Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tymor Newydd, Ysgogiad Newydd!

gan Tim and Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr, sy’n dychwelyd i’r ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol newydd arall, i ddatblygu’r arferiad o wneud eu gorau a dal ati i wneud eu gorau bob amser.

Paratoad a Deunyddiau

  • Potel o Lucozade, neu o ddwr.
  • Llun o dyrfa mewn marathon yn annog rhedwyr ymlaen.
  • Beibl.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y botel Lucozade, y llun o’r dyrfa yn y marathon, a’r Beibl, a gofynnwch: ‘Pa un yw’r un od, yma?’ Mewn gwirionedd, cwestiwn tric yw hwn - er bod y Beibl yn ymddangos fel rhywbeth sydd ddim yn gysylltiedig â’r pethau eraill, nid dyna’r ateb. Does dim un yn wahanol am fod rhywbeth yn gyffredin yn y tri pheth. Mae’r tri yn cynnig help i rywun sy’n rhedeg ras. Mae’r ddau beth cyntaf yn cynnig help corfforol a help seicolegol i redwyr, ac mae’r trydydd peth - y Beibl - yn cynnig help ysbrydol mewn ras o fath gwahanol. Mae’r Beibl yn cyffelybu bywyd ei hun i ras. Mae llawer o gynnwys y Beibl yn ein hannog ar ein ffordd ymlaen, ac yn enwedig i ddal ati trwy adegau anodd, pan fyddwn ni’n cael anawsterau, ac mae’n ein harwain i ddod o hyd i egni newydd er mwyn byw bywyd llawn.

  2. Dychmygwch eich bywyd cyfan o’ch blaen fel marathon, fel ras bywyd.

    -  Tra byddan nhw’n hyfforddi ar gyfer marathon, fe fydd athletwyr yn dechrau trwy ymarfer rhedeg pellter heb fod yn rhy hir, ac yna’n cynyddu’r hyd i bellter mwy. Mae’r flwyddyn hon sydd o’ch blaen chi yn debyg i un o’r ymarferion rheini o redeg pellter heb fod yn rhy hir. Yn y flwyddyn sydd i ddod, fe fyddwch chi’n ymarfer ar gyfer y blynyddoedd sydd o’ch blaen yn y dyfodol yn yr ysgol ac ar gyfer pellteroedd pellach eich bywyd gwaith.

    -  Wrth redeg ras, rhaid cymryd un cam ar y tro. Rydych chi eisoes wedi gwneud cynnydd yn y blynyddoedd a fu, hyd yn oed os nad ydych chi’n ymwybodol o hynny. Mae pob diwrnod yn gam ymlaen.

    -  Wrth redeg ras, fe fydd rhai athletwyr yn cyrraedd pwynt lle byddan nhw’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi - fe fyddan nhw’n dod at y wal ddiarhebol honno ac yn teimlo eu bod yn gorfforol yn ‘hitting the wall’ - mae eu lefelau egni yn isel ac maen nhw wedi colli’r gallu i ganolbwyntio ar gyrraedd y llinell derfyn. Mewn blynyddoedd blaenorol yn yr ysgol, efallai bod rhai ohonoch heb ymdrechu i weithio’n galed iawn, ond eleni, ar ddechrau’r flwyddyn ysgol a’r tymor newydd yma, fe allwch chi wneud adduned o’r newydd. Fel yr athletwyr mewn marathon, pan fyddwch chi’n taro’r wal honno, a phethau’n ymddangos fel eu bod yn mynd o chwith, fe allwch chi benderfynu gwneud eich gorau, parhau i ganolbwyntio, a dal ati.

  3. Gwnaeth Prifysgol Chicago arolwg pum mlynedd ar yr ugain perfformiwr gorau mewn gwahanol feysydd yn cynnwys cerddorion, athletwyr, cerflunwyr, mathemategwyr, meddygon, actorion, artistiaid, ysgolheigion a phrif weithredwyr. Fel rhan o’r arolwg, fe holwyd teuluoedd ac athrawon y bobl lwyddiannus hyn er mwyn gweld beth oedd yn cyfrif am eu llwyddiant. Fe wnaethon nhw ddarganfod mai egni a phenderfyniad a oedd yn bennaf gyfrifol am eu llwyddiant, yn fwy na’u doniau hyd yn oed! Dyna ddangos pa mor bwysig yw dal ati. Mae unrhyw un sydd wedi gwneud unrhyw beth gwerth chweil erioed yn meddu ar y rhinweddau yma - penderfyniad a dyfalbarhad.

  4. Daliwch ati a pheidiwch ag ildio. Yn y flwyddyn ysgol newydd hon, byddwch yn benderfynol ac yn barod i ddyfalbarhau er mwyn gweithio’n galetach a gwneud eich gorau glas. Mae datblygu dyfalbarhad yn debyg i arddwr yn tyfu blodau hardd - mae dyfalbarhad yn rhywbeth y mae’n rhaid ei feithrin. Y cam cyntaf i’w gymryd wrth feithrin dyfalbarhad yw  dileu dau elyn pennaf (yn debyg i’r ffordd y mae garddwr yn defnyddio chwynladdwr a  phelenni lladd malwod i gael gwared â phethau sy’n bla!).

    Y gelyn cyntaf yw’r duedd i roi’r gorau iddi’n rhy hawdd. Efallai eich bod wedi dechrau peidio rhoi mwy o ymdrech yn eich gwaith. Neu efallai eich bod yn teimlo eich bod yn anobeithiol. Ond, meddyliwch am y rhai hynny sydd, trwy benderfyniad a dyfalbarhad, wedi llwyddo i wneud pethau hynod pan fyddai llawer un wedi rhoi’r gorau iddi ar ddim.

    Yr ail elyn yw’r gred y dylai bywyd fod yn hawdd. Y gwir yw, mae bywyd yn gallu bod yn anodd ar adegau. Fe fydd pob un ohonom yn wynebu tristwch a methiant, ac yn cael ein rhoi ar brawf o dro i dro, ochr yn ochr â phrofi dro arall adegau o hapusrwydd a llwyddiant.

Amser i feddwl

‘Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo’ (Galatiaid 6.9).

Yn syml, trwy ddal ati i wneud rhywbeth, a gwneud ein gorau, fe allwn ni ‘fedi’r cynhaeaf yn ei amser’, pa un ai ydi hynny’n golygu cynhaeaf o ganlyniadau gwell mewn arholiadau, neu efallai’n gynhaeaf o berthnasoedd gwell gyda’r rhai sydd o’n cwmpas.

Pa ‘gynhaeaf’ fyddech chi’n hoffi iddo lwyddo yn eich achos chi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod?

Gweddi

Arglwydd, diolch nad wyt ti, wrth i ti ymwneud â ni, byth yn rhoi’r gorau iddi.
Helpa ni i beidio â rhoi’r gorau i wneud y pethau
rwyt ti eisiau i ni eu gwneud gyda’n bywydau.
Helpa ni i ddyfalbarhau yn ein gwaith
a helpa ni i fod yn benderfynol o wneud ein gorau.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon