Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Happy Birthday, Guru Nanak!

Archwilio sut mae Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd Guru Nanak.

gan Helen Bryant (revised, originally published in 2009)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio sut mae Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd Guru Nanak.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llun o Guru Nanak (gwelwch http://images.google.co.uk/images am ddewis helaeth os nad oes gennych chi lun yn eich adran Addysg Grefyddol. Cofiwch am delerau hawlfraint).

  • Dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Oes rhywun yn cael ei ben-blwydd heddiw? (Mwy na thebyg y cewch chi o leiaf un yn codi ei law neu ei llaw i fyny.)

    Wel, pen-blwydd hapus i chi! Wyddech chi eich bod chi’n rhannu’r un pen-blwydd â thua 18 miliwn o bobl? Ac yn fwy na hynny, rydych chi’n rhannu’r un pen-blwydd â rhywun sy’n arbennig iawn yng ngolwg pobl sy’n dilyn y grefydd Sikhiaeth. Rydych chi’n rhannu’r un pen-blwydd â sylfaenydd y grefydd, sef y Guru Nanak. Ond, fe fydd Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd y Guru Nanak ym mis Ebrill hefyd. Dyna dda, cael dau ben-blwydd!

  2. Sikhiaeth yw’r ieuengaf o chwe phrif grefydd y byd, a’r Guru Nanak oedd yr un wnaeth ei sefydlu. Fe’i ganwyd yn y flwyddyn 1469, i deulu dosbarth canol Hindwaidd yn rhanbarth Punjab o Pakistan. Ar y pryd, roedd gwrthdaro rhwng Hindwaid a Mwslimiaid ynghylch crefydd pwy oedd yr orau. Ar ôl trafod llawer, gyda nifer o wahanol wyr sanctaidd, a dadlau ynghylch ei syniadau, fe wnaeth y Guru Nanak ddarganfod dysgeidiaeth o fath newydd. Ac fe ddigwyddodd hynny’n bennaf ar ôl iddo gael profiad crefyddol arbennig iawn, pryd y gwnaeth ddiflannu wrth iddo ymdrochi. Er i bobl gribo’r afon, ddaeth ei gorff ddim i’r golwg.

  3. Ar ôl tri diwrnod, fe ddaeth Nanak yn ôl. Am un diwrnod roedd yn hollol fud. Ond ar ôl hynny, fe wnaeth ddatganiad ei fod wedi bod yn llys Duw ac wedi cael profiad uniongyrchol o Dduw. Yr unig lwybr oedd i’w ddilyn, meddai ef, oedd llwybr nad oedd yn Hindwaidd nac yn Fwslimaidd, ond yn llwybr Duw. Roedd wedi cael profiad crefyddol dwfn iawn, profiad a oedd wedi newid ei olwg ar fywyd yn llwyr.

  4. Mae Sikhiaid heddiw yn parhau i ddilyn ei ddysgeidiaeth ynghylch mai un Duw sydd, a bod gan bob un ohonom ddarn o Dduw y tu mewn i ni.

  5. Gwrandewch ar y rhannau byr canlynol o’i ddysgeidiaeth, a meddyliwch am sut y gallech chi eu dilyn yn eich bywyd chi eich hun:

    Darllenydd 1: Does dim cyfoethog na thlawd, gwryw na benyw, dim cast uchel na chast isel o flaen Duw. Y cast yw’r adran o gymdeithas rydych chi’n perthyn iddi, ac wedi’ch geni iddi.

    Darllenydd 2: Trwy weithredoedd y mae rhywun yn dod at Dduw. 

    Darllenydd 1: Fel y mae persawr yn byw mewn blodyn, ac adlewyrchiad mewn drych, felly hefyd y  mae Duw’n byw ym mhob enaid. Chwiliwch am Dduw, felly, ynoch chi eich hun.

  6. Arweinydd: Mae’n iawn, felly, bod Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd eu sylfaenydd. Guru Nanak oedd y cyntaf o naw Guru dynol Sikhiaeth, ac mae gan bob un ei ddiwrnod arbennig. Fe fyddan nhw’n cyfeirio at y dyddiau yma fel Gurpurbs, ac mae pob un yn cael ei ddathlu’n frwd iawn gan Sikhiaid. Beth fyddan nhw’n ei wneud wrth ddathlu fel hyn?

  7. Fe fydd Sikhiaid yn dathlu’r Gurpurbs gyda’r Arkhand Path. Gweithgaredd yw hwn lle mae tîm o ddarllenwyr yn darllen llyfr sanctaidd y Sikhiaid, y Guru Granth Sahib, o’i ddechrau i’w ddiwedd heb stopio. Fe fydd hyn yn cymryd tua 48 awr. Fe fydd y darllenwyr yn cymryd eu tro i ddarllen am tua dwy neu dair awr yr un, ac fe fyddan nhw’n darllen trwy’r nos! Fe fydd y darllen yn dod i ben ar ddydd yr wyl. Mae hyn yn amser hir, ond mae’r Sikhiaid yn gweld hyn fel ffordd o addoli a dangos eu hymroddiad. Fel arfer, fe fydd hyn yn digwydd yn y gurdwara, sef teml, neu fan addoli, y Sikhiaid.

  8. Mae’r gurdwara yn cael sylw arbennig yn y Gurpurbs hefyd. Ar ddydd pen-blwydd y Guru Nanak, fe fydd y gurdwara’n cael ei haddurno’n hyfryd â blodau, baneri a goleuadau. Fe ddaw’r Sikhiaid at  ei gilydd, fel un, yn y gurdwara, gan wisgo’u dillad gorau. Fe fyddan nhw’n ymuno ynghyd yn y langar, neu’r ystafell fwyta gymunedol, a bwyta pryd o fwyd gyda’i gilydd i ddathlu pen-blwydd eu sylfaenydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch yn ôl at hanes y profiad a newidiodd fywyd Guru Nanak mor llwyr. Rwy’n siwr y gall pob un ohonoch chi feddwl am brofiadau sydd wedi dod i’ch rhan chithau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd, neu wedi gwneud ichi feddwl am bethau mewn ffordd arall. Meddyliwch am y profiad hwnnw yn awr, a meddyliwch am y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i hynny wedyn. Fe sylweddolodd Guru Nanak bod ei brofiad wedi effeithio cymaint arno fel ei fod yn teimlo bod angen iddo arwain pobl eraill wedyn i ddilyn yr un llwybr .

Gwrandewch ar ddwy ddysgeidiaeth a roddodd Guru Nanak i ni:

Darllenydd 1: Trwy weithredoedd y mae rhywun yn dod at Dduw.

Darllenydd 2: Fel y mae persawr yn byw mewn blodyn, ac adlewyrchiad mewn drych, felly hefyd y  mae Duw’n byw ym mhob enaid. Chwiliwch am Dduw, felly, ynoch chi eich hun.

Ewch ag un o’r syniadau yma gyda chi heddiw, a cheisiwch feddwl am yr hyn mae’n ei olygu. Gobeithio y daw’r heddwch y gwnaeth Guru Nanak ei ddarganfod ddod i’ch bywyd chi heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon