Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawenydd

Ystyr ‘llawenydd’

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio beth yw ystyr ‘llawenydd’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri Darllenydd.

  • Trefnwch fod recordiad gennych chi o’r gerddoriaeth ‘Ode to joy’ allan o Symffoni rhif 9 gan Beethoven, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth hon ar ddechrau’r gwasanaeth. Mae fersiwn ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Wod-MudLNPAac mae’n para am 3.39 munud.

Gwasanaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Ode to joy’ allan o Symffoni rhif 9 gan Beethoven wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Arweinydd: Tybed beth ydyn ni'n ei feddwl pan fyddwn ni’n clywed y gair 'llawenydd', neu’r gair ‘joy’ yn Saesneg. Nid yw'n air sy’n cael ei ddefnyddio mor aml efallai â’r gair hapus. Rydym yn fwy tebygol, efallai, o glywed pobl yn dweud eu bod yn hapus neu'n fodlon. Ac yn Saesneg fe fyddwn ni'n clywed y gair ‘happy’ neu ‘happiness’ yn amlach na’r gair ‘joy’ neu ‘joyfulness’. Mae cyfieithiad o hen gân Gristnogol sy'n mynd fel hyn:

Dyro gân dan fy mron, gad im foli. 
Dyro gân dan fy mron, yn awr;
Dyro gân dan fy mron, gad im foli,
Gad im foli nes daw toriad gwawr.

Give me joy in my heart,’ yw’r geiriau Saesneg. Ond beth mae’n ei olygu i fod yn llawen neu’n ‘joyful’?

Y gerddoriaeth agoriadol glywsoch chi wrth ddod i mewn i’r gwasanaeth yw ‘Ode to Joy’ gan Beethoven. Caiff ei ddefnyddio fel anthem i’r Undeb Ewropeaidd, gyda’r geiriau yn seiliedig ar gerdd gan Friedrich Schiller sy’n adrodd am y llawenydd a’r pethau rhyfeddol sy’n eich disgwyl yn y nefoedd.

Yn ddiddorol, pan wnewch chi deipio’r gair ‘joy’ yn ‘Google’, y peth cyntaf ar y rhestr fydd‘Joy the Store’: sef siop ddillad ffasiynol. A yw hynny’n gwneud i chi feddwl am ystyr cywir y gair ‘joy’ – ‘llawenydd’?

Ai wrth siopa y byddwch chi’n darganfod llawenydd? Efallai bod perchnogion y siop‘Joy’yn gywir. Mae pobl yn cael mwynhad o brynu pethau a’u perchnogi.Mae cysylltiad rhwng llawenydd a phleser a hapusrwydd. Efallai bod modd i chi nodi’r adeg ddiwethaf i chi brynu rhywbeth a roddodd bleser a llawenydd i chi.Efallai bod llawenydd yn deillio o fod wedi derbyn rhywbeth.Neu tybed a yw llawenydd yn deimlad dwysach? Bydd pobl yn sôn am lawenydd yng nghyd-destun genedigaeth baban newydd, neu eu llawenydd ar achlysur dyweddïad neu briodas. Mae llawenydd yn ymwneud â theimladau gorfoleddus a llethol, ac fe fyddwch chi’n clywed am rai’n crio mewn llawenydd, neu’n llamu mewn llawenydd – ‘jumping for joy’. Mae’r rhai ohonoch sydd wedi derbyn canlyniadau arholiad da yn gwybod am y teimlad hwnnw mae’n debyg!

Mae'n ymddangos bod llawenydd yn dod o rywle sy’n llawer dyfnach na hapusrwydd rywsut. Mae llawenydd yn rhywbeth mwy na dim ond teimlo'n falch gyda rhywbeth. Mae'n deimlad neu gyflwr dwfn o hapusrwydd neu fodlonrwydd. Gallai fod rhywbeth yn achosi teimlad o'r fath, ffynhonnell hapusrwydd neu hyd yn oed sioe allanol o bleser neu hwyl, gorfoledd.

Darllenydd 1:Gadewch i ni feddwl eto am eiriau’r gân Gristnogol.

Dyro gân dan fy mron, gad im foli.
Dyro gân dan fy mron, yn awr;
Dyro gân dan fy mron, gad im foli,
Gad im foli nes daw toriad gwawr.

Arweinydd:Mae’r pennill cyntaf yn sôn am foli, ac mae moli yn golygu gwneud datganiadau cadarnhaol am bobl. Rydych chi’n gwybod sut deimlad yw hwnnw pan fydd athro neu athrawes yn rhoi clod i chi neu’n rhoi clod i rywun am eu gallu. Mae’n gwneud i rywun deimlo’n dda a llawen ynddyn nhw’u hunain a chyda’r gwaith y maen nhw wedi ei gyflawni. Weithiau fe fyddwn ni’n teimlo’n wangalon pan fydd pobl ddim yn rhoi clod neu gadarnhad i ni am rywbeth yr ydyn ni’n teimlo sy’n haeddu hynny. Beth am i chi geisio rhoi clod neu ganmoliaeth i rywun heddiw, a gweld beth fydd yr ymateb gewch chi?

Darllenydd 2:Dyma ail bennill y gân:

Dyro hedd dan fy mron, gad im garu,
Dyro hedd dan fy mron yn awr;
Dyro hedd dan fy mron, gad im garu,
Gad im garu nes daw toriad gwawr.

Arweinydd:
 Mae'r pennill hwn yn sôn am yr heddwch sy'n ein galluogi i orffwys. Ar ddiwedd diwrnod prysur, pa mor anodd yw dod o hyd i'r amser, yr heddwch a'r tawelwch i allu gorffwys? Efallai bod gennych chi frodyr a chwiorydd iau na fydd yn eich gadael llonydd i chi. Efallai mai chi yw'r prif ofalwr ar gyfer aelod o’r teulu sy’n sâl. Efallai mai gormod o waith cartref i’w wneud sydd gennych chi! Ceisiwch ddefnyddio peth amser heddiw i ddod o hyd i ychydig o heddwch a thawelwch a gorffwys. Efallai y byddwch chi'n teimlo fel gwneud rhywbeth gwahanol, neu efallai y byddwch chi'n teimlo ychydig bach yn well ar ôl hynny.

Darllenydd 3:Mae’r trydydd pennill yn sôn am gariad.

Dyro serch dan fy mron, gad im weini,
Dyro serch dan fy mron yn awr;
Dyro serch dan fy mron, gad im weini,
Gad im weini nes daw toriad gwawr.

Arweinydd:Mae’r trydydd pennill yn sôn am gariad, cariad ar eich cyfer chi eich hun, ar gyfer eich ffrindiau ac ar gyfer eich teulu. Cofiwch y gall cariad gael ei fynegi mewn sawl dull a modd; sut y byddwch chi’n mynd ati i fynegi eich cariad at rywun heddiw?

Amser i feddwl

Arweinydd:Gadewch i ni feddwl am yr hyn y mae llawenydd yn ei olygu o ddifrif gyda dyfyniad o eiriau’r Fam Teresa a oedd yncanfod llawenydd yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.

Joy is prayer; joy is strength; joy is love; joy is a net of love by which you can catch souls.’ - ‘Llawenydd yw gweddi – Llawenydd yw nerth – Llawenydd yw cariad – Llawenydd yw rhwyd o gariad sy’n gyfrwng i ddal eneidiau.’

Allwch chi feddwl am unrhyw un y byddech chi'n ei ddisgrifio fel rhywun ‘llawen’? Yn llawn o lawenydd - dyna gyflwr gwych i fod ynddo!

Gadewch i ni i gyd ymdrechu i fod yn llawen ac arllwys y llawenydd hwnnw i fyd sydd â gormod o bobl drist yn byw ynddo.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon