Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwyt ti wedi gwneud i mi aros!

Mae pethau'n well pan fyddwn ni’n aros ac yn disgwyl am rywbeth

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno’r syniad fod Adfent yn golygu bod Cristnogion yn aros am rywbeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.

Gwasanaeth

Darllenydd 1: gan edrych ar ei oriawr/ei horiawr, tapio ei droed/ei throed ar y llawr, yn edrych yn flin, ochneidio, a cherdded yn ôl ac ymlaen.

Darllenydd 2: (gan gyrraedd o’r diwedd, yn dod i mewn yn hamddenol ac yn codi ei law/ei llaw) Helo Su’ mai!

Darllenydd 1:O, rwyt ti wedi penderfynu cyrraedd o’r diwedd, felly?

Darllenydd 2:Mae’n ddrwg gen i – ydw i’n hwyr?

Darllenydd 1:Wyt! Rydw i wedi bod yn aros yma am hydoedd!

Darllenydd 2:O ddifrif? Doeddwn i ddim yn gallu cofio faint o’r gloch roeddet ti wedi ei ddweud. Ond mae’n siwr fod pethau da yn werth aros amdanyn nhw!

Darllenydd 1 a 2 yn aros yn llonydd yn eu hunfan.

Arweinydd:‘Rydw i wedi bod yn aros yma am hydoedd!!’ Sawl gwaith ydych chi wedi dweud hynny? Rwy’n siwr y gallwch chi feddwl am fwy nag un achlysur, ac mae’n bosib bod un neu ddau o’ch athrawon wedi dweud hynny wrthych chi ryw dro neu’i gilydd, hefyd.

Darllenydd 1 a 2yn dod yn fyw unwaith eto.

Darllenydd 1:Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro!

Darllenydd 2:Yn union – a finnau. Alla i ddim aros o gwbl!

Darllenydd 1:Mi fydd parti Jeni yn barti anhygoel!!! Mi gawn ni gymaint o hwyl. Mi fydd DJ a phob math o bethau eraill yno.

Darllenydd 2:Ond, mae’n teimlo fel bod y parti yn bell iawn i ffwrdd. Mi fyddwn i wrth fy modd petai’r amser yn mynd yn gynt, ac mi fydd popeth arall yn ymddangos yn ddiflas iawn ar ei ôl. Wyt ti wedi penderfynu beth fyddi di’n ei wisgo?

Darllenydd 1:Dim syniad. Mi fydd rhaid i mi feddwl am rywbeth. Mae’n mynd i fod yn barti a hanner.

Darllenydd 1 a 2 yn cerdded oddi ar y llwyfan, gan ddal i siarad am y parti.

Arweinydd:Rwy’n siwr eich bod chi i gyd wedi teimlo felly ryw dro, hefyd. Yr un digwyddiad rydych chi wedi bod yn edrych ymlaen ato yw’r un sydd yn ymddangos i lawer fel na fydd byth yn cyrraedd.

Mae pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw bron iawn yn meddiannu eich bywyd. Dyna’r cyfan y gallwch chi siarad amdano. Mae eich meddwl yn crwydro’n ôl at y digwyddiad hwnnw, neu’r peth hwnnw, pan fyddwch chi’n gwybod y dylech chi fod yn canolbwyntio ar bethau eraill. Mae’n ymddangos bod cymaint i’w wneud cyn y digwyddiad, hefyd. Paratoi, penderfynu beth i’w wisgo, sut y byddwch chi’n cyrraedd yno – cymaint o bethau i’w trefnu!

Mae Cristnogion yn teimlo felly yn ystod tymor yr Adfent, tymor sy’n cychwyn tua dechrau Rhagfyr ac yn gorffen â Gwyl y Nadolig. Ond am beth y mae Cristnogion yn disgwyl? Y Nadolig, yn amlwg!  Ond hefyd, mae’r un a gyrhaeddodd ar y Nadolig yn rhan hanfodol o ddeall pan fod tymor yr Adfent yn gysylltiedig ag aros, ac aros am rywbeth da. Mae’r Adfent yn ymwneud â bod yn amyneddgar. Mae’n para am bedair wythnos!

Sut deimlad yw pan fyddwch chi’n aros am rywbeth rydych chi wedi bod ei eisiau ers talwm iawn?  Efallai bod y Nadolig yn enghraifft dda i chi?  Rydych chi’n mwynhau treulio amser gyda’ch teulu, ac rydych chi’n cyffroi wrth feddwl am anrhegion. Mae’n bosib bod eich canlyniadau TGAU neu ganlyniadau arholiadau eraill yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn disgwyl amdanyn nhw, neu ganlyniadau arholiad cerdd neu ddawns. Mae’n bosib cymharu’r rhain i gyd â’r aros a’r disgwyl y mae Cristnogion yn ei wneud yn ystod yr Adfent.

Mae Cristnogion yn defnyddio’r Adfent i gyfrif y dyddiau at enedigaeth Iesu. Mae Cristnogion yn credu mai Iesu oedd y Meseia, neu’r un dewisedig. Mae’n gyfnod pwysig iawn iddyn nhw, mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol.

Amser i feddwl

Arweinydd:Mae’r Adfent yn gyfnod o aros, edrych i mewn arnoch chi eich hunan, ac edrych ymlaen. Mae’n ymwneud ag edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf ac ystyried sut rydych chi wedi ymddwyn. Sut mae pethau wedi mynd i chi, ac a ydych chi wedi gwneud popeth oeddech chi eisiau ei wneud? Ac yn achos Cristnogion, ydyn nhw wedi dilyn eu ffydd a gwneud yr holl bethau iawn y mae Duw wedi gofyn iddyn nhw eu gwneud?

Felly, pan fyddwch chi’n agor y ffenestri ar eich calendr Adfent – rwy’n siwr fod gan bob un ohonoch chi galendr, pa un ai oes siocledi ynddo ai peidio – peidiwch â meddwl mai dim ond cyfri’r dyddiau nes y cewch chi eich anrhegion ydych chi. Cofiwch ei fod yn amser i fyfyrio a meddwl am y flwyddyn a aeth heibio. Yn ogystal, meddyliwch pam fod calendrau Adfent yn cael eu defnyddio: maen nhw’n dysgu Cristnogion fod aros, disgwyl a pharatoi, lawn mor bwysig, os nad yn bwysicach, na’r digwyddiad ei hunan.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i sylweddoli pa mor bwysig yw aros, a pham ei bod hi’n aml yn well bod yn amyneddgar.
Dysga ni i baratoi ein hunain ar gyfer y digwyddiadau a ddaw, a dysga ni i ddeall gwerth myfyrio.
Yn ystod cyfnod yr Adfent eleni, dysga ni i aros, a myfyrio ar y pethau sy’n bwysig yn ein bywyd.
Boed i’r Nadolig fod hyd yn oed yn well oherwydd ein bod wedi cymryd amser i baratoi ar ei gyfer.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw garol Nadolig.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon