Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Pasg

Archwilio’r syniad o farw ac atgyfodi, trwy gymharu hanes y Pasg â’r stori yn y ffilm Star Wars.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o farw ac atgyfodi, trwy gymharu hanes y Pasg â’r stori yn y ffilm Star Wars.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o gerddoriaeth thema'r ffilm Star Wars; oddi ar CD, neu fe allwch lwytho’r gerddoriaeth i lawr o wefan.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch gerddoriaeth y ffilm Star Wars wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth. 

    Gall stori’r Pasg fod yn un anodd ei deall. Mae’r hanes am ddyn yn cael ei ladd ac yna’n dod yn ôl yn fyw, nid yn unig yn rhywbeth unigryw, ond hefyd yn anodd i ni ei gredu weithiau. Mae’n bosib awgrymu bod ffilm wreiddiol Star Wars yn cynnwys deunydd allai fod yn ddefnyddiol i ni wrth geisio deall stori’r Pasg.

  2. Os nad ydych chi wedi gweld y ffilm wreiddiol, sydd yn cael ei galw’n ‘Episode 4’ gyda llaw (er mai honno oedd y gyntaf), ac a ryddhawyd yn 1977, dyma grynodeb byr iawn i chi:

    ‘Amser maith yn ôl, mewn galaeth ymhell bell i ffwrdd….’ Ein harwr yw dyn ifanc o’r enw Luke Skywalker. Mae’n byw gyda’i fodryb a’i ewythr, ac mae’n breuddwydio am gael bod yn beilot mewn brwydrau yn y gofod - fighter pilot, yn ymladd gyda’r gwrthryfelwyr yn erbyn yr ymherodraeth ddieflig, yr evil Empire. Mae ei ewythr yn prynu dau robot iddo - ‘droids’ - ac mae un ohonyn nhw’n rhedeg i ffwrdd. Wrth chwilio am y droid, R2-D2, mae Luke yn cwrdd â’r meudwy, Ben Kenobi. Mae rhyw ddirgelwch yn perthyn i Ben Kenobi, ac mae Luke yn darganfod wedyn fod Ben Kenobi yn un o’r Jedi knights, Obi Wan Kenobi.

    Pan aethon nhw’n ôl i’r ffarm lle'r oedd Luke yn byw gyda’i ewythr a’i fodryb, fe welson nhw fod y ddau wedi cael eu lladd gan yr Empire storm troopers, a oedd yn chwilio am y droids. 

    Mae Luke yn darganfod neges ffilm oedd wedi’i chuddio yn y droid, ac mae’n mynd gyda Ben i ddod o hyd i’r un oedd wedi anfon y neges. Princess Leia oedd wedi ei hanfon. Roedd Leia’n cael ei dal yn gaeth gan yr Empire ar loeren enfawr o’r enw Death-star.

    Gyda help Hans Solo, capten y llong ofod yr oedden nhw’n teithio ynddi, fe achubwyd y ferch. Ond, wrth iddyn nhw redeg yn ôl i’r llong ofod er mwyn cael dianc oddi yno, mae Ben yn cael ei hun mewn brwydr gyda’r arch-elyn, Darth Vader, sef cyn aelod o’r Jedi knights ond a oedd erbyn hynny’n gwasanaethu’r  Empire ddrwg. Mae’r ddau, Ben a Darth Vader, yn ymladd gornest, gan ddefnyddio math o gleddyfau laser - light sabres.

    Mae Luke yn troi i ddisgwyl am Ben, ac mae Ben yn troi i edrych arno yntau yn dawel am foment, ac wedyn mae Ben yn dweud wrth Darth Vader: ‘If you strike me down I shall become more powerful than you can possibly imagine.’ Mae’n sefyll, gan edrych ar Darth Vader, ac mae hwnnw’n ei daro â’r cleddyf laser. Ond, yn rhyfedd iawn, wrth i Ben syrthio’n farw daw i’r amlwg nad oes corff yno, dim ond pentwr o ddillad, ac fe glywn ni lais yn dweud wrth Luke am ddianc: ‘Run, Luke, run.’ Mae Luke yn rhedeg ac yn dianc, ac mae’r stori’n mynd yn ei blaen.

  3. Tua diwedd y ffilm, mae Luke yn hedfan yn yr ymosodiad i ddinistrio’r Death-star. Pe byddai’r ymgyrch honno’n methu, fe fyddai bywyd planed gyfan, sef cartref Leia, yn cael ei chwalu am byth. Wrth hedfan i ganol y lloeren, mae Luke yn clywed llais Ben unwaith eto yn ei annog ac yn dweud, ‘Feel the force.’ Mae’n diffodd ei radar ac yn canolbwyntio â’i holl egni …. Mae’n well i mi beidio â difetha’r cwbl i chi trwy ddweud beth sy’n digwydd ar y diwedd, ond mae’n debyg y gallwch chi ddyfalu! 

    Ar y diwedd, fe welwn ni rith o Ben yn gwenu ar Luke a’r lleill.

  4. Mae’r stori’n troi o amgylch marwolaeth Ben. Mae Ben yn marw, ac mae’r llong ofod y mae Luke, Hans Solo a Leia ynddi yn cael dianc ac maen nhw’n dod yn ôl i ddinistrio’r Death-star. Fe allech chi ystyried y stori ochr yn ochr â stori dyn diniwed yn marw er mwyn ei gwneud hi’n bosib i’r lleill fynd yn rhydd. 

    Ond sylwch beth ddywedodd Ben wrth i Darth Vader ei ladd: ‘If you strike me down I shall become more powerful than you can possibly imagine.’

  5. Trwy gydol y ddwy ffilm sy’n dilyn, (Episode 5 ac Episode 6), daw Ben i’r golwg dro ar ôl tro - wyddoch chi ddim pryd na ble y bydd nesaf, gan nad yw o hynny ymlaen wedi’i leoli yn un man neilltuol. Does dim gwahaniaeth i ble bydd Luke yn mynd, mae Ben yno yn dal i’w arwain a’i helpu. Wrth ymadael â’i gorff, mae ysbryd Ben wedi’i ryddhau i fod gyda Luke ble bynnag a phryd bynnag y bydd ar Luke ei angen.

  6. Ac felly y mae pethau ar adeg y Pasg. Mae Iesu’n marw, ond wedyn, yn ddiweddarach mae ei ffrindiau, ei ddisgyblion yn dweud eu bod wedi’i weld eto. Mae’n gallu cerdded trwy ddrysau wedi’u cau, a bod mewn dau le ar yr un pryd mewn ffordd - yn amlwg, a phobl yn ei adnabod, ond ddim fel petai yn ei gorff fel o’r blaen. Mae hyn yn union fel rydyn ni’n gweld Ben yn y ffilm. Nid marwolaeth yw’r diwedd, yn hytrach, mewn rhyw ffordd, mae’n ddechrau bywyd newydd heb fod yn gyfyngedig, lle mae’r un sydd wedi marw yn awr yn rhydd i fod ble bynnag y bydd ei angen - ledled y gofod cyfan yn achos Ben, neu yn achos Iesu, ledled ein planed.

  7. Felly, yn ystod y Pasg eleni, pan fyddwch chi’n methu deall yr hyn y mae Cristnogion yn cyfeirio ato fel marwolaeth a bywyd newydd Iesu, efallai y gallwch chi feddwl am Obi Wan, Ben Kenobi, a chofio’r geiriau: ‘If you strike me down I shall become more powerful than you can possibly imagine.’ Gan fod hynny’n wir.

Amser i feddwl

Gweddi:
Nawr mae’r egin ir yn tyfu
O’r gronyn yn y ddaear
Y gronyn yd fu’n cuddio’n hir
Yn nwfn y pridd am ddyddiau lawer.
Mae cariad yn fyw yn ein plith
Fel yr yd fu ynghudd yn y tir
Mae cariad yma o’n cwmpas i gyd
Fel yr yd a’r egin yn tyfu’n ir.
Amen.
(Addasiad)

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon