Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wna I Neu Wna I Ddim?

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith bod gennym ddewis, a meddwl am y syniad o ewyllys rhydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un darllenydd.
  • Darlleniad o’r Beibl: Genesis 3.1–13.

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch fod eich teulu wedi dewis prynu ci bach. Rydych yn rhoi’r enw Twmi arno. Nid yw Twmi wedi cael ei hyfforddi felly rydych yn penderfynu mynd ag ef i ddosbarthiadau hyfforddiant. Mae hyn yn mynd yn dda, rydych chi a Twmi yn gyntaf yn y dosbarth, ac rydych yn pasio’r prawf gyda llwyddiant ysgubol. Nawr, yr ydych yn teimlo y gallwch fynd ag ef am dro o amgylch y parc a’i adael yn rhydd oddi ar ei dennyn, yn y sicrwydd y bydd yn dychwelyd atoch pan fyddwch yn galw arno. 

    Rydych chi wrth eich bodd yn ei weld yn llamu i ffwrdd; mae’n sicr yn mwynhau cael bod yn rhydd i wneud fel mae’n dymuno. Rydych chi’n edrych arno am dipyn; yn parhau’n hyderus y daw yn ôl atoch chi pan fyddwch chi’n galw arno. Yna, rydych chi’n gweld person arall yn mynd â’i gi am dro, ac nid ydych yn siwr sut y bydd Twmi yn ymddwyn, felly rydych yn ei alw’n ôl atoch, yn barod gyda rhyw damaid bach blasus i’w wobrwyo pan ddaw yn ei ôl yn ufudd atoch chi. Rydych chi’n teimlo’n hunanfoddhaol - wedi’r cyfan, fe weithiodd pethau mor wych yn y dosbarthiadau hyfforddi cwn bach - ac rydych chi’n galw arno: ‘Twmi, Twmi’.

    Ond, ac mae yna ond bob amser, dydi o ddim yn dod yn ei ôl atoch chi. Rydych chi’n dechrau chwibanu, ond i Twmi mae’r ci arall yn llawer mwy diddorol na chi. Nawr, mae’n rhaid i chi redeg i’w nôl, yn rhwystredig, gyda’ch galwadau arno yn mynd yn fwy llym wrth iddo redeg i ffwrdd oddi wrthych. Am gêm hwyliog iddo fo, ac am brofiad blin a chwithig i chi! Ar ôl yr holl amser a’r egni yn ei hyfforddi, mae o wedi eich anwybyddu chi!

  2. Rhwystredig. Does gen i ddim amheuaeth y bydd rhai ohonoch yn sicr o fod yn galw i gof eich profiadau eich hun wrth glywed hyn.  Greddf y ci, fodd bynnag, oedd ymddwyn yn y ffordd y gwnaeth, a mynd i snwffian o gwmpas y ci arall.  Er na wnaeth benderfyniad i ddewis bod yn anufudd i chi, ac yntau’n ymwybodol o hynny, roedd yna rywbeth oddi mewn iddo, yr oedd yr hyfforddiant wedi ceisio ei ffrwyno, wedi gwneud iddo ddewis dilyn ei reddf.

  3. Nid yw hyn yn rhyw lawer gwahanol i’r modd yr ydym ni fel bodau dynol yn ymddwyn: mae gennym ni i gyd ein greddfau, ac rydym i gyd yn gwneud dewisiadau bob dydd, rhai weithiau’n ddewisiadau ymwybodol, dro arall yn anymwybodol.  Mae rhai o’r dewisiadau hyn yn bwysicach na’r rhelyw o ddewisiadau a wnawn. Mae gennym, fodd bynnag, ewyllys rhydd i wneud y dewisiadau hynny yn union fel y dewisodd Twmi’r ci redeg i ffwrdd. ‘Ewyllys rhydd’ yw’r enw a roddir gan athronwyr ar y rhyddid hwn i wneud dewisiadau; gall egluro pam y mae rhai pobl yn penderfynu gwneud rhai pethau, a phaham y mae’r ddynoliaeth yn aml yn gwneud y dewis i niweidio neu frifo’r naill a’r llall.

  4. O ble y daw’r syniad yma? Gadewch i ni, yn y fan yma, ystyried y stori gyfarwydd honno am Adda ac Efa.

    Gofynnwch i’ch darllenydd ddarllen Genesis 3.1-13.

    Felly, fel y gwelwch chi, fe wnaeth Efa ddewis. Fe ddefnyddiodd ei hewyllys rhydd i fwyta’r afal o’r goeden wybodaeth dda a drwg. Fe wnaeth hi wedyn ei gynnig i Adda, ac fe ddewisodd yntau ei gymryd. Gan hynny, fel mae’r stori’n ein haddysgu, mae dynolryw wedi cael ei staenio am byth gyda’r syniad o ‘bechod gwreiddiol’, oherwydd bod Efa wedi defnyddio’i hewyllys rhydd i wneud ei phenderfyniad, ar ôl iddi wrando ar y sarff.  Ond ai bai Efa’n gyfan gwbl oedd hyn? Onid yw hi’n debyg mewn ffordd i’r ci bach Twmi yn y dechrau? Ai’r cyfan yr oedd hi mewn ffordd yn ei wneud oedd dilyn ei greddf?

  5. Nawr, pawb ohonoch, codwch eich dwylo. Ymhen ychydig o eiliadau, gwasgwch un o’ch dwylo, cau’r dwrn yn dynn (rhowch ryw ddeg eiliad iddyn nhw). Efallai eich bod wedi cymryd penderfyniad ymwybodol pa law yr oeddech am ei gwasgu - fe ddywedodd eich ymennydd, ‘Dwi’n credu y byddaf yn gwasgu’r llaw dde [chwith]’, neu rywbeth tebyg i hynny. Ond, a oeddech chi’n gwybod hyd at chwe eiliad cyn i chi wasgu’r llaw yr oeddech wedi ei dewis, bod y rhan anymwybodol o’ch ymennydd wedi gwneud y penderfyniad drosoch chi?

  6. Felly a yw ein hewyllys rhydd yn rhywbeth na allwn ni yn wirioneddol ei helpu - ai ein greddf neu rywbeth sy’n mynd yn ddyfnach na hynny sydd i gyfrif am y penderfyniadau a wnawn? Rydym wedi esblygu yn y fath fodd fel bod gennym ryddid i wneud ein penderfyniadau ein hunain, waeth pa mor anghywir y gallan nhw ymddangos i eraill. 

    Tydi hyn ddim yn rheswm dros bawb ohonoch ymddwyn yn ddrwg yn eich gwers gyntaf, ac yna dweud wrth eich athro/athrawes mai’r rheswm am hynny yw eich bod yn dilyn eich greddf ac yn ymarfer eich ewyllys rhydd. Mae hyn, fodd bynnag, yn ffordd resymol i ystyried y broblem o ddrygioni a dioddefaint yn y byd. Er nad yw hyn o reidrwydd yn gwneud synnwyr, y mae’n caniatáu i ni weld llawer mwy na’r hyn y byddem ar yr olwg gyntaf y pethau hynny sy’n effeithio ar y penderfyniadau a wna dynolryw.

  7. Fel bodau dynol, yr ydym yn meddu ar y gallu yma i wneud penderfyniadau ymwybodol, yn aml rhwng gwneud y peth iawn a gwneud y peth drwg. Yn achos Efa, fe wnaeth hi’n sicr ddigon y dewis anghywir. Ys gwn i beth fyddai wedi digwydd pe byddai Adda wedi dweud ‘na’?

Amser i feddwl

Gad i mi weld fod y dewisiadau yr wyf fi yn eu gwneud yn gallu effeithio ar lawer iawn o bobl, nid fi fy hun yn unig.
Gad i mi ddeall fod fy ewyllys rhydd yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio i wneud pethau da yn ogystal â phethau drwg, a gad i mi wneud y dewis cywir rhwng y ddau.

Amen

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon