Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Parch A Chyfrifoldeb

gan Ian Swain (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried y rhesymau dros barchu, a’r cyfrifoldeb sy’n ymwneud â hynny.

Paratoad a Deunyddiau

Os hoffech chi ddefnyddio cyflwyniad i gyd-fynd â’r  gwasanaeth yma fe allech chi lwytho fersiwn Saesneg o’r cyswllt yma: Powerpoint Presentation: Respect and Responsibility. Mae pob pwynt yn y gwasanaeth yma wedi’i gysylltu â’r sleid sydd â’r un rhif.
(Mae Microsoft yn darparu yn rhad ac am ddim, free viewer for PowerPoint presentations. Mae rhaglenni eraill, fel Open Office hefyd yn gallu arddangos ffeiliau PowerPoint.)

Gwasanaeth

  1. Pwy rydyn ni’n eu parchu? Pa gyfrifoldebau sy’n dod gyda’r math yma o barch? Gadewch i mi roi rhai syniadau i chi y gallech chi gytuno, neu anghytuno, â nhw …

  2. Llawfeddyg:  Gall llawfeddygon ddal eich bywyd yn eu dwylo - mae hyn yn gyfrifoldeb enfawr - a rhaid i ni fod ag ymddiriedaeth hollol yn eu barn a’u gallu. Rhaid i ni fod â ffydd ynddyn nhw. Mae’r llawfeddyg yn ennill parch oherwydd hyn.

  3. Rhieni: Mae gan eich rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi, gyfrifoldeb mawr am fod ganddyn nhw reolaeth gyffredinol ar eich bywyd: Ydyn nhw’n gwneud hyn mewn ffordd gyfrifol? - pwy sy’n dweud?

  4. Peilot awyren: Mae gan y bobl sy’n hedfan awyrennau gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau allai achub bywydau, a hynny gyda channoedd o fywydau yn dibynnu arnyn nhw. Dyma gyfrifoldeb mawr iawn eto. Felly, ydyn nhw’n haeddu ein parch?

  5. Athro neu athrawes: Mae’r rhan fwyaf ohonoch chi’n parchu’r rhan fwyaf o’ch athrawon, am eich bod yn ymddiried ynddyn nhw - yn gallu eu trystio, ac am eu bod yn deg, fel rheol. Hefyd, maen nhw’n eich parchu chi, ac maen nhw’n barod i dreulio amser i’ch helpu chi ddysgu sgiliau newydd. Gydag ymddiriedaeth fel hyn, daw cyfrifoldeb – mae pobl yn disgwyl pethau mawr gennych chi. Beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn methu cyflawni’r pethau y mae pobl eraill yn disgwyl iddyn nhw’u gwneud?

  6. Swyddogion yr heddlu: Mae’r heddlu’n gyfrifol am ofalu ein bod yn ddiogel ar y stryd ac yn ein cartrefi. Rhaid iddyn nhw beryglu eu bywydau eu hunain yn aml, a gwneud penderfyniadau yn sydyn, sy’n effeithio ar fywydau pobl eraill. Mae llawer o bobl yn parchu’r gwaith y mae’r heddlu yn ei wneud. Mae parch felly’n dod â chyfrifoldeb mawr.

  7. Mae gweithredoedd difeddwl yn gallu arwain at golli parch: Dyma lun (o’r cyflwyniad) swyddog o’r heddlu Buffalo, o’r enw Robert Johnson yn tagu Mike Niman, a oedd yn tynnu lluniau Heron Simmonds, yr athro diwinyddol, yn cael ei arestio ar Mai 30, 2003. Mae un swyddog sy’n ymddwyn yn anghyfrifol yn gallu gwneud niwed mawr i’r llu cyfan. Canlyniad hyn yw colli parch a hynny’n arwain at broblemau. Mae’n gwneud bywyd yn anoddach i swyddogion sy’n uchel eu parch, ac yn creu sefyllfaoedd annedwydd.

  8. Charles Kennedy oedd arweinydd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol hyd fis Ionawr 2006. Roedd problem diod ganddo, ond roedd yn gwadu’n gyhoeddus ei fod yn dioddef o’r broblem bersonol yma. Roedd wedi ymddangos yn feddw mewn cyfweliadau, ond roedd yn parhau i wadu’r peth. Yn y diwedd, mynnodd ei barti ei fod yn ymddiswyddo am ei fod wedi bradychu eu hymddiriedaeth ynddo. Mewn gwirionedd, roedd wedi ymddwyn yn anghyfrifol, ac fe gostiodd yn ddrud iddo - fe gollodd ei swydd. Mae parch felly’n dod â chyfrifoldeb mawr.

  9. Nawr, dylai pob un ohonom feddwl amdanom ein hunain: ‘Ydw i’n ennill parch pobl eraill? Gartref? Yn yr ysgol? Yn y gwersi? O gwmpas yr ysgol? Ar y bws? Yn fy ardal leol? – pwy? – pam?’ – Meddyliwch – ‘Pa gyfrifoldeb mae’r parch yma’n ei roi arnaf fi?’

  10. Cofiwch: does dim posib dysgu parch, na’i brynu, na’i gaffael – dim ond ei ennill. Beth allwch chi ei wneud heddiw i ennill parch?

Amser i feddwl

Gweddi:

Arglwydd Iesu,
Rydyn ni’n clywed y gair ‘parch’ yn aml, ond heb fod bob amser yn deall ei ystyr.
Dysga ni sut i ennill parch pobl eraill trwy wneud yr hyn yr hoffet ti i ni ei wneud.
Helpa ni i ymarfer y cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r parch yma,
Ac arwain ni yn ffyrdd dy Deyrnas.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon