Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Safle We er Helpu’r Newynog

Archwilio ffordd syml y gallwn ni i gyd gyfrannu at roi bwyd i’r rhai sy’n newynog.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ffordd syml y gallwn ni i gyd gyfrannu at roi bwyd i’r rhai sy’n newynog.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

    1. Gallwn amcangyfrif bod tua 1 biliwn o bobl yn y byd yn dioddef o newyn a diffyg maeth. Mae hynny gant o weithiau’n fwy na’r nifer sy’n marw o’r achosion hyn bob blwyddyn. Mae tua 24,000 o bobl yn marw bob dydd o newyn neu achosion yn gysylltiedig â diffyg bwyd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd y nifer tua 35,000, ac ugain mlynedd yn ôl roedd mor uchel â 41,000. Plant o dan bump oed yw tri chwarter y rhai sy’n marw.

    2. Y wefan The Hunger Site oedd y safle weithredaeth ar-lein gyntaf ar y rhyngrwyd, ac fe’i sefydlwyd ar 1 Mehefin 1999. Mae’r safle yn manteisio ar yr hyn sy’n bosib ei wneud trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, er budd angen dyngarol penodol: sef dileu newyn  yn y byd. Ar gyfartaledd, mae dros 220,000 o unigolion o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r safle bob dydd ac yn clicio ar y botwm ‘Give free food’, a thrwy wneud hynny’n helpu i fwydo’r rhai newynog.

    3. Y rheswm pam fod The Hunger Site mor llwyddiannus, mae’n debyg, yw oherwydd bod pobl yn gallu rhoi rhodd heb i hynny gostio dim iddyn nhw. Yr unig beth y mae’n rhaid i’r rhai sy’n ymweld â’r safle ei wneud yw clicio unwaith y dydd ar y botwm ‘Give free food’. Yna, fe allan nhw fynd ymlaen at ran arall o’r wefan lle byddan nhw’n gweld eu bod wedi rhoi 1.1 llond cwpan o fwyd sylfaenol i rai sy’n newynog. Ar yr un pryd, fe fyddan nhw’n gallu gweld y ffeithiau diweddaraf ynghylch sawl cwpanaid o’r bwyd sydd wedi’i gyfrannu'r diwrnod hwnnw. Mae’r arian sy’n talu am y bwyd hwnnw yn dod o daliadau am hysbysebion ar y dudalen ddilynol ar y wefan. Cynnyrch fel canhwyllau, basgedi a breichledau lapis o Afghan, a phethau ethnig felly sy’n cael eu hysbysebu yma. Bydd rhagor o fwyd yn cael ei gyfrannu gan y rhai sy’n hysbysebu wedyn, yn ôl fel mae’r eitemau’n cael eu  prynu.

    4. Noddwyr y safle sy’n talu am y bwyd sy’n cael ei roi trwy’r Hunger Site, ac mae’n cael ei ddosbarthu i’r rhai anghenus gan Mercy Corps ac America's Second Harvest, dwy elusen gyswllt arall. Mae 100% o arian yr hysbysebwyr ar faner y noddwyr yn mynd i bartneriaid elusen y safle. Caiff yr arian ei rannu rhwng yr elusennau a’i ddosbarthu i helpu pobl mewn mwy na 74 o wledydd, yn Affrica, Asia, Dwyrain Ewrop, y dwyrain Canol, America Ladin a Gogledd America.

    5. Ers pan sefydlwyd y safle, mae mwy na 330 miliwn o ymwelwyr, trwyddi, wedi rhoi mwy na 14,000 o dunelli metrig o fwyd i’r rhai sy’n dioddef o newyn. Mae 70% o’r rhain yn cael ei rannu’n rhyngwladol a’r 30% arall yn cael ei rannu i fwydo’r newynog yn Unol Daleithiau America. Yn groes i’r hyn mae pobl yn ei gredu, mae newyn yn fater difrifol yn yr Unol Daleithiau. Yn 1999, blwyddyn sy’n cael ei nodi fel blwyddyn economaidd dda, roedd cymaint â 31 miliwn o bobl America yn ansicr ynghylch eu bwyd, yr hyn a nodir fel bod yn ‘food insecure’. Ystyr hynny yw bod y bobl naill ai’n newynog, neu’n ansicr o ble y daw eu pryd nesaf. O’r 31 miliwn hwnnw, roedd 12 miliwn yn blant.

