Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Desert island films

Herio’r myfyrwyr i wynebu’r rhagfarnau sydd yn eu bywydau.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i wynebu’r rhagfarnau sydd yn eu bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cynllunio eich rhestr o ffilmiau.

Gwasanaeth

  1. Pe baech chi’n cael eich gadael ar ynys anial, a phe byddai gennych chi beiriant chwarae DVD yn digwydd bod, tybed pa ffilmiau fyddech chi’n mynd  gyda chi i’w gwylio? Rhowch gyfle i’r myfyrwyr feddwl, ac yna gofynnwch am eu hawgrymiadau. 

    Holwch iddyn nhw beth sy’n gwneud y ffilmiau hynny’n hoff ffilmiau ganddyn nhw. Holwch yr un rhai ag oedd wedi awgrymu eu hoff ffilm.

    Pe byddwn i wedi bod mewn llongddrylliad ar ynys bell, dyma fyddai rhai o’r ffilmiau yr hoffwn i eu gwylio …. Rhowch enghreifftiau yma o’ch hoff ffilmiau ac eglurwch pam eich bod yn eu hoffi.

  2. Ond mae un ffilm arall yr hoffwn i sôn amdani yma. Dydw i ddim yn gwybod a fyddai hi ymysg y deg uchaf gen i, ond mae ganddi frawddeg agoriadol arbennig iawn. Mae’r ffilm yn dechrau gyda’r llefarydd yn dweud y geiriau canlynol: ‘This is the story of an unprejudiced heart.’

    Oes rhywun yn gwybod o ba ffilm y daw’r geiriau? Dyma gliw i chi; mae’n dod o ffilm i blant a ryddhawyd yn 1995.

    Yn y ffilm Babe mae hanes ‘mochyn defaid’, sy’n seiliedig ar lyfr o’r un enw gan Dick King-Smith. Efallai eich bod wedi darllen storïau gan yr un awdur pan oeddech chi gryn dipyn yn iau. Os na welsoch chi’r ffilm, mae’r stori am fochyn bach sy’n cael ei fabwysiadu gan gi defaid, ac wrth dyfu mae’r mochyn eisiau bod yr un fath â’r ci defaid, a gwneud yr un gwaith. O ran yr ochr dechnegol, mae’r ffilm yn un nodedig iawn gan ei bod wedi’i llunio trwy ddefnyddio anifeiliaid animatronig ac effeithiau CGI  - am y tro cyntaf, fel hyn. 

    Nawr, fel arfer, fe fyddai mochyn bach yn cael ei besgi a’i baratoi ar gyfer y  bwrdd (i’w fwyta), ond mae’r mochyn bach yma’n un dewr iawn. Mae’n gallu profi i’r ffermwr ei fod yn gallu casglu’r defaid ynghyd - ac mae’n gallu gwneud hynny’n dda iawn hefyd. Tra bydd y cwn defaid yn casglu’r defaid ynghyd trwy gyfarth arnyn nhw a’u bygwth, mae’r mochyn defaid hwn yn eu casglu ynghyd trwy ofyn yn gwrtais iddyn nhw wneud yr hyn mae’n ei ofyn iddyn nhw. Mae’n ffilm ddoniol a theimladwy. A phrif bwynt y plot yw’r ffaith fod Babe yn gallu gweithio’n dda gyda’r defaid, am fod ganddo galon ddiragfarn, Dydi gweithio gyda’r defaid yn poeni dim ar y mochyn bach. Mae’r cwn yn meddwl bod y defaid yn wirion. A does gan y mochyn ddim problem ynghylch gweithio gyda’r cwn, am ei fod wedi ennill ei statws i weithio fel ci. Mae Babe fel petai’n gallu pontio’r bwlch rhwng y defaid a’r cwn, gan ei fod yn gallu ymwneud â’r holl anifeiliaid eraill yn barchus a charedig.

  3. Gwell i mi beidio â difetha’r ffilm i’r rhai sydd heb ei gweld, trwy ddweud gormod am sut mae’n gorffen. Ond, fe allaf ei chymeradwyo fel ffilm gwerth ei gweld, y enwedig os oes gennych chi blant iau yn ei gwylio gyda chi. 

    I mi, yn bersonol, y peth pwysig am y ffilm yw ei neges. Mae Babe yn llwyddo i wneud yr hyn mae’n ei wneud oherwydd ei agwedd tuag at fywyd, a’i agwedd tuag at eraill. ‘This is the story of an unprejudiced heart.’ Dyma stori’r galon ddiragfarn. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cwrdd ag unrhyw un y gallaf ddweud hynny amdano. Ydych chi?

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am yr adegau pan fuoch chi’n ddioddef oherwydd rhagfarn.

Oedd hynny am eich bod chi’n rhywun ifanc?
Oedd hynny oherwydd lliw eich croen?
Oedd hynny am eich bod chi’n perthyn i genedl wahanol?
Oedd hynny oherwydd y ffordd roeddech chi’n siarad?
Oedd hynny am fod gennych chi anabledd?
Oedd hynny am eich bod chi yr un ydych chi?

Nawr, meddyliwch am yr adegau rydych hi wedi ymddwyn mewn ffordd ragfarnllyd tuag at rywun arall.

Oedd hynny am eu bod nhw wedi gwneud yr un peth i chi?
Oedd hynny oherwydd lliw eu croen?
Oedd hynny am eu bod yn dod o rywle arall?
Oedd hynny am eu bod yn wahanol i chi?

Dyma stori’r galon ddiragfarn. ‘This is the story of an unprejudiced heart.’ Meddyliwch am sut yr hoffech chi i’ch bywyd fod yn wahanol oherwydd bod rhyw fath o ragfarn wedi cael ei dileu.

Nawr, meddyliwch am sut y gallwch chi gael gwared ag un o’ch rhagfarnau. Meddyliwch am foment ynghylch sut y gallech chi herio unrhyw ragfarn y gallech chi ddod ar ei thraws neu fod yn rhan ohoni, heddiw.

Efallai yr hoffech chi ymuno yn y weddi hon.

Rho i mi galon ddiragfarn,
a helpa fi i wrthwynebu unrhyw fath o ragfarn a ddaw i’m rhan heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon