Amser Yn Hedfan (Tempus Fugit)
Meddwl am amser, a’r ffordd orau i ddefnyddio amser.
gan Annaliese Renda
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Meddwl am amser, a’r ffordd orau i ddefnyddio amser.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi gael cloc berwi wy i ddangos yr eiliadau’n mynd heibio.
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy ddweud: Rydw i’n mynd i oedi am ychydig o eiliadau, nes bydd pawb yn barod i wrando o ddifri. Yna arhoswch yn dawel am 20 eiliad.
- Pa mor hir oedd y saib yna? Oedd hyn yn ymddangos yn amser hir? 20 eiliad yn unig oedd yr amser. Yn ystod y saib yna, fe aeth 20 eiliad heibio – 20 eiliad o’ch bywydau, ac 20 eiliad o fy mywyd innau. Allwn ni byth alw’r eiliadau yna’n ôl – maen nhw wedi mynd am byth.
- Dyna beth yw bywyd, miliynau ar filiynau o eiliadau’n mynd heibio. Ydych chi wedi gwylio cloc yn tipian, gyda’r bys munud yn symud yn araf, fesul eiliad? Mae pob un o’r eiliadau hynny sy’n tipian ymlaen, yn adio i wneud y munudau sy’n mynd yn eu blaenau, a’r oriau sy’n mynd heibio, a’r dyddiau a’r misoedd a’r blynyddoedd.
- Pan fyddwch chi’n teimlo’n ddiflas a heb ddim i’w wneud, mae amser fel petai’n arafu. Bron na chredech chi fod bysedd y cloc yn mynd yn eu holau yn lle mynd ymlaen. Pan fyddwch chi’n ddiflas ac yn ‘bored’, mae’r oriau’n hir. A'r mwyaf diflas fyddwch chi, hiraf yn y byd mae’r munudau a’r oriau’n ymddangos.
- Weithiau, mae’n ymddangos fel petai’r amser ddim yn mynd yn ei flaen o gwbl. Ambell dro, fe allwch chi deimlo fod amser wedi dod i stop hyd yn oed. Er enghraifft, mae rhai pobl sydd wedi bod mewn damwain car yn dweud fod popeth fel petaen nhw wedi arafu, fel mewn ffilm symudiad araf.
- Hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael profiad felly yn eich bywyd, efallai y gallwch chi feddwl am droeon eraill yn eich bywyd, pan rewodd amser fel petai. Er enghraifft, os gwnaethoch chi gicio pêl trwy ffenestr, mae bob amser yn teimlo fel petai’n digwydd yn araf, araf. Nawr, meddyliwch chi am yr adegau rheini rydych chi wedi teimlo fod amser wedi mynd heibio’n araf, o bosib - pan oeddech chi’n disgwyl am rywun, neu’n disgwyl i’r wers olaf ar bnawn dydd Gwener ddod i ben.
- Ond, ar ôl meddwl am hyn, mae hefyd adegau pan fydd pethau’n digwydd yn hollol i’r gwrthwyneb - a’r amser yn hedfan. Fel arfer, fe fydd hyn yn digwydd pan fyddwn ni’n mwynhau ein hunain neu â diddordeb arbennig mewn rhywbeth - gêm bêl-droed, ffilm, neu pan fyddwn ni’n canolbwyntio’n hollol ar beth fyddwn ni’n ei wneud - fel gweithio’n galed mewn arholiad. Rydych chi’n cyrraedd y cwestiwn olaf ac yn edrych ar y cloc, a does dim ond 10 munud o amser ar ôl!
- Felly, er bod gwyddonwyr yn dweud wrthym ni fod amser yn gyson, a bod pob eiliad yr un hyd, a phob awr yr un faint bob tro, o’n safbwynt ni, dydi pethau ddim yn edrych yr un fath bob tro. Dydi hi ddim yn bosib i amser arafu na mynd yn gynt, ond ambell dro, fe fyddwn ni’n meddwl fod hynny’n digwydd.
- Faint o amser sydd gennym ni ar y ddaear yma? Yn y Beibl, mae’n dweud fod pobl yn byw am tua ‘thri ugain a deg o flynyddoedd’, sef 70, er bod pobl yn gyffredinol yn byw yn hyn na hynny erbyn hyn. Ond, o ran diddordeb, gadewch i ni ddychmygu ein bod ni, bob un ohonom ni yn byw nes byddwn ni’n 75 oed. Dyna 75 o flynyddoedd, sef 900 o fisoedd. Mae hynny’n 3,900 o wythnosau, sy’n 27,375 o ddyddiau, ac mae hynny’n 657,000 o oriau, ac, os yw fy symiau’n iawn, yn 39,420,000 o funudau!
- Dyna lawer o amser sydd gennym ni! Ond sut rydyn ni’n defnyddio’r holl amser yma? Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n treulio cyfran dda o’r amser yn cysgu. Fel rheol fe fyddwn ni’n cysgu am tua un rhan o dair o’r amser sydd gennym ni. Ac yna, dyna i chi’r amser fyddwn ni’n ei dreulio yn bwyta, ymolchi, gwisgo, mynd i’r ysgol neu i’r gwaith, yn gwylio’r teledu, yn chwarae gemau, yn darllen, yn gwrando ar gerddoriaeth, yn siopa, yn mynd am dro gyda’n ffrindiau ac yn gwneud pethau fel gwaith cartref.
- Ambell ddiwrnod, pan fyddwn ni’n brysur, mae’n teimlo fel pe byddai dim digon o amser gennym ni i wneud yr holl bethau yma mae gennym ni eisiau eu gwneud. Ar ddyddiau eraill, fe fyddwn ni’n gwastraffu llawer o amser yn breuddwydio, yn gwneud fawr ddim o bwys, ac yn gorweddian yn ein gwelyau, efallai, ar fore Sul!
- Meddyliwch ydych chi’n defnyddio’r amser sydd gennych chi yn ddoeth ac yn dda. Meddyliwch am y ffaith fod amser yn mynd yn ei flaen yn barhaus heb oedi unwaith. Eisoes mae llai ohono ar ôl nag oedd gennym ni ar ddechrau’r gwasanaeth!
- Dychmygwch sut mae eich bywyd yn mynd yn ei flaen yn union fel y tywod yn y mesurydd amser hen ffasiwn y byddai pobl yn ei ddefnyddio ers talwm i gyfri’r munudau neu’r oriau, neu fel yn ein cloc berwi wy ni heddiw. Mae’r tywod yn llifo’n gyson araf a distaw. Mae amser yn beth gwerthfawr iawn. Gadewch i ni ofalu ein bod yn ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Mae amser yn rhodd, mae bywyd yn rhodd - peidiwch â’i gymryd yn ganiataol - gwnewch yn fawr ohono.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Dyma gyfres o ddywediadau am amser.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn treulio’n bywydau yn union fel petai gennym ni un arall wrth gefn yn y banc. (Ben Irwin)
Os ydych chi’n oedi, y cyfan sy’n digwydd yw eich bod yn mynd yn hyn. (Larry McMurtry)
Pan fydd eich holl fywyd yn fflachio o flaen eich llygaid, gofalwch fod gennych chi ddigon i’w wylio. (Anhysbys)
Mae pob diwrnod yn gyfle i greu diweddglo hapus newydd. (Anhysbys)
Breuddwydiwch fel pe byddech chi’n mynd i fyw am byth, ond byw eich bywyd fel pe na bai fory’n bod. (James Dean)
Byddwch yn hapus tra rydych chi’n byw, fe fyddwch chi wedi marw yn hir iawn. (Dihareb o’r Alban)
Gweddi:
Dad Nefol,
Rhodd gen ti i ni yw amser,
Ond mae’n rhodd fregus, rhodd sydd ddim yn para’n hir.
Gad i ni wneud y pethau yr wyt ti eisiau i ni eu gwneud,
yn gydwybodol, yn yr amser rwyt ti’n ei roi i ni,
gan fod amser yn werthfawr, fel mae bywyd yn werthfawr.
Amen.