    6. Ym mis Awst 2001, prynwyd y wefan gan Tim Kunin a Greg Hesterberg, sy’n gweithio i gynnal safle’r wefan fel un flaenllaw o ran bod yn wefan weithredaeth ar-lein, ac o ddifrif yn y frwydr i ddileu newyn yn y byd. Yn ogystal â’r safle The Hunger Site, mae Kunin a Hesterberg yn berchen ar y gwefannau canlynol hyn, ac yn eu cynnal hefyd:
The Breast Cancer Site, lle mae’n bosib i ni helpu ariannu mamogramau ar gyfer gwragedd difreintiedig.
The Rainforest Site, lle mae’n bosib i ni glicio a helpu i arbed y fforestydd glaw sydd dan fygythiad.
www.GreaterGood.com, y siop ar-lein lle mae hyd at 15% o bob pryniant yn mynd tuag at elusennau a hynny heb unrhyw gost ychwanegol i’r pryn wr.

       Ers pan brynodd, Kunin a Hesterberg The Hunger Site, maen nhw hefyd wedi lansio:

The Animal Rescue Site, lle mae pobl yn gallu clicio er mwyn helpu i  fwydo anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael.
The Child Health Site, sy’n rhoi’r gallu i rai sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i ariannu gwasanaeth sylfaenol, ond hanfodol, ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi yn y gwledydd sy’n datblygu.

Mae’n bosib rhoi rhoddion trwy’r holl wefannau hyn yn hollol am ddim, ac maen nhw’n defnyddio’r un system hysbysebu er mwyn darparu’r rhoddion.

7. Heddiw,* mae dros 159,000 llond cwpan o fwyd wedi cael ei gyfrannu fel hyn yn rhad ac am ddim. Yn 2004, cyfrannwyd dros 48 miliwn cwpanaid. Mae’n bosib ystyried gwir lwyddiant hyn wrth i chi ystyried nad oedd y rhan fwyaf o’r cyfraniadau wedi costio dim i’r rhai a’u rhoddodd. 

Gyda 3.5 miliwn o ymwelwyr yn ymweld â’r safle bob mis, mae The Hunger Site yn un o’r gwefannau prysuraf ar y rhyngrwyd. Mae hefyd wedi ennill dwy brif wobr ar y rhyngrwyd, sy’n profi bod y prosiect uchelgeisiol hwn yn llwyddiant sy’n parhau i dyfu.

Amser i feddwl

Fe ddywedodd cyn ganghellor o’r Almaen: ‘Mae hanes wedi dangos i ni fod rhyfeloedd yn achosi newyn, ond rydym yn llai ymwybodol o’r ffaith y gall tlodi torfol arwain at ryfel neu ddiweddu mewn anhrefn llwyr.’
Cofiwch ymweld â’r wefan: www.thehungersite.com , neu well fyth fyddai gwneud hon yn dudalen cartref bersonol i chi, fel gallwch chi glicio arni bob tro y byddwch chi’n cysylltu â’r rhyngrwyd, a rhoi rhodd dim ond wrth bwyso botwm.

Gweddi:
Gadewch i ni fod yn dawel am foment a meddwl am y ffigurau rydyn ni newydd fod yn sôn amdanyn nhw.
Bydd 24,000 o bobl yn marw o newyn yn 2008. O’r rheini, fe fydd 18,000 yn blant.
(Saib)
Rydyn ni’n diolch i ti am bopeth sydd gennym ni.
Helpa ni i roi i eraill, wrth bwyso botwm, bob dydd.
Bydd gyda’r rhai sydd heb fwyd heddiw.
Helpa ni i wneud beth bynnag sy’n bosib i ni ei wneud, er mwyn gwneud y byd yn decach lle i fyw ynddo.
Amen.

* Gwiriwch y rhif dyddiol cywir ar y wefan, ar y cyfeiriad gwefan uchod.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon