Y Neges
Ystyried pwysigrwydd dal ati , a gwerth cyfathrebu.
gan Stuart Yeates
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried pwysigrwydd dal ati , a gwerth cyfathrebu.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi ymarfer y Cod Morse.
Darlleniad o’r Beibl
Numeri 23.23
Gwasanaeth
- Dychmygwch fyd heb deledu, ffôn, e-bost na rhyngrwyd. Yr unig ffordd o gyfathrebu â phobl eraill yng ngwahanol wledydd y byd fyddai trwy lythyr neu drwy siarad wyneb yn wyneb â nhw.
- Yn 1830, fe gymerai 5–8 mis i lythyr o Brydain gyrraedd India! Dychmygwch hynny – erbyn y byddech chi’n clywed newyddion am rywbeth oedd wedi digwydd ym mhen arall y byd, doedd y digwyddiad hwnnw’n ddim ond atgof bron gan y bobl oedd yn ymwneud â’r peth. Erbyn 1879, fe allech chi anfon telegram fyddai’n cyrraedd Bombay mewn 5 awr. Roedd hynny’n welliant sylweddol iawn, ond eto doedd y neges ddim yn cyrraedd ar ei hunion yn hollol.
- Y ddyfais a’i gwnaeth hi’n bosib i ni gael negeseuon oedd yn cael eu trosglwyddo’n gyflym oedd y telegraff, a’r un a ddyfeisiodd y telegraff oedd Samuel Morse, yn 1844. Dyfeisiodd Morse fath o god arbennig hefyd, wedi’i wneud o ddotiau a llinellau toriad, yr oedd yn bosib ei anfon ar hyd gwifren delegraff, a’r cod yn cael ei ddatgodio, neu ei ddatrys, ar y pen arall.
- Er enghraifft:
(tapiwch y neges Cod Morse yma: . . . . . .–. . .–. . – – – ).
‘Hello’ yw’r neges yma, mewn Cod Morse. - Mab i weinidog Cristnogol oedd Samuel Morse, a byddai wrth ei fodd yn astudio’r Beibl. Sefydlodd Samuel un o ysgolion Sul cyntaf America, ac ef oedd ei harweinydd.
- Yn 1818, pan oedd yn 27 oed, fe briododd â merch o’r enw Lucretia. Saith mlynedd yn ddiweddarach aeth i Washington DC i weithio fel arlunydd. Ond, oherwydd diffyg cyfathrebu cyflym, roedd Lucretia wedi marw ac wedi’i chladdu cyn i Samuel Morse dderbyn y llythyr oedd yn rhoi gwybod iddo bod ei wraig yn wael. Sbardunodd y drasiedi hon Samuel i ddod o hyd i ffordd gyflym o drosglwyddo newyddion.
- Ond cyn gallu cyflawni ei ddyfais, bu sawl peth yn rhwystr i Morse. Er enghraifft, yn ystod ei arddangosiad cyntaf o’r telegraff, yn 1842, roedd wedi gosod gwifren ar draws harbwr yn Efrog Newydd, ond cyn iddo allu cwblhau ei drosglwyddiad, fe fachodd angor llong yn y wifren a’i thorri.
- O'r diwedd, yn 1844, fe gododd Morse gyfres o wifrau oedd yn rhedeg uwchben, rhwng Washington DC a Baltimore, a throsglwyddo’r neges: ‘What hath God wrought!’ Dyma eiriau wedi’u cymryd o lyfr Numeri yn y Beibl, ‘Gwaith Duw yw hyn.’ Dywedodd Morse mai gwaith Duw oedd y telegraff. Dywedodd fod Duw wedi ei gynnal a’i gario bob cam trwy ei holl dreialon ac wedi ei alluogi i orchfygu pob math o anawsterau, ffisegol a moesol, oedd yn ei rwystro rhag cyflawni ei waith.’
- Dyma sut y swniai’r neges honno gafodd ei throsglwyddo gyntaf erioed trwy gyfrwng y telegraff (tapiwch y neges):
.– – . . . . . – – / . . . . .– – . . . . / – –. – – – –. . / .– – .–. – – – . .– – –. . . . . – . .– –. . - Wedi clywed neges Morse, sef ‘Gwaith Duw yw hyn’ neu ‘What has God wrought’, fe wnaeth y bobl ymateb mewn sawl ffordd. Ar y pryd, roedd rhai yn hyderus mai rhodd gan Dduw oedd y telegraff er mwyn datblygu cyfathrebu mwy effeithiol yn gymunedol ac yn fyd-eang, roedd rhai eraill yn amheus ac yn sinigaidd iawn.
- Er hynny, tra roedd rhai yn hyderus a rhai yn amheus, roedd nifer fach o rai oedd yn gallu gweld ymhell yn ymwybodol o botensial y dechnoleg newydd.
- Trwy ymdrechion pobl fel Samuel Morse, oedd yn parhau yn ffyddiog ac a ddaliodd ati yn wyneb llawer iawn o anawsterau, rydyn ni’n gallu mwynhau defnyddio pob math o ddulliau cyfathrebu ac yn gallu cael mynediad at ffynonellau gwybodaeth di ben draw. Mae enghreifftiau o rieni yn dod o hyd i atebion meddygol doedd eu meddyg teulu ddim yn gwybod amdanyn nhw. Gall pobl gysylltu â gwasanaethau brys, dod o hyd i ffrindiau neu aelodau o’u teuluoedd roedden nhw wedi colli cysylltiad â nhw, a hefyd addysgu pobl eraill sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell yn y byd.
- Heddiw mae’r posibiliadau wrth ddefnyddio ffonau symudol a’r rhyngrwyd yn codi’r un math o ymateb mewn pobl ag a gafwyd yng nghyfnod Samuel Morse. Yr unig wahaniaeth yw nad yw pobl heddiw yn debyg o ddiolch i Dduw am y ddyfais. Yn achos Cristnogion, wrth gwrs, mae cyfathrebu’n beth canolog iawn. Yn y dechreuad yr oedd y ‘Gair’, sef Duw yn cyfathrebu â ni.
Amser i feddwl
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Fe greaist ti bopeth trwy dy Air,
Helpa ni i ddefnyddio’r dechnoleg sydd gennym ni
i gyfathrebu ag eraill,
ac i gysuro’r rhai sy’n unig,
Rho obaith i’r rhai sy’n anobeithio,
a rhanna dy gariad ledled y byd.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2005 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.