Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydyn ni i gyd yn hwn, gyda’n gilydd!

Amlygu pa mor ryng-gysylltiedig yw pawb yn y byd, a dangos y gallwn ni wneud gwahaniaeth.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Amlygu pa mor ryng-gysylltiedig yw pawb yn y byd, a dangos y gallwn ni wneud gwahaniaeth.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Pan fyddwch chi’n gweld lluniau o blant newynog mewn gwersylloedd ffoaduriaid, a lluniau o blant sy’n filwyr gyda gynnau yn eu dwylo yn hytrach na theganau, neu luniau teuluoedd yn didoli pethau ar domennydd sbwriel neu’n chwilio am rywbeth i’w fwyta yno, tybed beth sy’n mynd trwy’ch meddwl?

    Beth allaf fi ei wneud am y peth?
    Waeth beth wnaf fi, fydd hynny’n gwneud dim gwahaniaeth.
    Beth sydd a wnelo hyn â fi?

    (Saib)

    Mae’r byd yn mynd yn llai. Na, nid yn llythrennol - dydi’r byd ddim yn crebachu nes y bydd yn y diwedd yr un faint â’r glôb yma sydd gennym ni heddiw! (Dangoswch y glôb). Mewn ffordd o siarad yn unig y mae’n mynd yn llai, fel er enghraifft, trwy gyfrwng adroddiadau ar y teledu ac yn y papurau newydd, y rhyngrwyd a’r teithiau awyren rhad, rydyn ni’n gwybod mwy, yn gallu gweld mwy, ac yn ymwneud mwy â’r byd mawr. 

    Pa un a ydyn ni’n hoffi hynny ai peidio, mae beth bynnag fyddwn ni’n ei wneud, yn gwneud gwahaniaeth.

  2. Gwahoddwch 12 o blant i sefyll mewn cylch o’ch blaen. Wrth i chi ddweud pob datganiad yn ei dro, rhowch ddau ben ruban i ddau blentyn sy’n sefyll  gyferbyn â’i gilydd yn y cylch. Ac felly, fe fyddwch chi’n creu rhyw fath o we yng nghanol y cylch.

  3. Trwy brynu siocled Masnach Deg, fe allwch chi helpu rhieni yn Ghana i anfon eu plant i’r ysgol. Nid yw’r gymdeithas gydweithredol Masnach Deg, y Kuapa Kokoo, yn twyllo’r ffermwyr yno, fel mae rhai asiantaethau eraill yn ei wneud trwy ddefnyddio cloriannau sydd ddim yn mesur yn gywir. Mae’r gymdeithas gydweithredol yn buddsoddi mewn prosiectau i wella bywoliaeth y ffermwyr a gwellau’u hiechyd a safon eu haddysg.

    Trwy wisgo dillad wedi’u gwneud o ddefnyddiau cotwm organig, fe allwch chi leihau’r effaith ar yr amgylchedd a’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ffermio confensiynol. Mae cotwm sydd wedi’i dyfu’n gonfensiynol yn China yn cael ei chwistrellu â phlaladdwyr 20 gwaith bob tymor. Mae’r plaladdwyr yn cynnwys cemegolion carsinogenaidd sydd wedi’u gwahardd yn Unol Daleithiau America ac yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhain yn niweidiol iawn i’r plant ifanc sy’n cynaeafu’r cotwm, yn llygru’r cyflenwad dwr, ac yn niweidiol i’r amgylchedd .

    Trwy ddefnyddio bylbiau golau ynni isel, fe allwch chi wneud eich rhan i arafu’r newid yn yr hinsawdd. Dyma’r newid sy’n gyfrifol am ddifrodi cartrefi a bywydau yn Ne Affrica o ganlyniad i’r llifogydd mawr sy’n digwydd yno. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn awr, a phobl dlotaf y byd sy’n talu’r pris fel mae’n digwydd.

    Trwy ailddefnyddio bagiau plastig, fe allwch chi leihau’r nifer ohonyn nhw sy’n sbwriel ledled ein planed. Mae’r siopau ym Mhrydain yn rhannu cymaint â 13 biliwn o fagiau plastig bob blwyddyn. Caiff tua miliwn ohonyn nhw’u defnyddio bob munud trwy’r byd - ac yna maen nhw’n cael eu taflu. A dydi’r rhan fwyaf o’r bagiau yma ddim yn fioddiraddadwy, felly dydyn nhw ddim yn malurio mewn amser. Mae’r rhain yn fygythiad marwol i fywyd gwyllt, yn enwedig yn y moroedd.

    Trwy yfed sudd oren Masnach Deg, fe allwch chi wella ansawdd bywyd pobl yn Cuba, pobl fel Esperanza. Mae hi’n dweud: ‘Mae hi wedi bod yn wych cael newid o fod yn byw mewn cartref sydd â llawr pridd, i fyw mewn cartref â llawr concrid ynddo. Nawr, fe allai i gael dodrefn yn fy nghartref ac mae’n hawdd cadw’r lle yn lân. Does dim glaw yn dod i mewn pan fydd hi’n bwrw. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Masnach Deg am wneud hyn yn bosib.’

    Trwy brynu a bwyta pysgod sydd wedi’u dal mewn ffordd gyfrifol, fe allwch chi helpu i ofalu y bydd digon o bysgod yn parhau i fod yn y môr. Oherwydd bod moroedd ein planed yn cael eu gorbysgota, mae rhai mathau o bysgod mewn peryg o ddiflannu am byth, os na chaiff rhywbeth ei wneud ar frys. Mae gorbysgota’n niweidio’r diwydiant pysgota a’r amgylchedd morwrol ym mhob cwr o’r byd.

  4. Trwy wneud ein rhan, fe allwch chi wneud gwahaniaeth i sut mae ein byd yn gweithio. (Taflwch y glôb ar y we rubanau a gadewch i’r plant ei dal yno.)

Amser i feddwl

(Fe fyddai’n symbol gweledol da pe gallai’r plant sy’n dal y glôb ar y rubanau ei dal yno yn ystod eich ‘Amser i feddwl’. Ond os ydych chi’n credu y byddai hynny’n tynnu gormod o sylw, yna fe allai’r plant fynd i eistedd a gadael i chi ddal y glôb.)

Rydyn ni i gyd yn hwn, gyda’n gilydd.
Pob unigolyn, pob anifail, aderyn, pysgodyn, pob coeden a phlanhigyn…
Pob un yn rhan o’r byd rhyfeddol yma rydyn ni i gyd yn byw ynddo.
Neu fel mae Gabriella yn dweud yn yr High School Musical:
‘Rydyn i gyd yn hwn, gyda’n gilydd’, neu, ‘We’re all in this together’.

(Chwaraewch/ canwch y pennill cyntaf o ‘We’re all in this together’ o’r High School Musical.)

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon