Rydw I’n Dal I Chwilio
Datblygu’r ddealltwriaeth bod y bywyd ysbrydol yn siwrnai barhaus yn hytrach na thaith sy’n dod i ben.
gan Paul Hess
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Datblygu’r ddealltwriaeth bod y bywyd ysbrydol yn siwrnai barhaus yn hytrach na thaith sy’n dod i ben.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen copi o gân y band U2, ‘I still haven’t found what I’m looking for’ (oddi ar y CD The Joshua Tree neu U2: The Best of 1980–1990)
- Os yn bosib, argraffwch y rhan yma o’r gân ar gyfer arddangos y geiriau.
Gwasanaeth
- Chwaraewch y 2 funud a 50 eiliad cyntaf o’r gân ‘I Still Haven’t Found What I’m Looking For’ gan U2. (Mae’n bosib i chi wneud hyn tra mae’r disgyblion yn dod i mewn i’r gwasanaeth. Ond efallai y gwelwch chi y byddan nhw’n gwrando’n well, ac y bydd y gân cael mwy o argraff arnyn nhw os byddwch chi’n ei chwarae ar ôl i bawb setlo.)
- Darllenwch a thrafodwch y dyfyniad yma o’r gân:
‘I believe in the kingdom come
When all the colours will bleed into one
But yes I’m still running.
You broke the bonds,
You loosed the chains,
You carried my cross and my shame
You know I believe it
But I still haven’t found what I’m looking for ....’
Beth mae’n ddweud? Mae’n dweud - ei fod yn credu mewn tragwyddoldeb, pan fydd yr holl liwiau’n toddi’n un. Ond mae’n dal i redeg.
Mae’n dweud, ‘Fe dorraist y rhwymau,
Fe ddatodaist y cadwyni,
Fe gariaist fy nghroes a’m cywilydd
Rwyt ti’n gwybod fy mod i’n credu hynny
Ond dydw i byth wedi dod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano … - Mae’r gân yma, sydd ar yr albwm The Joshua Tree, yn enghraifft ardderchog o allu U2 i fynegi materion ysbrydol mawr eu cenhedlaeth. Mae’n gân hyfryd, ond mae rhywfaint o ddifrifwch yn perthyn iddi hefyd. Mae’n gân sy’n mynegi tensiwn mawr bodolaeth dynol ryw - rhywbeth sydd yn ein natur yn mynnu ei geisio ond yn methu ei gael yma ar y ddaear.
- Nid cân o ddadrithiad na sinigiaeth yw hi, ac nid cân am ein hanallu i ymrwymo ein hunain. Yn hytrach, dyma gan o ffydd (fe dorraist y rhwymau, fe ddatodaist y cadwyni, fe gariaist fy nghroes a’m cywilydd, rwyt ti’n gwybod fy mod i’n credu hynny - dyma eiriau o argyhoeddiad Cristnogol). Mae U2 yma yn datgan ein dibyniaeth lwyr ar ffydd.
- Eto dyma beth mae U2 yn ei ddweud wrthym ni am ffydd: nid cyrchfan yw ffydd, ond taith. Pan fyddaf yn gweld beth sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol, neu’n gweld y tlodi mawr sydd mewn nifer o wledydd y byd, alla i ddim dweud fy mod i wedi dod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano. Pan fyddaf yn edrych ar yr Eglwys - sy’n aml yn rhanedig ac aneffeithiol - alla i ddim dweud bob amser fy mod wedi dod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano. Pan fydda i’n edrych ar fy mywyd fy hun - gyda’i bechodau a’i wrthddywediadau - fe fyddwn i’n drahaus iawn pe byddwn i’n dweud fy mod wedi dod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano.
- Nid yw ffydd yn datgan ein bod wedi dod o hyd i’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano - yn hytrach, mae’n gwneud i ni fynd yn ein blaenau ar y daith ysbrydol. Yn yr Hen Destament, o amser Abraham, tad yr holl genhedloedd, mae pobl Israel yn cael eu darlunio fel pererinion. Mae Moses yn dyfalbarhau ar y daith o’r Aifft trwy’r Anialwch. Nid yw’r ffordd yn hawdd, mae’n siwrnai sy’n llawn rhwystrau ac anawsterau, ond mae’n siwrnai sydd wedi’i thrwytho â disgwyliadau a gobaith am Wlad yr Addewid.
- Mae ffydd yn goleuo ein bywydau - ond nid yw hynny’n golygu ei bod yn cynnig atebion hawdd i broblemau bywyd. Yn hytrach, mae ffydd yn ein gwahodd i ymuno ar y daith a dod yn rhan o’r Ymchwil Ddynol fawr. Mae ffydd yn mynnu ein bod yn peidio â bod yn hunanfodlon, ac yn fodlon ar y byd fel y mae, ond yn ymdrechu i geisio gwneud y byd yr hyn a ddylai fod. Fel Abraham a Moses, ac fel U2, rhaid i ninnau ymdrechu i geisio bod y bobl y cawsom ein galw i fod. Rhaid i ni ddyfalbarhau i chwilio am yr hyn rydyn ni’n ei geisio …
Amser i feddwl
Darlleniad:
Yn ei Lythyr at y Philipiaid, mae Paul yn amlinellu ei daith ysbrydol ei hunan – ac yna mae’n mynd yn ei flaen i egluro ei fod heb gyrraedd pen ei daith eto. Fe allech chi aralleirio beth mae Paul yn ei ddweud yn ei lythyr, yn syml fel : ‘Rydw i’n dal i chwilio’, neu, ‘rydw i’n dal heb ddod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano.’
‘Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu’r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu. Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.’
Philipiaid 3.12–14
Gweddi
Bydd gyda ni, Arglwydd, ar daith bywyd
a helpa ni bob amser i geisio Gwirionedd a Chyfiawnder.
Amen.