Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cardiau Melyn

Ystyried cyfarwyddyd Iesu i faddau bob amser.

gan Ann Husband

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried cyfarwyddyd Iesu i faddau bob amser.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim. 

Gwasanaeth

  1. Holwch faint o’r gynulleidfa oedd â diddordeb yn y gemau pêl-droed ar gyfer Cwpan y Byd, yn ôl yn yr haf.  Mae’n debyg y bydd sawl un yn nodi ei fod wedi gwylio rhai o’r gemau.  Holwch yn benodol pwy fu’n gwylio gêm derfynol Grwp F, rhwng Awstralia a Croatia. 

  2. Os bydd rhywun yn cofio’i gwylio, efallai y bydd yn cofio’r gêm, nid yn gymaint oherwydd y chwarae da, ond oherwydd gwaith y dyfarnwr - neu ei ddiffyg, efallai.

  3. Fe fydd rhai yn cofio mai Sais oedd y dyfarnwr, o’r enw Graham Poll.  Roedd rhai yn credu ar y pryd mai ef, o bosib, fyddai’n debygol o ddyfarnu yn y gêm derfynol am Gwpan y Byd.  Roedd wedi bod yn ddyfarnwr ers 26 o flynyddoedd. 

  4. Roedd hynny, wrth gwrs, nes i’r dyfarnwr neilltuol yma, o Tring yn Swydd Hertford:

    (a) anfon y chwaraewyr Brett Emerton o Awstralia, a Dario Simic o Croatia, oddi ar y cae; 

    (b) rhoi cic gosb i dîm Awstralia yn hanner cyntaf y gêm am fod Stjepan Tomas wedi llawio’r bêl, ond methu gweld yr un chwaraewr yn llawio’r bêl yn llawer mwy amlwg yn ystod yr ail hanner; 

    (c) methu gweld Mark Viduka yn cael ei lorio yn y bocs yn ystod yr hanner cyntaf;

    (d) anwybyddu’r ffaith bod Harry Kewell yn camsefyll pan sgoriodd yr ail gôl i Awstralia i wneud y gêm yn gyfartal.

  5. Ond yn waeth na dim, camgymeriad mwyaf  Graham Poll, y dyfarnwr, oedd rhybuddio un o chwaraewyr Croatia, Josip Simunic, dair gwaith – gan ddangos iddo dri cherdyn melyn!

  6. Yn unol â rheolau FIFA, unwaith yn unig y dylid dangos cerdyn melyn i chwaraewr – fe fyddai ail gerdyn melyn yn golygu bod y chwaraewr yn awtomatig yn cael ei anfon oddi ar y cae.   Felly un cyfle y mae peldroediwr yn ei gael cyn y bydd yn ei ôl yn yr ystafell newid gyda cherdyn coch.

  7. Camgymeriad Mr Poll oedd maddau i Simunic ormod o weithiau, rhoi sawl cyfle iddo, a thrwy hynny ddifetha ei enw da ei hun.  Bu’n rhaid iddo ymadael â chystadleuaeth Cwpan y Byd, a gorfodwyd ef i ymddeol o fod yn ddyfarnwr mewn gemau rhyngwladol.
     
  8. Felly, sawl tro y dylem ni faddau i rywun sydd wedi gwneud rhywbeth o’i le? Fe ofynnodd un o ddisgyblion Iesu, sef Pedr, gwestiwn fel hwn iddo:

    ‘“Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?” Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.”’

  9. Wrth ddweud hyn, doedd Iesu ddim yn golygu maddau 490 o weithiau’n llythrennol.  Yn hytrach, roedd yn golygu y dylem ni faddau bob amser i’r rhai sy’n edifarhau o ddifrif am yr hyn maen nhw wedi’i wneud.

  10. Adroddodd Iesu ddameg y Gwas Anfaddeugar i ddarlunio’r hyn roedd yn ei olygu.  (Darllenwch Mathew 18.23–35.)

  11. Eglurwch, er mai camgymeriad oedd maddeuant Graham Poll i Simunic, camgymeriad y bu’n rhaid iddo dalu’n ddrud amdano, mae’r syniad y dylem ni roi cyfle arall i rywun yn unol ag ysbryd Teyrnas Nefoedd. 

Amser i feddwl

Myfyrdod:
(1) Gofynnwch i’ch cynulleidfa dawelu ac, o bosib, gau eu llygaid tra rydych chi’n dweud: 

Gadewch i ni feddwl am yr adegau pan na fuon ni’n garedig iawn wrth rywun,
adegau pan wnaethon ni ddweud celwydd,
adegau pan wnaethon ni dwyllo,
adegau pan wnaethon ni gymryd rhywbeth oedd yn eiddo i rywun arall.
Gadewch i ni feddwl sut mae hyn yn gwneud i ni deimlo.
Yn euog,
yn ddrwg,
yn annheilwng.
Nawr, gadewch i ni ddwyn i gof yr adegau y bu rhywun arall yn angharedig wrthym ni.
Wrth i ni ofyn am faddeuant y rhai rydyn ni wedi brifo’u teimladau, gadewch i ni heddiw wneud addewid i faddau i’r rhai hynny sydd wedi brifo’n teimladau ninnau.

(2) Nid yw’n ddigon dim ond anghofio am y gorffennol a gadael i bethau fod.  Yn wir, mae dim ond dweud hynny yn sicrhau nad felly y bydd.  Mae cymodi yn beth anodd ei wneud.  Mae credu hynny yn debyg o olygu na fydd cymodi’n digwydd.   Rhaid i ni weithio a herio’r bwystfil.   Yn y pen draw, fe welwch chi mai heb faddeuant, ni fydd dyfodol.   Nid peth amhendant, anymarferol a delfrydyddol yw maddeuant, mae’n beth hollol realistig.
(addasiad o ddyfyniad gan yr Archesgob Desmond Tutu)
It is not enough to say let bygones be bygones.  Indeed, just saying that ensures it will not be so.  Reconciliation does not come easy.  Believing it will ensure that it will never be.  We have to work and look the beast firmly in the eyes.  Ultimately you discover that without forgiveness, there is no future.  Forgiveness is not vague, impractical and idealistic.  It is thoroughly realistic.
(Archbishop Desmond Tutu)

Gweddi
Arglwydd Iesu,
Fel mae’r glaw yn glanhau’r ddaear,
a bwyd yn rhoi maeth ac egni i ni,
ac fel mae cwsg yn ein hatgyfnerthu,
felly mae maddeuant yn dod â heddwch i ni.

Helpa ni i faddau i’r rhai hynny sydd wedi pechu yn ein herbyn,
Rho faddeuant i ni fel y byddwn ninnau’n maddau i eraill,
A thyrd â’th Deyrnas yn nes atom ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon