasau'r hil ddynol ein bod yn aml yn teimlo'n ddiogelach ac yn fwy dibryder gyda phobl sy'n debyg i ni.  O bosib, mae'n haws perthnasu â rhywun sy'n siarad yr un iaith â ni, ac o bosib fe fyddwn ni’n hoffi treulio amser yng nghwmni pobl sy'n mwynhau'r un math o gerddoriaeth neu chwaraeon â ni.  Mewn gwirionedd, fe fyddwn ni’n aml yn hoffi defnyddio ein dillad a'n syniad o ffasiwn er mwyn mynegi i ba 'grwp' yr ydym yn perthyn iddo. Mae hynny'n rhan naturiol o fod yn ddynol, er efallai mai'r teulu hwn wedi mynd â hynny un cam yn rhy bell . . .

    Dangoswch Sleid 3.

  4. Ond i fod yn ddifrifol, er ei bod hi'n dda cael y siawns i fod yng nghwmni pobl sy'n rhannu'r un pethau cyffredin â ni. Mae hi hefyd yn beryglus i feddwl fod pobl sydd ddim o'r un oed â ni, neu sy'n gwisgo'n wahanol, neu sy'n dod o wlad arall, ddim hefyd yr un fath â ni mewn sawl ffordd. Gan aros gyda'n thema melysion, edrychwch ar y sleid nesaf.

    Dangoswch Sleid 4.

  5. Yr un peth ydyn ni i gyd oddi mewn. Mae hynny'n wir. Rydym i gyd yn teimlo llawenydd, poen, gorfoledd ac ofn. Mae gan bob un ohonom obeithion a breuddwydion, doniau a thalentau. Rydym i gyd yn rhannu'r un dynoldeb yn gyffredin. Mae pawb ohonom yn rhan o'r hil ddynol.

    Dangoswch Sleid 5.

    Yr un peth ydyn ni i gyd oddi mewn.

  6. Dangoswch Sleid 6.

    Mae'r gwasanaeth heddiw yn nodi Dydd Rhyngwladol Goddefgarwch y Cenhedloedd Unedig, ar 16 Tachwedd. Bwriad y diwrnod hwn yw helpu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd goddefgarwch ar gyfer cymdeithas iachus.

    Mae goddefgarwch yn golygu derbyn gwahaniaethau. Mae'n agwedd deg tuag at y rhai hynny sydd â'u barnau, eu credoau, eu harferion, eu tarddiad hil neu ethnig, ac ati yn wahanol i’r rhai sy'n perthyn i ni. Mae'n golygu derbyn ein bod yn byw mewn byd lle mae amrywiaeth a gwahaniaethau, ac mae hynny'n beth da.

  7. Efallai eich bod yn meddwl bod ein byd bellach yn oddefol o bobl eraill ac yn derbyn gwahaniaethau. Wedi'r cyfan, mae'r flwyddyn hon, 2017, yn nodi 50 mlynedd ers i gyfunrywoliaeth gael ei dad-droseddoli yng Nghymru a Lloegr. Byddai llawer yn dadlau bod y D. U. yn wlad sy'n fwy agored, yn fwy ymwybodol ac yn fwy goddefol o wahaniaethau. Fodd bynnag, mae'r flwyddyn 2017 hefyd wedi nodi blwyddyn ers llofruddiaeth yr AS, Jo Cox. Fe gafodd hi ei lladd mewn ymosodiad wedi ei drefnu gan rywun nad oedd yn cytuno â goddefgarwch. Roedd Jo Cox wedi siarad o blaid goddefgarwch, a derbyn a dathlu gwahaniaethau. Ym mis Mehefin 2015, yn ei haraith gyntaf gerbron y Senedd, fe ddywedodd hi, ‘we are far more unitedandhave far moreincommon with each other than that which divides us.’

    Dangoswch Sleid 7.

    Yn dilyn llofruddiaeth Jo Cox, bu teimlad cryf y dylai'r D.U. fel cymdeithas, weithio tuag at fod yn fwy goddefol. Er mwyn nodi'r ffaith bod blwyddyn wedi mynd heibio ers ei llofruddiaeth, daeth llawer o bobl o bob cwr o'r D.U. ynghyd er mwyn bod yn rhan o weithgareddau cymunedol, fel barbeciws, picnics a ffeiriau stryd i ddangos cydsafiad a'r awydd i greu cymdeithas fwy goddefol.

Amser i feddwl

Mae'n parhau'n ffaith wirioneddol yn ein byd, fod yna rai pobl i'w cael sy'n teimlo eu bod yn cael eu herio a'u bygwth gan wahaniaeth ac amrywiaeth. Efallai eu bod wedi cael eu haddysgu i ofni gwahaniaeth, yn hytrach na'i dderbyn neu ei ddathlu. Efallai na chawson nhw'r cyfle i gyfarfod â phobl sy'n wahanol iddyn nhw eu hunain neu i fod yn eu presenoldeb. Trwy ddysgu a chofio ein bod i gyd yr un fath oddi mewn, mae'n neges bwysig y dylai'r byd barhau i gael ei hatgoffa amdani.

Dangoswch Sleid 8.

Nid yw plant yn cael eu geni i beidio â bod yn oddefgar, ond gall gymdeithas addysgu am oddefgarwch. Heddiw, rydym yn adlewyrchu a dathlu goddefgarwch.

Dangoswch Sleid 9.

Diolch bod ein byd wedi ei wneud o bob math o bethau a phob math o bobl -Allsorts!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n dathlu'r ffordd yr ydyn ni i gyd yn wahanol.
Diolch dy fod ti wedi gwneud pob un ohonom yn unigryw, unwaith ac am byth, a dy fod ti’n ein caru ni.
Mae ein holion bysedd yn ein hatgoffa ein bod ni'n unigryw.
Helpa ni i werthfawrogi a dathlu natur unigryw pobl eraill hefyd.
Helpa ni i fod yn gyfforddus â gwahaniaethau, ac i gofio ein bod, yn y bôn, i gyd yr un fath ar y tu mewn, a’n bod ni i gyd wedi cael ein creu ar dy ddelw di.
Helpa ni i ddeall, i fod yn oddefgar, ac i dderbyn.
Helpa ni gofio nad yw gwahaniaethu, casineb na rhagfarn yn iawn.
Rho i ni'r dewrder i herio unrhyw ragfarnau y gallen ni fod yn eu dal.
Helpa ni i fod yn barod i fod yn fwyfwy goddefol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon