Lle I Wella?
Meddwl am adroddiadau ysgol, a sut mae’n bosib newid eich dyfodol, er gwell.
gan Joanne Sincock
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Meddwl am adroddiadau ysgol, a sut mae’n bosib newid eich dyfodol, er gwell.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi.
Gwasanaeth
- Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd eich athrawon yn brysur yn ysgrifennu eich adroddiadau diwedd blwyddyn. Gall hon fod yn dasg anodd. Mae’n bosib bod llawer o athrawon yn gorfod ysgrifennu cannoedd o adroddiadau mewn amser byr. Mae ceisio meddwl am rywbeth gwreiddiol i’w ddweud yn anodd, yn enwedig pan fydd angen dweud rhywbeth am ddisgyblion sydd efallai heb wneud cystal â’r disgwyl.
- Efallai bod yr adeg yma o’r flwyddyn yn gallu bod yn adeg bryderus i nifer o ddisgyblion ysgol hefyd. ’Sgwn i sut rydw i wedi gwneud eleni? Ydw i wedi gwella ers y llynedd? Beth fydd gan fy rhieni i’w ddweud wrth ddarllen fy adroddiad?
- Wrth gwrs, nid yw’r teimladau yma’n unrhyw beth newydd. Ar hyd y blynyddoedd, mae plant wedi pryderu wrth feddwl am yr adroddiad blynyddol ar eu gwaith, eu hymdrech, a’u hymddygiad.
- Ym mhenodau cyntaf y llyfr Matilda gan Roald Dahl, mae’r awdur yn disgrifio sut mae rhieni, weithiau, yn meddwl bod cyflawniad eu plant yn cyrraedd lefel athrylith. Mae Dahl, sy’n synnu at y fath ‘ffwlbri’, yn awgrymu y dylai athrawon chwarae’n frwnt pan fyddan nhw’n ysgrifennu adroddiadau. Yn lle dweud fod plentyn yn cael anhawster â’i waith, mae Roald Dahl yn awgrymu y dylai’r athro ysgrifennu ei fod yn ‘hollol anobeithiol’, a phethau felly. Mae Dahl yn dweud pe byddai ef ei hun yn athro, y byddai wrth ei fodd yn cael ysgrifennu adroddiadau diwedd tymor am y plant drwg yn ei ddosbarth.
- Ond dyma rai dyfyniadau o adroddiadau go iawn am unigolion, ddaeth wedyn yn bobl adnabyddus iawn. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd y rhain, tybed allwch chi ddyfalu at bwy mae pob dyfyniad yn cyfeirio:
- ‘Certainly on the road to failure … hopeless … rather a clown in class … wasting other pupils’ time.’
(Un o’r cerddorion mwyaf llwyddiannus erioed: Y Beatle, John Lennon.) - ‘Is a constant trouble to everybody and is always in some scrape or other. He cannot be trusted to behave himself anywhere. He has no ambition …’
(Syr Winston Churchill: y Prydeiniwr mwyaf erioed, yn ôl pleidlais y bobl yn ddiweddar.) - ‘I have never met a boy who so persistently writes the exact opposite of what he means. He seems incapable of organising his thoughts on paper!’
(Roald Dahl: yr awdur llyfrau plant mwyaf poblogaidd erioed, o bosib.) - Mae’r sylwadau yma am bob un o’r tri yn rhai llym iawn, a chawn ni byth wybod a oedd y tri yn haeddu’r fath feirniadaeth. Ond fe wyddom, er hynny, bod y tri yn ddiweddarach yn eu bywydau wedi cyflawni pethau ardderchog iawn.
- Efallai bod hyn yn golygu bod gobaith i’r disgyblion rheini sy’n cael adroddiadau gwael. Efallai mai trwy waith caled a dyfalbarhad y daw’r llwyddiant. Trwy ddal ati, gwneud ein gorau, a chwblhau ein tasgau dyddiol, mae’n bosib i ni gyrraedd ein gwir botensial.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Pa fath o adroddiad rydych chi’n gobeithio ei chael?
Pa fath o adroddiad ydych chi’n meddwl eich bod yn ei haeddu?
Pa fath o adroddiad ydych chi’n meddwl gewch chi?
Beth bynnag fydd y sylwadau yn eich adroddiad, ceisiwch bob amser:
Weithio’n galed,
i wneud eich gorau,
a pheidio â rhoi’r gorau iddi, BYTH.
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Dydyn ni ddim yn hoffi pobl yn ein barnu ac yn ein cael yn brin,
Helpa ni i ofalu ein bod yn ymdrechu yn ein gwaith,
yn gwneud ein gorau glas,
ac yn ceisio llwyddo, bob amser.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2005 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.